History and Tour

Cabinet in Welsh

Y Cabinet

Y Cabinet yw’r pwyllgor sydd wrth graidd system wleidyddol Prydain. Dyma’r prif gorff trwy’r llywodraeth gyfan sy’n gwneud penderfyniadau.

Bob dydd Mawrth yn ystod y cyfnod pan fo’r Senedd yn eistedd, bydd Ysgrifenyddion Gwladol o bob adran a rhai gweinidogion eraill yn cyfarfod yn ystafell y Cabinet yn Stryd Downing i drafod materion pwysig y dydd. Ar hyn o bryd mynychir y cyfarfodydd gan 22 o weinidogion cyflogedig ac un gweinidog digyflog a benodwyd i’r Cabinet, ynghyd â chwech o weinidogion ac arglwyddi eraill trwy wahoddiad.

Bu Cabinetau’r gwahanol lywodraethau’n cwrdd yn yr un ystafell er 1856. Bryd hynny gelwid Siambr y Cyngor arni.

Y Prif Weinidog sy’n cadeirio’r cyfarfodydd, yn dewis yr aelodau, ac yn argymell i’r Frenhines neu i’r Brenin y dylid eu penodi yn weinidogion.

Ysgrifennydd y Cabinet sy’n gyfrifol am baratoi cofnodion o’i drafodaethau a’i benderfyniadau.

Gweinidogion y Cabinet (yn Saesneg)
Rhestr lawn o weinidogion y Llywodraeth (yn Saesneg)

Newid diwrnod y cyfarfod

Pan ddaeth Gordon Brown yn Brif Weinidog ym mis Mehefin 2007, newidiwyd diwrnod cyfarfod rheolaidd y Cabinet o ddydd Iau i ddydd Mawrth. Er i’r Cabinet gwrdd ar ddydd Iau er 1963, bu’n cyfarfod ar ddyddiau eraill cyn hynny.

Rhwng 1955 a 1963, cynhelid cyfarfodydd y Cabinet ar ddydd Mawrth ac ar ddydd Iau. Rhwng 1945 a 1955, cynhelid y cyfarfodydd ar ddydd Llun a dydd Iau, a chyn yr Ail Ryfel Byd fe’u cynhelid fel arfer ar ddydd Mercher.

Penderfynodd Mr Brown i symud y cyfarfodydd i ddydd Mawrth oherwydd nad yw’r Senedd yn cyfarfod tan y prynhawn ar y diwrnod hwnnw. Ni fyddai’n rhaid i’r aelodau, felly, adael cyfarfodydd hirach yn gynnar oherwydd eu hymrwymiadau yn Nhy’r Cyffredin.

Hanes y Cabinet

Dechreuodd hanes modern y Cabinet yn yr 16eg ganrif gyda’r Cyfrin Gyngor, grwp bychan o gynghorwyr i’r Brenin neu’r Frenhines.

Byddai Syr Robert Walpole, y Prif Weinidog cyntaf, yn cynnal cyfarfodydd o Weinidogion y Brenin o bryd i’w gilydd - y Cabinet - ond nid ar ei ffurf bresennol.

Pwysleisiodd Deddf Ddiwygio 1832 bod angen i’r Senedd yn ogystal â’r Brenin neu’r Frenhines fod â llawn hyder yn y llywodraeth, a bod angen iddi ymddwyn mewn modd cyson a threfnus.

Sefydlodd William Pitt (1783-1801) hawl y Prif Weinidog i ofyn i weinidogion i ymddiswyddo. Ac felly y datblygodd y confensiynau ynghylch cydgyfrifoldeb y Cabinet a rheolaeth y Prif Weinidog. Golygai hyn y gallai Gweinidogion sefyll ysgwydd yn ysgwydd yn erbyn y Senedd dan arweinyddiaeth glir.

Hyd 1916, yr unig gofnod o benderfyniadau a wnaed gan y Cabinet oedd llythyr gan y Prif Weinidog at y Brenin neu’r Frenhines. Ym 1916 crëwyd Ysgrifenyddiaeth y Cabinet ‘Rhyfel’ a swydd Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r system hon wedi goroesi yn ei hanfod hyd heddiw.

Pwerau’r Cabinet

Nid oes gan y Cabinet bwerau cyfreithiol; Ysgrifenyddion Gwladol sydd yn dal y pwerau hynny. Ond mae ganddo gydgyfrifoldeb i’r Senedd fel bod ymrwymiad ar yr holl aelodau i gefnogi penderfyniadau’r Cabinet hyd yn oed os nad oeddent yn bresennol yn y cyfarfod.

Pwyllgorau’r Cabinet

Caiff llawer o waith y Cabinet ei ddirprwyo i Bwyllgorau.

Y Prif Weinidog sy’n penderfynu pwy sy’n eistedd ar y Pwyllgorau hyn a thros ba agweddau y byddant yn gyfrifol. Mae rhai o’r Pwyllgorau yn bodoli am gyfnodau byr er mwyn ymdrin â rhyw fater penodol.

Er 1992 cyhoeddir aelodaeth Pwyllgorau’r Cabinet. Mae gan benderfyniadau a wneir mewn Pwyllgorau awdurdod llawn y Cabinet ac ni fyddant yn dod ger bron y Cabinet llawn.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet

Mae’r Ysgrifenyddiaeth yn galw cyfarfodydd, yn dosbarthu papurau, yn paratoi’r agenda (o dan gyfarwyddyd y Prif Weinidog), yn ysgrifennu ac yn dosbarthu’r casgliadau, ac yn eu cadw.

Newsletter

Around the Web

Flickr Logo Flickr RSS Feed

History and Tour