Planning Portal

 
  1. Do you need permission (cy)
  2. Common Projects
  3. Estyniadau

Estyniadau

You are viewing guidance for Wales. To view guidance specific to England, please select the 'English site' option from the top right of this page.
Daeth rheoliadau newydd i rym ar 30 Medi 2013 a newidiodd y gwaith adeiladu y gellir ei wneud heb wneud cais am ganiatâd cynllunio. Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi arweiniad technegol ac arweiniad i ddeiliaid tai, sydd ar gael yma, Dylai’r arweiniad esbonio sut y bydd rheolau ‘datblygu a ganiateir’, o bosib, yn gymwys i’ch sefyllfa chi.

Caniatâd cynllunio

Bernir bod estyniad neu ychwanegiad i’ch tŷ yn waith datblygu a ganiateir, nad oes angen cais am ganiatâd cynllunio ar ei gyfer, cyhyd â’i fod yn cydymffurfio ag amodau a therfynau. Mae gwahanol derfynau ac amodau ar gyfer estyniadau yn y cefn neu estyniadau ar yr ochr, ac ar gyfer estyniadau un llawr ac estyniadau o fwy nag un llawr.

Pob Estyniad

  • Ni does modd adeiladu unrhyw estyniad o flaen prif ochr eich tŷ.
  • Ni ddylai estyniad orchuddio dros hanner y tir o amgylch y tŷ gwreiddiol.
  • Ni ddylai estyniad fod yn uwch na rhan uchaf to’r tŷ gwreiddiol.
  • Ni ddylai’r estyniad fod yn uwch na bargod y tŷ gwreiddiol.
  • Os yw’r estyniad o fewn 2 fetr i ffin eich tŷ, ni ddylai bargod yr estyniad fod yn fwy na 3 metr.
  • Os yw’r estyniad o fewn 2 fetr i ffin eich tŷ, ni ddylai fod yn uwch na 4 metr.
  • Rhaid i’r deunyddiau yn yr estyniad fod mor debyg ag sy’n bosibl i’r rhai yn y tŷ gwreiddiol.
  • Ni cheir adeiladu ferandas, platfformau uchel, terasau to na balconi.  Caniateir balconi ‘Juliet’ heb blatfform, nad yw’n ymestyn dros 300mm o’r estyniad, ac nad yw o fewn 10.5 metr i unrhyw ffin gyferbyn ag ochr y tŷ, ac nad yw ar flaen eich tŷ. Ni chaniateir ‘shutters’ ar flaen eich tŷ.  

Estyniadau un llawr yn y cefn

  • Ni ddylai estyniadau un llawr ymestyn dros 4 metr heibio i wal gefn y tŷ, na bod dros 4 metr o uchder.

Estyniadau mwy nag un llawr yn y cefn

  • Ni ddylai rhan waelod yr estyniad ymestyn dros 4 metr heibio i wal gefn y tŷ.  
  • Ni ddylai rhan uchaf yr estyniad ymestyn dros 3 metr heibio i wal gefn y tŷ.
  • Rhaid i’r pellter rhwng wal gefn yr estyniad a’r ffin yng nghefn y tŷ, sef y ffens neu wal yn yr ardd fel rheol, fod yn o leiaf 10.5 metr
  • Rhaid i unrhyw ffenestr ar y llawr uchaf ar ochr yr estyniad fod mewn gwydr wedi’i gymylu, heb fod modd ei agor, oni bai bod y ffenestr 1.7 metr yn uwch na lefel y llawr
  • Dylai goleddf to’r estyniad gyfateb, cyn belled ag y bo modd, i oleddf y to presennol
  • Ni chaniateir estyniadau mwy nag un llawr yn y cefn mewn ardal gadwraeth, parc cenedlaethol, ardal o harddwch naturiol eithriadol na Safle Treftadaeth y Byd

Estyniadau un llawr ar yr ochr

  • Ni ddylai estyniadau un llawr ar yr ochr fod yn agosach at y briffordd nag unrhyw wal ar ochr y tŷ presennol, neu dylai fod o leiaf 10.5 metr oddi wrth y briffordd.
  • Ni ddylai estyniad un llawr fod dros 4 metr o uchder
  • Ni ddylai lled rhan lletaf y tŷ fod dros 50% yn fwy na rhan lletaf y tŷ presennol
  • Pan fo’r tŷ mewn ardal gadwraeth, parc cenedlaethol, ardal o harddwch naturiol eithriadol neu Safle Treftadaeth y Byd, ni ddylai’r estyniad ymestyn dros 3 metr o ochr y tŷ a dylai gael ei osod o leiaf 1 metr yn ôl o brif ochr y tŷ

