Food Standards Agency
Vegetables. Best served washed. welsh banner
AZ-Directory
What's NewRSS
What is RSS?Listen
Listen to this siteFriday 30 October 2009
about us
Mae’r Asiantaeth yn atgoffa busnesau sy’n mynd ati o’u gwirfodd i ychwanegu fitaminau a mwynau at fwyd, i weithredu camau nawr os nad yw’r sylweddau y maent yn eu defnyddio wedi’u cynnwys yn y Rheoliad Ewropeaidd ar y pwnc hwn
Dylai busnesau bwyd sy’n ychwanegu fitaminau a mwynau at fwydydd – a’r rheiny’n fitaminau a mwynau nad ydynt wedi’u rhestru ar hyn o bryd yn yr atodiadau i Reoliad Ewropeaidd (CE) 1925/2006 (ar ychwanegu fitaminau a mwynau a sylweddau penodol eraill at fwydydd) – gyflwyno cais i’r Comisiwn Ewropeaidd drwy law’r Asiantaeth os hoffent i’r defnydd o’r sylweddau hyn gael ei ystyried yn y dyfodol. Dyma ymateb i newidiadau arfaethedig y mae’r rheoliad hwn yn eu rhoi ar waith.
Mae’r rheoliad yn rhestru’r sylweddau fitaminau a mwynau y caniateir eu hychwanegu at fwydydd yn yr UE. Er mwyn rhoi’r cyfle i fusnesau bwyd fynd ati i newid eu cynhyrchion, neu ofyn i fitaminau a mwynau ychwanegol gael eu cynnwys yn y rheoliad, rhoddwyd caniatâd iddynt barhau i ddefnyddio fitaminau a mwynau eraill am gyfnod cyfyngedig ar ôl i’r rheoliad ddod i rym.
Os ydych o’r farn y bydd hyn yn effeithio ar eich busnes, ac eisiau cyflwyno gwybodaeth i’r Comisiwn Ewropeaidd, dylech roi gwybod i’r Asiantaeth erbyn dydd Mercher 11 Tachwedd. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich papur cais drwy law’r ASB yw dydd Llun 30 Tachwedd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy’r ddolen isod.
Room 245 Aviation House,
125 Kingsway,
London WC2B 6NH
Telephone: 020 7276 8888
Out of hours duty pager: 07623 978344
Fax: 020 7276 8833
Email:
press.mailbox@foodstandards.gsi.gov.uk
Find out about our different types of content