History and Tour

James Callaghan


Jim Callaghan outside Downing Street in 2002

Ganed: 27 Mawrth 1912 yn Portsmouth, Hampshire

Dyddiad ei dderbyn i’r Senedd gyntaf: 5 Gorffennaf 1945

Ei oedran wrth ddod yn Brif Weinidog: 64 mlynedd, 9 diwrnod

Araith forwynol: 20 Awst 1945 yn ystod y Ddadl ar Araith y Brenin ynglyn â’r sefyllfa yn y Môr Tawel wedi i’r Siapaneaid ildio

Hyd ei gyfnod yn Brif Weinidog: Tair blynedd, 29 diwrnod

Bu farw: 26 Mawrth 2005 yn Nwyrain Sussex

Ffeithiau a Ffigyrau

Llysenwau: “Jim Mawr” (”Big Jim”) a “Jim Siriol” (”Sunny Jim”)

Addysg: Ysgol Uwchradd Gogledd Portsmouth

Teulu: James Callaghan oedd yr unig fab a’r ieuengaf o ddau blentyn. Priododd Audrey Elizabeth Moulton, ac roedd ganddynt fab a dwy ferch.

Diddordebau: Rygbi, tenis, amaethyddiaeth

Manylion bywgraffyddol

Gyrfa yn dreth

Roedd James Callaghan yn fab i brif is-swyddog yn y llynges a fu farw pan oedd ei fab yn ddim ond naw mlwydd oed. Gadawodd yr ysgol yn 14 oed. Bu’n gweithio fel swyddog treth ac yn ddiweddarach cafodd ei gyflogi gan Gyngres yr Undebau Llafur (TUC).

Ar ôl gwasanaethu yn yr Ail Ryfel Byd etholwyd ef yn AS Llafur dros Dde Caerdydd ym muddugoliaeth etholiadol ysgubol Llafur wedi’r rhyfel. Yn ddiweddarach bu’n cynrychioli De-ddwyrain Caerdydd. Cododd bob yn dipyn trwy rengoedd y blaid pan oedd yn yr Wrthblaid, gan sefyll dros yr arweinyddiaeth wedi i Gaitskell farw ym 1963. Collodd, ond cafodd gefnogaeth gan leiafrif parchus yn ei blaid.

Yn ei swydd yn Ganghellor y Trysorlys o 1964 ymlaen, bu penderfyniad Callaghan i beidio â dibrisio’r bunt yn un trychinebus. Wedi’r dibrisiant ymddiswyddodd Callaghan, a oedd bellach tan gwmwl, o’i swydd fel Canghellor a daeth yn Ysgrifennydd Cartref, lle’r adferodd ei enw da..

Yn ystod y cyfnod hwn anfonodd filwyr i Ogledd Iwerddon ym 1969 i ddelio gyda’r trais cynyddol yno. Roedd yn amddiffynnydd cadarn i’r undebau llafur a gwrthsafodd unrhyw ymgais i’w diwygio, gan ennill y teitl “ceidwad y cap fflat” (’keeper of the cloth cap’).

Penodwyd Callaghan yn Ysgrifennydd Tramor yr Wrthblaid a phan fu ei blaid yn llywodraethu ar ôl 1974 ei waith ef oedd ail-negodi telerau aelodaeth Prydain yn y Gymuned Ewropeaidd. Pan ymddiswyddodd Harold Wilson yn annisgwyl, nid Callaghan oedd y ffefryn i ennill yr arweinyddiaeth, gan mai ef oedd yr ymgeisydd hynaf yn 64 oed. Serch hynny, ef oedd yr ymgeisydd lleiaf cynhennus ac felly enillodd y bleidlais.

Mawr, hamddenol a golygus

Yn ystod ei gyfnod yn Brif Weinidog bu Callaghan - a gafodd ei ddisgrifio fel dyn ‘mawr, hamddenol a golygus’ (’big, relaxed and handsome’) - yn ymdrin ag argyfwng yng ngwerth y bunt. Arweiniodd hyn at drafodaethau gyda’r Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) ynglyn â chynllun i achub y bunt, ond llwyddodd serch hynny i gadw ei dîm yn y Cabinet ynghyd yn ystod y ddadl ynglyn â’r amodau a osodwyd.

Galwyd am gwtogi ar wariant ac ymatal rhag codi cyflogau, ond er gwaethaf hynny pleidleisiodd cynhadledd adain-chwith Llafur dros ragor o wariant.

Public service strike action brought about the 'winter of discontent'

Trodd pethau’n fwy anodd byth pan ddiflannodd mwyafrif bychan Llafur ym 1977, a olygai bod Llafur yn ddibynnol ar gefnogaeth y Rhyddfrydwyr. Ond parhaodd Callaghan yn ei swydd hyd yn oed pan chwalwyd y cytundeb hwn.