Estyniadau mwy nag un llawr ar yr ochr

  • Ni ddylai estyniad mwy nag un llawr ar yr ochr fod yn agosach at y briffordd nag unrhyw wal ar ochr y tŷ presennol, neu dylai fod o leiaf 10.5 metr oddi wrth y briffordd
  • Ni chaniateir estyniad o fewn 10.5 metr i ffin ochr y tŷ  
  • Rhaid i’r estyniad gael ei osod  o leiaf 1 metr yn ôl o brif ochr y tŷ
  • Ni ddylai lled rhan lletaf y tŷ fod dros 50% yn fwy na rhan lletaf y tŷ presennol
  • Rhaid i unrhyw ffenestr ar y llawr uchaf ar ochr yr estyniad fod mewn gwydr wedi’i gymylu, heb fod modd ei agor, oni bai bod y ffenestr 1.7 metr yn uwch na lefel y llawr
  • Dylai goleddf to’r estyniad gyfateb, cyn belled ag y bo modd, i oleddf y to presennol
  • Ni chaniateir estyniadau mwy nag un llawr yn y cefn mewn ardal gadwraeth, parc cenedlaethol, ardal o harddwch naturiol eithriadol na Safle Treftadaeth y Byd

Nodwch: mae’r lwfansau datblygu a ganiateir a ddisgrifir yma’n berthnasol i dai ac nid i fflatiau, maisonettes neu adeiladau eraill. Mae canllawiau ar fflatiau a maisonettes ar gael yma.

Gosod simnai, ffliw neu bibell garthion ac awyru newydd sbon, eu newid neu osod rhai newydd yn lle hen rai: Cliciwch yma i ddarllen cyfarwyddyd ynghylch y drefn ar gyfer gwaith datblygu a ganiateir dan Ddosbarth G y drefn.

* Ystyr y term "tŷ gwreiddiol" yw’r tŷ fel y cafodd ei adeiladu gyntaf neu fel yr oedd ar 1 Gorffennaf 1948 (os cafodd ei adeiladu cyn y dyddiad hwnnw). Er nad ydych chi efallai wedi adeiladu estyniad i’r tŷ, gallai perchennog blaenorol fod wedi gwneud hynny.

* Mae tir dynodedig yn cynnwys Parciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, ardaloedd cadwraeth a Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Rheoliadau Adeiladu

Bydd angen cymeradwyaeth dan y Rheoliadau Adeiladu ar y rhan fwyaf o estyniadau i eiddo.

Ceir llawer o ddosbarthiadau adeiladau newydd neu estyniadau adeiladau presennol, nad oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar eu cyfer, h.y. maent wedi’u heithrio rhag y Rheoliadau. Cliciwch yma i ddarllen mwy am eithriadau.

Mae’r tudalennau canlynol yn awgrymu rhai o’r elfennau eraill y mae angen fel rheol iddynt fodloni gofynion y Rheoliadau pan fyddwch yn adeiladu estyniad.

Mae’r adrannau canlynol ar waith cyffredin yn awgrymu llawer o elfennau eraill y mae angen fel rheol iddynt fodloni gofynion y Rheoliadau pan fyddwch yn adeiladu estyniad:

Yn ogystal bydd yn rhaid ichi ddarganfod a yw’r gwaith yr ydych yn bwriadu ei wneud yn perthyn i Ddeddf Muriau Cyd etc. 1996 (The Party Wall etc. Act 1996).

Llawr

Bydd angen i lawr ddarparu ar gyfer un neu ragor o’r swyddogaethau canlynol:

  • Cynnal yn strwythurol gynnwys a defnyddwyr yr ystafell a phwysau’r llawr ei hun; ac
  • Os yw’n llawr gwaelod, gwrthsefyll:
    • Lleithder o’r ddaear; a
    • Phrosesau colli gwres (inswleiddio thermol).

Bydd adeiladwaith llawr gwaelod yn un o dri math cyffredinol:

Llawr solet

Un ffordd nodweddiadol o adeiladu llawr solet yw darparu sylfaen o graidd caled â thywod llenwi, a haen o goncrit dros y cyfan. Er mwyn sicrhau gorffeniad gwastad i’r llawr, caiff haen o forter llyfn ei hychwanegu ar ben y concrit, sy’n cynnwys tywod a sment. Rhaid darparu croen atal lleithder o drwch addas ynghyd â deunydd inswleiddio thermol. Gellir gosod y rhain dros y tywod llenwi neu ar ben y concrit.

