Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Saesneg

Saesneg yw iaith swyddogol y Deyrnas Unedig a chaiff ei siarad gan tua 400 miliwn o bobl dros y byd.

Saesneg dros y byd

Am ganrifoedd dim ond ar Ynysoedd Prydain yr oedd Saesneg yn cael ei siarad, ond bellach mae hi'n iaith gyntaf i dros 400 miliwn o bobl ac mae hi'n iaith allweddol i 300 miliwn arall wrth ddelio â sefydliadau busnes, academaidd a gwleidyddol eu gwledydd. Amcangyfrifir bod Saesneg yn cael ei dysgu i 1,000 miliwn o bobl fel ail iaith at ryw lefel.

Acenion a thafodieithoedd Lloegr

Mae 'na amrywiaeth sylweddol yn y ffordd yr ynganir Saesneg (acenion rhanbarthol) ac yn y defnydd o reolau gramadegol a geirfa (tafodieithoedd) ar draws y wlad.

Mae'r Llyfrgell Brydeinig wedi cyhoeddi enghreifftiau o dafodieithoedd rhanbarthol y DU ar y we. Mae'r darnau wedi'u tynnu o ddau adnodd sain swmpus sydd yn Archif Sain y Llyfrgell Brydeinig: yr Arolwg o Dafodieithoedd Lloegr a Banc Cof y Mileniwm. Maent yn darparu trosolwg o Saesneg llafar yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Dysgu Saesneg

Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, fe allwch ddilyn cwrs i'ch helpu i wella'ch Saesneg. Gelwir y cyrsiau hyn yn ESOL neu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill. Cewch wybod mwy trwy ddilyn y ddolen isod.

Cymraeg

Cymraeg modern yw disgynnydd uniongyrchol yr iaith Geltaidd a oedd yn cael ei siarad ym Mhrydain adeg ymosodiadau'r Eingl-Sacsoniaid yn y 5ed ganrif.

Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn sefydlu cydraddoldeb yr iaith Gymraeg a'r iaith Saesneg yng Nghymru o dan y gyfraith. Mae’n gosod dyletswydd ar y sector cyhoeddus i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru.

Yn ôl canlyniadau cyfrifiad 2001, roedd 582,368 o bobl tair oed a throsodd yn gallu siarad Cymraeg - 20.8 y cant o boblogaeth Cymru.

Prif swyddogaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg yw hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg. Mae'n darparu amrywiaeth o wybodaeth am y Gymraeg.

Gaeleg yn yr Alban

Cofnodwyd yng Nghyfrifiad 2001 bod 65,674 o bobl tair oed a throsodd yn gallu siarad, darllen neu ysgrifennu Gaeleg - 1.3 y cant o boblogaeth yr Alban.

Mae Llywodraeth yr Alban yn darparu gwybodaeth yn yr iaith Aeleg.

Cernyweg

Ers 2002, mae llywodraeth y DU wedi cydnabod Cernyweg fel iaith leiafrifol, o dan Siarter Ewrop ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol. Mae'r Siarter yn amddiffyn ac yn hyrwyddo ieithoedd hanesyddol rhanbarthol a lleiafrifol yn Ewrop, fel cydnabyddiaeth o'r cyfraniad y maent yn ei wneud i amrywiaeth ddiwylliannol a thraddodiadau hanesyddol Ewrop, ac i leihau'r perygl i'r iaith ddiflannu.

Additional links

Gwyliau, gwaith ac astudio ym Mhrydain

Syniadau am wyliau, canllaw i leoliadau, dyddiadur digwyddiadau, a chynigion a hyrwyddiadau arbennig

Allweddumynediad llywodraeth y DU