Mynd i'r prif gynnwys
Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Nid yn unig y mae sbwriel ar draffyrdd a ffyrdd yn salw, ond gall fod yn beryglus i yrwyr ac yn niweidiol i fywyd gwyllt a'r amgylchedd. Yma, cewch wybod pwy sy’n gyfrifol am glirio sbwriel a malurion a beth allwch chi ei wneud i helpu.
Gall sbwriel ar y ffyrdd fod yn broblem ddifrifol. Gall wneud y canlynol:
Os byddwch yn taflu sbwriel o gar, gallai achosi damwain drwy daro ffenestr flaen cerbyd neu drwy beri i yrrwr y tu ôl i chi wyro i’w osgoi.
Gall clirio sbwriel oddi ar draffyrdd a ffyrdd prysur fod yn waith peryglus. Mae hefyd yn costio arian y gallai fod yn cael ei wario ar gynnal a chadw arwyneb y ffordd ac ar waith trwsio strwythurol.
Fel arfer, cyfrifoldeb eich cyngor lleol yw strydoedd lleol a ffyrdd A. Maent yn rhedeg gwasanaethau glanhau strydoedd ac maent yn cael gwared ar falurion ac ar eitemau sydd wedi’u gadael.
Rheolir traffyrdd a chefnffyrdd Lloegr gan yr Asiantaeth Priffyrdd, sydd hefyd yn gyfrifol am glirio sbwriel oddi arnynt. Yng Nghymru, cyfrifoldeb Cyfarwyddiaeth Trafnidiaeth Cynulliad Cymru yw hyn. Transport Scotland sy'n gwneud hyn yn yr Alban.
Ar ffordd breifat neu ar dir preifat, cyfrifoldeb perchennog y tir yw'r sbwriel.
Os byddwch chi’n sylwi ar sbwriel sy’n salw neu a allai beri perygl ar eich strydoedd lleol, dylech gysylltu â’ch cyngor lleol. Mae’r ddolen isod yn eich galluogi i roi gwybod am broblem sbwriel i'ch awdurdod lleol, ar sail y cyfeiriad y byddwch yn ei roi.
Cadwch fag papur yn y car i storio pecynnau bwyd a sbwriel cyffredinol nes eich bod yn dod o hyd i fin addas
Gall sbwriel neu falurion fod yn arbennig o beryglus ar y ffyrdd hyn gan fod gyrwyr yn debygol o fod yn gyrru’n gyflym ac y byddai’n rhaid iddynt, o bosib, sgidio neu wyro i’w osgoi. Os byddwch yn gweld sbwriel rydych chi’n meddwl y gallai beri perygl, dylech roi gwybod amdano i’r awdurdod priffyrdd perthnasol gan ddefnyddio’r rhifau isod:
Mae’r llinellau ar agor 24 awr y dydd.
Cofiwch beidio â defnyddio’ch ffôn symudol wrth yrru. Gofynnwch i deithiwr ffonio, neu arhoswch nes y gallwch stopio mewn man diogel.