Dylid lapio’r croen atal lleithder am y cwrs atal lleithder yn y waliau allanol, ac os yw’n berthnasol, am y waliau mewnol o amgylch y llawr. Bydd trwch amryw rannau’r llawr yn dibynnu ar amodau’r ddaear ac ar y drefn y cafodd yr amryw rannau eu gosod. Os oes gan y tŷ presennol frics tyllog sydd, er enghraifft, yn awyru gwagle mewn lloriau sy’n bodoli eisoes, dylid darparu pibellau er mwyn gadael i aer lifo drwy’r llawr solet ac i mewn i’r gwagle dan y tŷ presennol. Yna, dylid gosod brics tyllog yn y wal newydd.

Llawr pren crog

Bydd y Rheoliadau Adeiladu yn mynnu y dylai’r strwythur gael ei amddiffyn rhag chwyn a phlanhigion eraill.  Dylid arllwys haen o goncrit dros y ddaear, a dylid gadael o leiaf 150mm o fwlch wedi’i awyru rhwng gwaelod y pren a’r concrit er mwyn atal lleithder rhag cronni ac effeithio ar gyflwr y distiau. Dylai distiau’r llawr pren fod o’r maint cywir, a fydd yn dibynnu ar eu rhychwant (yr hyd rhwng y cynheiliaid), ac fel rheol byddant yn cael eu gosod ar draws y rhychwant byrraf o wal i wal gan adael bwlch danynt. 

Efallai y bydd angen wal yn y canol ac iddi sylfaen fach, er mwyn medru lleihau’r rhychwant a defnyddio distiau llawr sydd o’r trwch lleiaf posibl. Dylid gosod cwrs atal lleithder rhwng y pren a’r wal. Yna, dylid gosod deunydd inswleiddio rhwng y distiau (bydd ei drwch yn dibynnu ar y cynnyrch a ddefnyddir). Dylid gosod fentiau oddi tanodd i awyru’r gwagle, a dylai fod modd i’r aer fynd o’r naill ochr i’r adeilad i’r llall.

Llawr concrit crog

Mae adeiladwaith y llawr hwn yn debyg i adeiladwaith y llawr pren uchod, ond mae’n defnyddio planciau concrit neu drawstiau concrit bach a gastiwyd ymlaen llaw, a blociau concrit a osodir rhwng y trawstiau. Fel rheol gallant ymestyn dros bellteroedd hwy na distiau pren.  Bydd angen fentiau ar y llawr hwn yn yr un modd ag y mae angen fentiau ar lawr pren crog.  Mae’n bosibl iawn y bydd y gwneuthurwyr yn fodlon cyfrifo maint y trawstiau concrit a darparu’r cyfrifiadau strwythurol.  Fel arall, gallai peiriannydd adeiladu ddarparu’r gwasanaeth hwn hefyd.

Daear halogedig a radon

Mewn rhai ardaloedd efallai y bydd y ddaear wedi’i halogi rywfaint lle mae nwyon yn ffurfio, er enghraifft, o safleoedd tirlenwi. Mae radon yn nwy naturiol sy’n bodoli mewn rhai ardaloedd o’r wlad.  Mae angen awyru’r nwyon hyn, a bydd gofyn gosod croen atal nwy er mwyn eu rhwystro rhag mynd i mewn i’r adeilad.

Sylfeini

Mae angen sylfeini er mwyn trosglwyddo llwyth yr adeilad yn ddiogel i’r ddaear. Felly dylai fod gan bob adeilad sylfeini digonol (o goncrit fel rheol), a fydd yn amrywio o’r naill brosiect i’r llall yn dibynnu ar amgylchiadau pob achos.

Gall y sylfeini hyn fod yn sylfeini dwfn (sy’n llenwi’r rhan fwyaf o’r ffos) neu’n sylfeini bas (lle darperir y trwch lleiaf posibl i drosglwyddo’r llwyth i’r pridd).

Gellir defnyddio mathau eraill o sylfeini os yw amodau’r ddaear yn golygu nad yw llenwi ffos yn ymarferol. Byddai’n ddoeth cysylltu â pheiriannydd adeiladu neu siarad â Gwasanaeth Rheoli Adeiladu i gael rhagor o gyngor.

