This snapshot, taken on
24/02/2011
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.
www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

Ymarfer

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2011

llun o gaeau
 

Ar 13 Hydref 2003 daeth Deddf Cofrestru Tir 2002 a Rheolau Cofrestru Tir 2003 i rym. Maent wedi disodli'r gyfraith o ran cofrestru tir yn gyfan gwbl. Gyda'i gilydd, mae'r Ddeddf a'r Rheolau newydd yn rheoli rôl ac ymarfer y Gofrestrfa Tir. Helo!

Mae Deddf Cofrestru Tir 2002 yn cyflawni'r canlynol:

  • mae'n symleiddio ac yn moderneiddio'r gyfraith o ran cofrestru tir a dyma'r tro cyntaf i'r system gofrestru tir gael ei diwygio'n sylweddol ers 75 o flynyddoedd
  • mae'r gofrestr yn rhoi darlun mwy cyflawn o deitlau i dir - gan ddangos yr hawliau a'r buddion sy'n effeithio ar y teitl hwnnw yn llawnach
  • mae'n fframwaith ar gyfer datblygu system drawsgludo electronig.

Mae newidiadau mawr i'r gyfraith ac ymarfer bellach yn effeithio ar bawb sy'n ymwneud â thir cofrestredig. Yn arbennig:

  • mae'n rhaid cofrestru prydlesi byrrach bellach
  • mae cofrestru gwirfoddol ar gael ar gyfer mathau newydd o fuddion mewn tir
  • mae'r newidiadau yn effeithio ar ddiogelwch buddion y trydydd person
  • mae'r gyfraith o ran meddiant gwrthgefn (hawliau sgwatwyr) wedi cael ei diwygio.

Er mwyn eich helpu i ddefnyddio'r Ddeddf, mae'r Gofrestrfa Tir wedi cyhoeddi cyfarwyddiadau ymarfer.

Mae gennym fodiwlau ar-lein outlining hefyd sy'n amlinellu sut i lunio cyfyngiadau yn Ffurf L a Ffurf NN.

Ar 1 Hydref 2009 bydd Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2009 yn cyflwyno newidiadau sy'n effeithio ar gofrestru arwystlon a grewyd gan gwmnïau tramor, cyflawniad gan bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig a chyfeiriadau at rifau cofrestru cwmnïau mewn ffurflenni a chymalau penodedig ar gyfer prydlesi. Hefyd ar 1 Hydref 2009, daw paragraff 40 o Atodiad 1 i Reolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2008 i rym. Mae'n disodli rheol 111 newydd Rheolau Cofrestru Tir 2003 er mwyn ystyried darpariaethau'r Ddeddf Cwmnïau 2006 a ddaw i rym bryd hynny hefyd.
Rhagor o wybodaeth
Dilynwch y cyswllt i fersiwn o Reolau Cofrestru Tir 2003 sy'n dangos effaith derfynol deddfwriaeth newid hyd at ac yn cynnwys Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2009.