Mynd i'r prif gynnwys
Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Budd-dal sy’n gysylltiedig ag incwm i bensiynwyr sy’n byw ym Mhrydain Fawr yw Credyd Pensiwn. Mae’n cynnwys dwy ran wahanol, sef Credyd Gwarant a Chredyd Cynilion. Yma cewch wybod mwy ynghylch sut y gallwch gael amcangyfrif Credyd Pensiwn, a sut i wneud cais.
Mae Credyd Gwarant yn gweithio drwy gynyddu’ch incwm wythnosol i:
Fe allech chi gael mwy os ydych chi’n anabl, gennych gyfrifoldebau gofal neu gostau eraill sy’n ymwneud â’ch cartref, megis taliadau llog ar forgais.
Oedran cymhwyso
Mae’r oedran y gallwch gael y Credyd Gwarant – yr oedran cymhwyso – yn cynyddu’n raddol o 60 i 65 rhwng Ebrill 2010 a 2020 yn unol ag oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer menywod. I gael gwybod yr oedran y gallech wneud cais am Gredyd Pensiwn, gallwch ddefnyddio cyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae newidiadau i oed Pensiwn y Wladwriaeth yn debygol o effeithio ar yr oed gofynnol ar gyfer Credyd Pensiwn.
Er ei bod yn rhaid i chi fod wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso, gallwch ddal hawlio os yw’ch partner yn iau na’r oedran cymhwyso. Os ydych chi a’ch partner dros yr oedran cymhwyso, gallwch chi neu’ch partner wneud cais.
Defnyddir y gair ‘partner’ i gyfeirio at:
Newidiadau yn oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Efallai y bydd yr oedran y byddwch yn cael eich Pensiwn y Wladwriaeth yn newid. I gael gwybod os bydd hyn yn effeithio arnoch chi, gweler ‘Cyfrifo eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth’.
Os ydych chi'n 65 oed neu’n hŷn ac yn byw ym Mhrydain Fawr, fe allai fod gennych hawl i gael Credyd Cynilion. Gallech gael y Credyd Cynilion ar ei ben ei hun neu gyda’r Credyd Gwarant. Efallai fod gennych hawl i gael Credyd Cynilion:
Os oes gennych bartner, mae’n rhaid bod o leiaf un ohonoch yn 65 oed neu’n hŷn er mwyn cael y Credyd Pensiwn.
Gyda’r Credyd Cynilion gallwch gael hyd at:
Mae’n bosib y gallwch ddal gael Credyd Cynilion hyd yn oed os ydych yn cael tua:
Fe allech chi gael mwy os oes gennych gyfrifoldebau gofal, anabledd neu gostau eraill sy’n ymwneud â’ch cartref, megis taliadau llog ar forgais.
Defnyddiwch y cyfrifiannell Credyd Pensiwn i gael amcangyfrif o’ch Credyd Pensiwn. Mae’r cyfrifiannell ar-lein hwn yn gyflym ac yn hawdd ei ddefnyddio, a bydd yn dweud wrthych faint o Gredyd Pensiwn y gallech ei gael. Cewch wybod mwy am yr amcangyfrif o’ch Credyd Pensiwn ar y dudalen ganlynol:
Y ffordd gyflymaf a rhwyddaf o wneud cais am Gredyd Pensiwn yw ffonio'r Gwasanaeth Pensiwn ar 0800 99 1234 neu ffôn testun 0800 169 0133. Mae’r Llinell ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Pan fyddwch yn ffonio, bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnoch:
Bydd cynghorydd ar gael i'ch helpu i wneud cais am Gredyd Pensiwn ac i ddweud wrthych beth fydd yn digwydd nesaf.
Gall y Gwasanaeth Pensiwn hefyd eich helpu os byddwch chi'n gwneud cais am Fudd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor yr un pryd ag y byddwch chi'n gwneud cais am Gredyd Pensiwn.
Os nad ydych yn siarad Saesneg, gall cyfieithydd eich helpu i wneud cais. Ffoniwch Rhadffôn 0800 99 1234. Bydd cynghorydd a chyfieithydd yn eich ffonio’n ôl.
Mae’r llinellau ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gallwch lwytho ffurflen oddi ar y we, ei hargraffu a'i llenwi ac yna'i phostio am ddim i'ch canolfan bensiynau. Ond cofiwch, mae’n gyflymach a rhwyddach i wneud cais am Gredyd Pensiwn dros y ffôn.
Hefyd, gallwch lwytho ffurflen gais a’i llenwi ar eich cyfrifiadur. Gallwch wedyn ei hargraffu a’i phostio i’ch canolfan bensiynau yn rhad ac am ddim.
Gallwch wneud cais hyd at bedwar mis cyn y dyddiad y mae arnoch eisiau dechrau hawlio Credyd Pensiwn.
Mae’r oedran cymhwyso ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu’n raddol i 65 yn unol ag y cynydd yn oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer menywod. Gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ganfod ar ba ddyddiad y cewch ddechrau hawlio Credyd Pensiwn.
Ni ellir ôl-ddyddio fwy na tri mis o’ch hawliad Credyd Pensiwn.
Os ydych am ddechrau hawlio Credyd Pensiwn o ddyddiad yn y gorffennol neu’r dyfodol, mae angen i chi ddweud hynny wrth y Gwasanaeth Pensiwn pan fyddwch yn gwneud cais.
Newidiadau yn oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Efallai y bydd yr oedran y byddwch yn cael eich Pensiwn y Wladwriaeth yn newid. I gael gwybod os bydd hyn yn effeithio arnoch chi, gweler ‘Cyfrifo eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth’.
Bydd faint o incwm a gewch yn effeithio ar eich hawl i Gredyd Pensiwn. Yma gallwch ganfod pa incwm sy’n cyfrif tuag at Gredyd Pensiwn, sut y telir Credyd Pensiwn a sut y gallai effeithio ar eich budd-daliadau eraill.
Yma cewch weld enghreifftiau o sut y cyfrifir Credyd Pensiwn ar sail oedran ac amgylchiadau. Mae’r enghreifftiau hyn yn eich helpu i ddeall yn well sut y mae Credyd Pensiwn yn berthnasol i sefyllfaoedd bywyd go iawn.