Dyma’r ffactorau y dylid eu hystyried wrth ddylunio sylfaen:

Y math o bridd

Mae’r math o bridd y bydd y sylfaen yn gorwedd arno yn bwysig am ddau reswm:

  1. dylai’r pridd fod yn gallu cario pwysau (llwyth) y sylfaen a’r estyniad – bydd gan briddoedd gwahanol allu gwahanol i gario llwyth.
  2. gall y modd y mae pridd yn adweithio i amrywiadau mewn lleithder (er enghraifft, yn ystod tymhorau hir o sychder neu law) beri i’r pridd chwyddo neu grebachu. Mae hynny’n broblem benodol yn achos rhai priddoedd cleiog. Bydd y newidiadau hyn yn digwydd yn bennaf hyd at ddyfnder penodol (oddeutu 0.75m fel rheol), felly dylai’r sylfeini fod yn ddyfnach er mwyn sicrhau nad yw symudiadau’r ddaear yn effeithio arnynt (ond gweler "Coed" isod).

Strwythurau cyfagos

Mae’n bwysig sicrhau nad yw’r gwaith cloddio ar gyfer y sylfaen newydd yn tanseilio strwythurau cyfagos. Yn gyffredinol mae’n arfer da cloddio o leiaf hyd at yr un dyfnder â gwaelod sylfaen yr adeilad cyfagos. Os yw’r gwaith cloddio yn rhedeg ochr yn ochr â sylfaen sy’n bodoli eisoes, bydd angen bod yn ofalus, er enghraifft, drwy gloddio a choncritio’r sylfaen mewn rhannau bach er mwyn osgoi tanseilio hyd cyfan strwythur cyfagos (gweler hefyd y cyfarwyddyd ynghylch Deddf Muriau Cyd etc. 1996 (The Party Wall etc. Act 1996).

Coed

Bydd coed yn tynnu lleithder o’r ddaear sydd o’u hamgylch a thu hwnt, drwy eu gwreiddiau. Wrth i leithder gael ei dynnu o’r ddaear, bydd y ddaear yn tueddu i grebachu. Bydd y graddau y bydd y ddaear yn crebachu yn dibynnu ar y ffactorau canlynol:

  • Y math o bridd – bydd priddoedd cleiog yn crebachu mwy na mathau eraill o bridd. Felly, gallai’r ffaith bod y ddaear yn symud yn ormodol ddifrodi’r sylfaen a’r strwythur y mae’n ei gynnal.
  • Y math o goeden a’i maint – bydd y math o goeden neu lwyn, a’u maint ar ôl gorffen tyfu (pan fyddant yn eu llawn dwf), yn penderfynu faint o leithder y byddant yn ei dynnu’n gyffredinol o’r ddaear.

Gall presenoldeb coed mewn ardaloedd o bridd cleiog olygu bod angen i sylfeini fod gryn dipyn yn ddyfnach na’r disgwyl ar y dechrau, ond os yw’r coed yn ddigon pell i ffwrdd efallai na fyddant yn effeithio o gwbl ar y sylfeini. Noder: Os bydd coed sy’n bodoli eisoes yn cael eu symud neu os bydd eu maint yn cael ei leihau’n sylweddol, bydd yr holl leithder sydd yn eu gwreiddiau neu rywfaint ohono’n cael ei ryddhau gydag amser i’r pridd, ac os clai yw’r pridd, er enghraifft, gallai hynny beri i’r pridd chwyddo a difrodi sylfeini cyfagos a’r strwythur(au) a gynhelir.

Draeniau a charthffosydd

Wrth i bwysau (llwyth) sylfaen adeilad gael ei drosglwyddo i’r pridd, bydd yn ymledu tuag i lawr y tu allan i ôl troed y sylfaen, ar ongl nodweddiadol o 45 gradd. Os oes draen neu garthffos yn yr ardal sydd o fewn yr ongl honno o 45 gradd, mae perygl y gallai llwyth y sylfaen effeithio arnynt ac y gallent gracio. Fel rheol, felly, dylai’r gwaith cloddio ar gyfer y sylfaen fynd o leiaf hyd at yr un dyfnder â gwaelod (wyneb mewnol isaf) rhan ddyfnaf y ddraen, y garthffos neu’i chwter.

