Bydd modd i chi wneud cais am eich trwydded yrru Brydeinig dros dro gyntaf ar-lein:
- os ydych chi'n byw yng Ngwledydd Prydain
- os ydych chi'n ddigon hen
- os ydy eich golwg yn ddigon da i fodloni'r gofyniad sylfaenol
- os nad ydych wedi’ch rhwystro rhag gyrru ar hyn o bryd am unrhyw reswm
- os gallwch dalu £50.00 gyda cherdyn debyd neu gerdyn credyd Mastercard, Visa, Electron, Maestro neu Delta
- os oes gennych basport dilys y DU neu brawf arall o bwy ydych chi
- os gallwch ddweud lle rydych chi wedi byw dros y tair blynedd diwethaf
Ei wneud ar y we – ei wneud yn gyflymach
Sicrhewch fod y canlynol gennych wrth law:
- cerdyn credyd neu ddebyd dilys
- eich pasport y DU os oes gennych un
- eich rhif Yswiriant Gwladol os oes gennych un
- manylion cyfeiriadau blaenorol
Bydd DVLA yn ceisio anfon eich trwydded yrru atoch o fewn dwy wythnos ar ôl i chi gyflwyno eich cais.