Yn ystod y ‘Gaeaf o Anfodlonrwydd’ ym 1978, tarodd gweithredu diwydiannol dros y polisi cyflogau dolc difrifol yn awdurdod y llywodraeth.

Collodd y llywodraeth bleidlais o hyder ynddi o un bleidlais yn unig ar 28 Mawrth 1979 - enghraifft glasurol o ddrama wleidyddol lawn tyndra.

Dylanwad ar drai

Gorfodwyd Callaghan felly i gynnal etholiad cyffredinol, a enillwyd gan Blaid Geidwadol Margaret Thatcher. Wrth i adain chwith y blaid Lafur gryfhau yn ystod y 1980au cynnar, edwinodd dylanwad Callaghan, ac ymddiswyddodd o’r arweinyddiaeth wedi 18 mis.

Ymddeolodd o Dy’r Cyffredin ym 1987. Gan ei fod yn arglwydd am oes, bu’n weithgar yn Nhy’r Arglwyddi wedi hynny.

Yn fuan cyn iddo farw gwahoddwyd ef i dderbyniad yn Stryd Downing gyda’r Frenhines a chyn Brif Weinidogion eraill. Dywedodd yn gellweirus wrth y gohebwyr y tu allan ei fod yn falch i fod yno eto.

Bu farw’r Arglwydd Callaghan yn ei gartref yn Nwyrain Sussex ar 26 Mawrth 2005, diwrnod yn unig cyn ei ben-blwydd yn 93 oed. Ef oedd y cyn Brif Weinidog mwyaf hirhoedlog yn hanes Prydain.

Dyfyniad diddorol

“Mae modd i gelwydd deithio hanner ffordd ar draws y byd cyn i’r gwirionedd wisgo ei esgidiau.”

A wyddech chi?

Credir mai ef oedd y prif weinidog talaf yn hanes Prydain, yn 6 throedfedd ac 1 fodfedd (185cm).

Dyfyniad o ‘araith Ruskin’ Callaghan ar ddyfodol addysg wladol, fis Hydref 1976

“Cafodd addysg chwistrelliad enfawr o adnoddau, yn rhannol er mwyn cwrdd â’r cynnydd yn y niferoedd ac yn rhannol er mwyn codi’r safon. Ond o dan yr amodau presennol go brin y gellir disgwyl cynnydd pellach yn yr adnoddau, ar hyn o bryd beth bynnag. Ofnaf mai cael eu siomi y gwnaiff y bobl hynny sy’n gweld galw am arian fel yr unig ateb i’r problemau hyn. Ond does bosib mai dyna ddiwedd ar y mater. Mae yna her i ni gyd heddiw ac un her ym maes addysg yw craffu ar ei blaenoriaethau a sicrhau’r effeithlonrwydd uchaf posibl trwy ddefnyddio’r adnoddau sydd ganddi yn barod yn fedrus.”

Gwraig

Audrey Elizabeth Callaghan nee MoultonRoedd Audrey Moulton yn wraig wleidyddol weithgar, a chanddi ddiddordeb oes ym maes lles plant. Hi oedd y cymar cyntaf i Brif Weinidog i ddilyn gyrfa annibynnol ac roedd yn ffigwr pwerus yn ei hawl ei hun cyn iddi fynd i Rif 10. Ym marn y cwpwl - fel sawl cwpwl cynt ac wedyn - roedd y fflat uwch ben y ty yn fach a byddai Audrey wedi hoffi gweld y ty ‘yn dal i fyny â’r dechnoleg newydd’. Ond roedd yn mwynhau’r décor a’r olygfa dros Barc St James.Roedd ei dealltwriaeth o wleidyddiaeth, ei hiwmor a’i phersonoliaeth gref yn gymorth i’w gwr trwy gyfnod tymhestlog yn hanes gwleidyddiaeth ym Mhrydain. Wedi i Callaghan cael ei drechu yn etholiad 1979 bu’r pâr (roedd ganddynt dri phlentyn) yn teithio’n helaeth ac yn parhau i weithio’n ddiflino dros wahanol elusennau.Dioddefai Audrey rhag clefyd Alzheimer yn ei blynyddoedd olaf ac ymroddodd Jim i ofalu amdani, gan ddweud “am chwe deg mlynedd fe roddodd hi’r gorau i bob dim er fy mwyn i a nawr rwy’n mynd i roi’r gorau i bob dim er ei mwyn hithau”.

Y Prif Weinidog blaenorol

        Edward Heath 1970-4 Ceidwadwyr

Y Prif Weinidog nesaf

        Margaret Thatcher 1979-90 Ceidwadwyr

Cofiwch ymweld â’n hadrannau hanesyddol difyr eraill

        Prif Weinidogion sydd wedi torri recordiau (yn Saesneg)

        Hanes 10 Stryd Downing

Newsletter

Around the Web

Flickr Logo Flickr RSS Feed

History and Tour