Maint ac adeiladwaith yr adeilad newydd

Os bydd yr adeilad yn un deulawr, bydd angen i’r sylfaen gynnal mwy o bwysau (llwyth) na phe bai’n adeilad unllawr. Bydd hynny’n ffactor hollbwysig wrth benderfynu ar ddyluniad y sylfaen, yn enwedig ei dyfnder a’i lled. Bydd cysylltiad uniongyrchol rhwng hynny a gallu’r pridd sy’n cynnal yr adeilad i gario llwyth. Bydd trwch y waliau hefyd yn ffactor wrth benderfynu ar led y sylfaen.

Cyflwr y ddaear

Yn gyffredinol, caiff yr uwchbridd ei godi a gwelir daear dda nad oes dim wedi tarfu arni, h.y. daear nad oes dim wedi’i adeiladu arni. Mewn rhai achosion, ceir ardaloedd sydd wedi’u hôl-lenwi o’r blaen, megis uchod lle mae draeniau wedi’u gosod neu lle mae safle wedi’i wastatáu, ac yn gyffredinol byddant yn cynnwys pridd meddal, cymysg a gwrthrychau dieithr. Ni ellir creu’r sylfaen nes y deuir ar draws daear nad oes dim wedi tarfu arni.

Safleoedd tirlenwi

Mae rhai adeiladau wedi’u codi ar safleoedd tirlenwi, a gallai fod angen math mwy helaeth o sylfaen yno megis pyst, oherwydd yr angen i gloddio am sawl metr er mwyn dod o hyd i ddaear nad oes dim wedi tarfu arni. Gallai sylfaen “rafft” fod yn opsiwn arall. Bydd peiriannydd adeiladu yn gallu rhoi rhagor o gyngor ichi.

Am resymau’n ymwneud ag iechyd a diogelwch dylid bod yn ofalus wrth weithio mewn ffosydd, oherwydd gallai unrhyw ddaear sy’n cwympo achosi anaf difrifol.

Waliau islaw lefel y ddaear

Yn dibynnu ar b’un a yw’r sylfaen ar gyfer adeilad sengl newydd yn ddwfn ynteu’n fas, gallai fod angen gwneud ychydig neu lawer o waith adeiladu waliau islaw lefel y ddaear (a elwir yn isadeiledd), y bydd y waliau sydd uwchlaw lefel y ddaear (a elwir yn aradeiledd) yn cael eu codi arnynt. 

Y prif ofyniad o ran yr isadeiledd yw sicrhau bod digon o gynhaliaeth yn cael ei darparu ar gyfer yr aradeiledd.  Dylai’r isadeiledd (brics neu flociau a morter) fod yn effeithiol, a dylai allu gwrthsefyll rhew yn ogystal â sylffadau yn y ddaear.

Awyru

Dylai pob ystafell newydd mewn tŷ gael system awyru ddigonol am resymau cyffredinol yn ymwneud ag iechyd. Bydd lefel yr awyru y mae ei hangen yn dibynnu ar y math o ystafell.

Wrth osod wal fewnol newydd, dylid gofalu nad ydych yn gwaethygu materion eraill megis awyru.  Os bydd ystafell newydd yn cael ei chreu wrth ychwanegu wal fewnol, dylid cymryd camau hefyd i sicrhau bod yr ystafell sy’n bodoli eisoes yn cael ei hawyru’n ddigonol.

Dyma’r rheolau cyffredinol ar gyfer awyru ystafell:

Llwyrawyru – gwneir hynny drwy agor y ffenest. Fel rheol, dylai arwynebedd yr agorfa gyfateb i o leiaf 1/20 o arwynebedd llawr yr ystafell a wasanaethir, oni bai ei bod yn ystafell ymolchi. Os felly, gall yr agorfa fod o unrhyw faint.

Awyru adeilad cyfan – fe’i gelwir hefyd yn awyru araf, a gellir ei ymgorffori ar dop fframiau’r ffenestri neu drwy ryw ddull arall. Bydd yr arwynebedd yn amrywio yn ôl y math o ystafell:

  • Ystafell ymolchi – 4000mm²
  • Pob ystafell arall – 8000mm².

Fel rheol bydd angen y ddau ddull hyn o awyru, ond efallai y bydd dulliau eraill hefyd yn dderbyniol os bydd y Corff Rheoli Adeiladu yn cytuno â nhw.

