This snapshot, taken on
30/10/2011
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Sul, 30 Hydref 2011

Cyfyngiadau cyflymder - sut y cânt eu sefydlu

Cyflymder ar ffyrdd yw un o'r prif ffactorau mewn gwrthdrawiadau a damweiniau sy'n arwain at farwolaethau yn y Deyrnas Unedig; yn arbennig lle mae cerbydau a defnyddwyr ffordd sy'n fwy agored i niwed yn dod i gysylltiad â'i gilydd. Gall goryrru gael effaith andwyol ar ansawdd bywyd llawer o gymunedau. Os ydych yn bryderus ynghylch cyflymder traffig yn eich ardal chi, gallwch wneud cais am sefydlu cyfyngiad cyflymder.

Pam cael cyfyngiadau cyflymder?

Mae cyfyngiadau cyflymder yn rhan bwysig o gael cyflymder priodol ar y ffordd a chânt eu mabwysiadu am resymau diogelwch, amgylcheddol a hygyrchedd. Y llywodraeth fydd yn gosod cyfyngiadau cyflymder. Awdurdodau Traffig (yr awdurdod priffyrdd lleol ar ffyrdd lleol, a'r Asiantaeth Priffyrdd ar gefnffyrdd a thraffyrdd) sy'n gyfrifol am gyflwyno cyfyngiadau cyflymder lle nad yw'r cyfyngiadau cenedlaethol yn addas.

Ceir gwybodaeth gynhwysfawr am y cyfyngiadau cyflymder y byddech yn disgwyl dod ar eu traws ar wahanol ffyrdd ar ffurf siart yn Rheolau'r Ffordd Fawr.

Gallwch brynu copi o Reolau'r Ffordd Fawr yn y rhan fwyaf o siopau llyfrau ar y stryd fawr, neu cliciwch ar y ddolen isod.

Sut ydw i'n mynd ati i newid cyfyngiad cyflymder lleol?

Os hoffech chi ostwng, codi neu ymestyn cyfyngiad cyflymder ymhellach ar hyd ffordd, dylech gysylltu â'ch cyngor lleol a byddan nhw'n gwneud asesiad. Bydd y cyngor yn gofyn am farn yr heddlu wrth ystyried newid arfaethedig i gyfyngiad cyflymder. Ystyrir holl nodweddion y ffordd, gan gynnwys ei haliniad, faint o weithgaredd sy'n digwydd ar ochr y ffordd, faint o ddamweiniau sydd wedi bod arni a'r effaith mae cyflymder y cerbydau yn ei gael ar y gymuned.

Cael gwybod am gyfyngiadau cyflymder yn eich ardal

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Dylai cyfyngiadau cyflymder ddilyn yn eu trefn yn synhwyrol ac yn ddealladwy os oes disgwyl i yrwyr sylwi arnynt. Cyn penderfynu newid cyfyngiad cyflymder sy'n bodoli eisoes bydd angen i'r Awdurdod Traffig ystyried yr holl ffactorau perthnasol, gan gynnwys:

  • a fyddai'n gostwng nifer y damweiniau a'r nifer sy'n cael eu hanafu
  • a fyddai'n gwella'r amgylchedd
  • a fyddai'n gwella amgylchiadau a chyfleusterau defnyddwyr ffordd sy'n agored i niwed
  • a fyddai'n lleihau pryder y cyhoedd
  • a fyddai'n golygu amser teithio hirach i draffig modur
  • faint fyddai'r costau gweithredu
  • faint fyddai'r gwaith peirianneg yn ei gostio a'r costau cynnal a chadw
  • beth fyddai effaith amgylcheddol negyddol y mesurau peirianneg
  • faint fyddai gorfodi'r cyfyngiadau yn ei gostio

Os ystyrir mai newid y cyfyngiad cyflymder yw'r peth gorau i'w wneud, yna rhaid gwneud Gorchymyn Cyfyngiad Cyflymder. Mae hyn yn golygu dilyn proses gyfreithiol statudol.

Os ydych yn dymuno rhoi gwybod am arwydd cyfyngiad cyflymder sydd wedi cael ei fandaleiddio neu wedi mynd ar goll, cysylltwch â'r Awdurdod Traffig priodol gyda manylion llawn am leoliad yr arwydd.

Os oes rhes o oleuadau stryd ar y ffordd, heb arwyddion cyfyngiadau cyflymder, 30mya fydd y cyfyngiad fel arfer. Ni chaniateir i'r Awdurdod Traffig osod arwyddion 30mya ar y ffyrdd hyn. Dylai'r rhes o oleuadau stryd yn yr ardal fod yn ddigon o arwydd mai cyfyngiad o 30mya sydd yno.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am arafu traffig yn adran teithio a thrafnidiaeth Directgov.

Mwy o ddolenni defnyddiol

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU