Yr Asiantaeth Safonau Bwyd: Diogelu buddiannau'r defnyddiwr
Thursday 28 November 2002
Pwyllgor gwarchod annibynnol ar faterion diogelwch bwyd yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a sefydlwyd gan Ddeddf Senedd San Steffan yn 2000 i ddiogelu buddiannau defnyddwyr a iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd.
Rhwng 2001 a 2006, prif amcanion yr Asiantaeth yw:
- lleihau achosion o salwch bwyd 20% trwy wella diogelwch bwyd ar draws y gadwyn fwyd
- helpu pobl i fwyta'n iachach
- hyrwyddo labelu gonest, llawn gwybodaeth, i helpu defnyddwyr
- hyrwyddo arfer gorau o fewn y diwydiant bwyd
- gwella'r drefn o orfodi cyfraith fwyd
- ennyn hyder y bobl yn ein gwaith a'n dull o weithio
Trwy weithio'n galed i ofalu mai y ni yw ffynhonnell cyngor a gwybodaeth mwyaf dibynadwy'r DU o ran materion bwyd. Egwyddorion sylfaenol yr ASB yw:
- rhoi'r cwsmer yn gyntaf
- bod yn agored ac yn hygyrch i bawb
- bod yn annibynnol
Er mai Adran o'r Llywodraeth yw'r ASB, mae'n gweithio o fewn 'hyd braich' i'r Llywodraeth ac mae'n rhydd i gyhoeddi unrhyw gyngor, naill ai i'r Gweinidogion neu i'r cyhoedd.
Get Adobe Acrobat readerYou may need the free Acrobat Reader to view a pdf