Ffaniau echdynnu mecanyddol

Dylid rhoi ffan echdynnu fecanyddol mewn unrhyw gegin, ystafell amlbwrpas, ystafell ymolchi/cawod neu doiled newydd lle nad oes ffenest y gellir ei hagor, er mwyn lleihau anwedd a chael gwared ag arogleuon.  Caiff perfformiad angenrheidiol y ffaniau echdynnu hyn ei fesur fel rheol ar ffurf litrau’r eiliad (l/e) fel a ganlyn:

  • Cegin - 30l/e os yw uwchben yr hob a 60 l/e os yw mewn man arall.
  • Ystafell amlbwrpas - 30l/e.
  • Ystafell ymolchi/cawod - 15l/e, ac yn parhau i weithio am 15 munud ar ôl i’r golau gael ei ddiffodd os nad oes ffenest y gellir ei hagor.
  • Toiled - 6l/e, ac yn parhau i weithio ar ôl i’r golau gael ei ddiffodd.

Gallai cyfraddau eraill fod yn berthnasol os yw’r system awyru’n gweithio’n barhaus.

Effeithlonrwydd ynni

Isod ceir nifer o wahanol ystyriaethau sy’n ymwneud ag effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys p’un a allai cais am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu fod yn ofynnol ar gyfer prosiectau penodol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr ystod o fesurau effeithlonrwydd ynni sy’n bosibl ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

Paneli solar

Mae’n debygol y bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu os byddwch am ychwanegu panel solar at do eich cartref. Bydd angen cadarnhau a phrofi a yw’r to presennol yn gallu cario llwyth y panel (ei bwysau). Efallai y bydd angen gwneud rhywfaint o waith i gryfhau’r to. Yn ogystal bydd teils y to, er enghraifft, yn cael eu symud neu’u hepgor er mwyn gosod y panel a’i roi’n sownd. Felly, wrth eu hailosod, dylid sicrhau bod y to’n gallu gwrthsefyll y tywydd yn ddigonol.

Goleuadau mewnol

Wrth osod goleuadau mewnol sefydlog, bydd angen darpariaeth resymol er mwyn gallu mwynhau manteision goleuadau sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, a hynny pryd bynnag:

  • Y bydd annedd yn cael ei ymestyn
  • Y bydd annedd newydd yn cael ei greu yn sgil newid defnydd o bwys
  • Y bydd system oleuadau newydd yn cael ei rhoi yn lle un sy’n bodoli eisoes, yn rhan o waith ailweirio.

Un ffordd o sicrhau bod eich goleuadau mewnol yn defnyddio ynni’n fwy effeithlon yw darparu ffitiadau golau (gan gynnwys offer rheoli lampau a gorchudd, adlewyrchydd, cysgodlen neu dryledwr priodol neu ddyfais arall sy’n rheoli’r golau a gynhyrchir) sy’n cymryd dim ond lampau y mae eu heffeithiolrwydd goleuo yn fwy na 40 lwmina fesul wat cylched.

Y math o ffitiadau golau a fyddai’n bodloni’r gofynion uchod yw ffitiadau golau fflworoleuol a ffitiadau golau fflworoleuol cryno. Ni fyddai ffitiadau ar gyfer lampau tyngsten GLS â chap bidog neu gap sgriwio Edison yn gwneud hynny, na lampau halogen tyngsten.

Ffordd gyffredinol o fodloni’r gofynion hyn yw darparu un ffitiad ar gyfer:

  • pob 25m2 o arwynebedd llawr yr annedd (heb gynnwys garejis); neu
  • un o bob pedwar ffitiad golau sefydlog.

Ni fyddai ffitiadau golau mewn ardaloedd a ddefnyddir i raddau llai, megis cypyrddau ac ardaloedd storio eraill, yn cael eu cyfrif yn ffitiad. Os bydd estyniad yn cael ei adeiladu, efallai y byddai’n fwy priodol gosod y ffitiad golau sy’n defnyddio ynni’n effeithlon mewn lleoliad nad yw’n rhan o’r gwaith adeiladu, e.e. gosod ffitiad newydd yn lle’r hen un sydd yn y cyntedd neu ar y landin wrth greu ystafell newydd – yn dibynnu ar y defnydd tebygol a wneir o olau’r ystafell newydd o’i gymharu â golau’r cyntedd neu’r landin.

Deunydd inswleiddio mewn atig

Bydd angen cais am gymeradwyaeth dan y Rheoliadau Adeiladu i osod deunydd inswleiddio yn eich atig. Dylid gofalu na chaiff unrhyw fentiau ar yr ymylon (wrth y bondo) eu blocio.

