This snapshot, taken on
12/08/2011
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.
Skip to content

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Llywodraeth Cymru

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Pasiwyd Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 15 Mawrth 2011 a chymeradwywyd gan Ei Fawrhydi mewn Cyngor ar 10 Mai 2011.

Bydd y Mesur yn gwneud newidiadau y bwriedir iddynt atgyfnerthu strwythurau llywodraeth leol yng Nghymru a gwella’r modd y mae’n gweithio, a hynny ar bob lefel. Bwriedir i’r newidiadau fod yn fodd hefyd i sicrhau bod cynghorau lleol yn estyn allan at bob sector o’r cymunedau a wasanaethir ganddynt, ac yn ymgysylltu â hwy.    

Bydd y mesur yn:

  1. helpu cynyddu ac ehangu cyfranogiad mewn llywodraeth leol;
  2. gwella strwythurau llywodraethu o lywodraeth leol yng Nghymru;
  3. cryfhau rôl cynghorwyr nad ydynt yn aelodau o weithrediaethau’r awdurdodau lleol (“aelodau’r meinciau cefn”);
  4. datblygu rôl cynghorau cymuned yng Nghymru;
  5. diwygio’r system ar gyfer pennu lwfansau cynghorwyr;
  6. rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn i gyfuno hyd at dri awdurdod lleol.

Mae’r Mesur Lywodraeth Leol (Cymru) 2011 (fel cymeradwywyd) ar gael ar wefan Legislation.gov.

Mae'r ddogfen isod yn esbonio diben y mesur ac yn nodi beth y bydd pob adran ac atodlen yn ei wneud.

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.