Polisi Iaith Gymraeg
Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn nodi bod yn rhaid i bob corff cyhoeddus sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru baratoi Cynllun yn amlinellu sut y bydd yn darparu'r gwasanaethau hynny yn yr iaith Gymraeg. Roedd Cynllun Iaith Gymraeg cyntaf yr ASB yn weithredol rhwng 2002 - 2007 ac mae'r ASB bellach wedi rhoi ei hail gynllun ar waith ar gyfer 2008 - 2012.
‘'Rhoi'r defnyddiwr yn gyntaf'’
Ym mis hydref 2007, sefydlodd yr ASB Uned Iaith Gymraeg sy'n gyfrifol am roi'r Cynllun ar waith.
Isod mae manylion y Cynllun Iaith cyfredol ar gyfer 2008-2012 yn ogystal â manylion y Cynllun Iaith blaenorol.
Yn sgil uno'r Asiantaeth Safonau Bwyd a'r Gwasanaeth Hylendid Cig (MHS) ar 1 Ebrill 2010, gweler isod hefyd Ragair newydd i'r Cynllun Iaith, ynghyd â'r Cynllun Gweithredu cyhoeddus.
Dolenni allanol Nid oes gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd unrhyw gyfrifoldeb dros gynnwys gwefannau allanol
Find out more
Cynllun Iaith Gymraeg (2008 - 2012)
Mae’r Cynllun hwn, a baratowyd yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, yn gosod llwyfan i’r Asiantaeth Safonau Bwyd barhau i adeiladu ar ei hymrwymiad i roi’r defnyddiwr yn gyntaf.
Cynllun Iaith Gymraeg (2002 – 2007)
Mae'r Cynllun hwn, a baratowyd yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, yn sbardun pellach i'r Asiantaeth Safonau Bwyd i gryfhau ei hymrwymiad i roi defnyddwyr yn gyntaf.
