Get Safe Online

Home   Cynnwys Cymraeg

Cynnwys Cymraeg

Mae detholiad o erthyglau ‘get Safe Online’ wedi’u cyfiethu i’r Gymraeg

 

  • Defnyddio wal dân
    Mae wal dân yn gweithio fel rhwystr rhwng y rhyngrwyd gyhoeddus a’ch cyfrifiadur preifat neu’ch rhwydwaith chi, ac yn atal peryglon gan gynnwys rhai feirysau.
  • Gosod meddalwedd gwrthfeirysau
    Meddalwedd gwrthfeirysau yw un o’r prif ddulliau i’ch diogelu rhag problemau ar-lein. Mae’n sganio’n barhaus am feirysau, gan gynnwys feirysau Trojan a mwydod. Rhaid diweddaru’r feddalwedd i sicrhau ei fod yn gweithio’n effeithiol.
  • Cael y diweddariadau Windows
    Wrth i fygythiadau newydd godi, mae Microsoft yn uwchraddio ei systemau gweithredu a rhaglenni Microsoft Office i’w rhwystro. Er hynny, mae angen i chi lawrlwytho’r diweddariadau hyn yn rheolaidd i sicrhau eich bod wedi’ch diogelu i’r eithaf.
  • Stopio ysbïwedd
    Mae ysbïwedd yn fygythiad slei a llechwraidd i breifatrwydd ac yn gallu arwain at dwyll ariannol. Mae hefyd yn niwsans!
  • Gwneud copïau wrth gefn rheolaidd
    Copïau wrth gefn yw’r amddiffyniad olaf rhag problemau caledwedd, tân neu lifogydd, difrod a achosir gan dorcyfraith neu ddileu data ar gam.
  • Diogelu rhwydweithiau diwifr
    Mae rhwydweithiau Wi-Fi (diwifr) yn agored i beryglon clustfeinio, hacwyr ac ysbeilwyr.
  • Atal negeseuon e-bost digroeso
    Mae negeseuon e-bost digroeso yn llenwi a thagu’ch mewnflwch a’r rhyngrwyd. Gall hefyd gynnwys feirysau ac ysbïwedd. Rhowch stop arnyn nhw.
  • Pori’r rhyngrwyd yn ddiogel
    Mae rhywbeth mor syml â phori’r rhyngrwyd yn gallu bod yn beryglus. Mae gwefannau maleisus yn cynnwys feirysau ac ysbïwedd, ac mae troseddwyr yn creu gwefannau ffug i ddwyn eich gwybodaeth bersonol – felly mae’n bwysig dysgu sut i ddiogelu’ch hun.
  • Siopa ar-lein yn ddiogel
    Mae miliynau o bobl yn prynu pethau ar-lein bob dydd heb unrhyw broblemau. Gydag ychydig o wybodaeth a synnwyr cyffredin, gallwch osgoi problemau wrth brynu a gwerthu ar-lein.
  • Defnyddio ocsiynau ar-lein yn ddiogel
    Mae ocsiynau ar-lein yn cysylltu prynwyr â gwerthwyr parod, a dyma un o lwyddiannau’r rhyngrwyd. Er hynny, mae twyllwyr yn barod i fanteisio ar hyn os nad ydych chi’n ddigon gofalus neu os na ddilynwch chi’r rheolau.
  • Defnyddio cyfrineiriau cryf
    Peidiwch â’i gwneud hi’n hawdd i hacwyr ddyfalu beth yw eich cyfrinair. Defnyddiwch gyfrineiriau cryf a chadwch ddrwgweithredwyr draw.
  • Blogiwch yn ddiogel
    Mae blogiau’n ymddangos ym mhob man, ac maen nhw’n ffordd wych o gyfathrebu, ond mae’r gwefannau hyn sydd wedi’u creu gan ddefnyddwyr yn cynnwys peryglon cudd. Dysgwch sut i’w hosgoi.
  • Rhwydweithio cymdeithasol yn ddiogel
    Mae rhwydweithio cymdeithasol yn mynd o nerth i nerth, ond a ydych chi’n datgelu mwy na’r bwriad?
  • Talu ar-lein yn ddiogel
    Boed yn prynu neu werthu, mae taliadau ar-lein yn angenrheidiol ac fel arfer yn saff os ydych chi’n defnyddio’r dulliau cywir ac yn diogelu eich hun.
  • Peidiwch â chael eich dal gan dwyllwyr
    Pobl yw’r cyswllt gwanaf yn y gadwyn ddiogelwch fel arfer. Mae troseddwyr a thwyllwyr yn gwybod hyn, ac yn manteisio arno. Cadwch lygad barcud am eu triciau.
 
Copyright (c) 2010 Get Safe Online. All rights reserved.
Powered by NQcontent