Tanciau ailgylchu dŵr

Tanciau yw’r rhain sy’n ailgylchu dŵr wyneb (dŵr glaw) a gesglir o’r to a’r ddaear, fel y gellir ei ailddefnyddio yn y tŷ neu at ddibenion eraill, er enghraifft, fflysio’r toiled neu olchi’n gyffredinol. Fel rheol, caiff y tanciau hyn eu gosod dan y ddaear yn yr ardd gefn os oes lle. Bydd angen gwneud cais dan y Rheoliadau Adeiladu er mwyn gwirio’r system ddraenio newydd sy’n mynd i mewn i’r tanc.

Rheiddiaduron

Bydd angen gosod falf thermostatig rheiddiadur ar unrhyw reiddiadur newydd a osodir. Mae falf thermostatig rheiddiadur yn golygu bod modd rheoli tymheredd ystafelloedd unigol yn well. Caiff pobl eu hannog hefyd i osod falfiau thermostatig rheiddiadur ar y rheiddiaduron sydd ganddynt yn barod.

Lagio pibellau

Fel rheol nid oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i lagio pibellau.

Agorfa strwythurol

Pan fydd estyniad wedi’i wneud yn ddiddos, bydd agorfa’n cael ei chreu fel rheol drwy’r waliau allanol sy’n bodoli eisoes.

Gellir gwneud hynny drwy dynnu unrhyw ddrysau gwydr, drysau patio neu ffenestri presennol i ffwrdd. Os na chaiff rhychwant y lintel presennol dros y drysau neu’r ffenestri presennol ei gynyddu, ac os na chynyddir y llwyth y mae’r lintel presennol yn ei gynnal, ni fydd angen unrhyw gynhaliaeth bellach fel rheol.

Os bwriedir creu agorfa newydd neu letach, bydd angen cynnal y wal sy’n weddill uwchlaw’r agorfa newydd, fel rheol drwy osod un neu fwy o drawstiau newydd – dau fel arfer - sydd wedi’u dylunio’n briodol.  Fel rheol, dylai o leiaf 150mm o unrhyw drawst newydd fod yn gorffwys ar y wal bresennol ar y naill ochr a’r llall i’r agorfa, ac mae’n debygol y bydd angen i’r wal bresennol sy’n cynnal y trawstiau gael ei chryfhau er mwyn ei hatal rhag cael ei gwasgu.  Efallai y bydd hynny’n golygu gosod ardal o goncrit dwys (a gastiwyd ymlaen llaw neu yn y fan a’r lle), a elwir yn garreg gynnal, i wasgaru’r llwyth. Bydd maint cerrig cynnal yn amrywio’n dibynnu ar amgylchiadau’r achos dan sylw.

Diogelwch tân

Os yw’r trawst o ddur, dylid ei ddiogelu rhag tân fel rheol fel ei fod yn gallu gwrthsefyll tân am 30 munud (os caiff ei fesur mewn prawf safonol). Gellir diogelu’r trawst rhag tân mewn nifer o wahanol ffyrdd, ond y ffordd fwyaf cyffredin yw defnyddio dwy neu ragor o haenau o blastrfwrdd sydd wedi’u gosod yn briodol – y bydd eu trwch yn dibynnu ar fanyleb y gwneuthurwr. 

Pe baech yn ffafrio trawst pren agored, byddai angen cyfrifiad fel rheol i ddangos beth yw gallu cynhenid y trawst i wrthsefyll tân – bydd hynny’n dibynnu ar faint y trawst a’r math o bren. Yn gyffredinol mae gan drawst concrit, sydd wedi’i atgyfnerthu fel rheol gan ddur y tu mewn iddo, ddigon o nodweddion sy’n ei alluogi i wrthsefyll tân, cyhyd â bod y dur wedi’i orchuddio’n ddigonol gan y concrit.

Ymwadiad

Canllaw rhagarweiniol yw hwn, ac nid yw’n ffynhonnell awdurdodol o wybodaeth gyfreithiol. Cliciwch yma i ddarllen yr ymwadiad llawn.

Mae’r arweiniad hwn yn ymwneud â’r drefn gynllunio ar gyfer Cymru. Gall y polisi yn Lloegr fod yn wahanol. Os nad ydych yn siwr, cysylltwch â’ch Awdurdod Cynllunio Lleol.