Cymraeg
Article Summary
Daw'r wybodaeth isod o'r cynnwys a welir ar y prif wefan.
Rôl yr CPNI yw amddiffyn y Deyrnas Unedig (UK) rhag bygythiadau i ddiogelwch gwladol, trwy roi cyngor awdurdodol ynghylch diogelwch ar draws y Seilwaith Cenedlaethol.
Bwriad y wybodaeth hon, sydd wedi'i hanelu at y rhai sy'n gyfrifol am ddiogelwch pobl eraill mewn busnesau a sefydliadau eraill, yw ceisio eich helpu i ddatblygu cynlluniau diogelwch effeithiol a sefydlu mesurau i amddiffyn eich sefydliad rhag brawychiaeth a bygythiadau eraill.
Cynllunio Diogelwch
Mae'r adran hon yn egluro mor bwysig yw nodi'r bygythiadau a rheoli'r risgiau i'ch sefydliad a datblygu cynllun dilyniant cynhwysfawr ym maes diogelwch a busnes.
Amddiffyn eich Asedau
Mae'r adran hon yn edrych ar fabwysiadu ymagwedd integredig tuag at ddiogelwch amddiffynnol, sy'n cynnwys mesurau diogelwch corfforol yn ogystal â chamau i reoli eich staff a'ch gwybodaeth yn ddiogel.
Gwarchod rhag Bomiau
Mae'r adran hon yn rhoi rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o fomiau sy'n cael eu defnyddio gan frawychwyr, er enghraifft bomiau mewn cerbydau a bomiau llythyr, manylion y gwrthfesurau ar gyfer pob math o ymosodiad, ac mae'n rhoi cyngor ynghylch delio â bygythiadau bomiau dros y ffôn.
Y 10 Prif Ganllaw
10 prif ganllaw yr CPNI ar gyfer arferion diogelwch da yn gyffredinol. Bydd llawer ohonynt o gymorth i ddiogelu rhag trosedd yn ogystal â brawychiaeth a bygythiadau eraill i ddiogelwch.
Gallwch lwytho llawer o'r deunydd hwn ar ffurf llyfryn 38 tudalen Protecting Against Terrorism.
Mae deunydd o'r math hwn ar wefan gyhoeddus yn ddeunydd cyffredinol, trwy ddiffiniad. Bydd angen i chi ei deilwra ar gyfer eich amgylchiadau unigol ar sail eich asesiad eich hun o'r risgiau sy'n eich wynebu. Nid yw'r Gwasanaeth yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y wybodaeth a roddir (gweler yr Ymwadiad).