
Sut allwch chi ddefnyddio grym chwaraeon i greu byd gwell a mwy heddychlon?
Mae Bydd Barod am y Cymod Olympaidd yn adnodd dysgu cynhwysfawr ar gyfer cyflwyno cysyniad y Cymod Olympaidd i bobl ifanc. Fe'i dyluniwyd i'w hannog i drafod sut all chwaraeon a'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd ddod â phobl o wahanol gefndiroedd, diwylliannau a gwledydd at ei gilydd.
Archwiliwch hanes y Cymod Olympaidd a'i wreiddiau yn yr Hen Wlad Groeg trwy wylio ffilm fer, Bydd Barod am y Cymod Olympaidd. I ddysgu mwy am y Cymod Olympaidd ac am sut all chwaraeon a'r Gemau Olympaidd ddod â phobl at ei gilydd o bedwar ban byd, lawrlwythwch y ffeil ffeithiau Ffeil ffeithiau Cymod Olympaidd - 457.64kb.
Crewyd yr adnoddau hyn ar gyfer amrywiol ddefnyddiau, yn cynnwys mewn dosbarthiadau, gwasanaethau, grwpiau tiwtor a dysgu disgybl-i-ddisgybl i helpu myfyrwyr i feddwl am weithgareddau allai fod yn effeithiol yn yr ysgol a'r gymuned leol i hyrwyddo delfrydau'r Cymod Olympaidd.
Cliciwch ar y dolenni isod am syniadau a gweithgareddau er mwyn bod yn rhan o fudiad y Cymod Olympaidd a helpwch eich myfyrwyr i feddwl am sut mae chwaraeon yn galluogi pobl i ddod at ei gilydd heb faich hiliaeth, rhagfarn a gwahaniaethu.
Bydd Barod am y Cymod Olympaidd mewn Ysgolion Cynradd
Bydd Barod am y Cymod Olympaidd mewn Ysgolion Uwchradd
Bydd Barod am y Cymod Olympaidd ar gyfer rhai 16-19 oed
A chofiwch, os ydych eisoes yn rhan o Bydd Barod, bydd y gweithgareddau a wnewch sy'n cael eu hysbrydoli gan Gemau Llundain 2012 yn caniatau i chi ymuno â Get Set Network. Trwy ddysgu am y Cymod Olympaidd rydych yn dysgu am ac yn byw yn ôl Gwerthoedd parch a chyfeillgarwch, felly defnyddiwch hyn i ymuno â'r rhwydwaith. Dywedwch wrthym beth fyddwch yn ei wneud fydd yn cael ei ysbrydoli gan y Cymod Olympaidd ac ennill mynediad i wobrau a chyfleoedd arbennig sydd ond ar gael i aelodau o rwydwaith Bydd Barod.