This snapshot, taken on
13/04/2012
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.
Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog yn cyhoeddi £500,000 i wella’r gallu i achub o ddŵr

Mae Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, wedi cyhoeddi £500,000 o gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru i wella’u gallu i achub o ddŵr.
Dydd Iau 26 Tachwedd 2009

Caiff yr arian ei ddefnyddio i wella badau achub ac offer amddiffyn personol, a fydd yn gwella’n sylweddol allu’r gwasanaethau tân ac achub i ymateb i achosion llifogydd brys a chydlynu’r tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru â’r safonau cenedlaethol ar gyfer achub o ddŵr.  

Meddai Dr Gibbons:

“Dros yr wythnos ddiwethaf rydym wedi gweld effeithiau llifogydd difrifol gyda difrod i gartrefi, busnesau, cymunedau, ac yn fwyaf trychinebus, dau berson yn marw yng Nghymru.

“Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth yn ei gallu i helpu’r gwasanaethau tân ac achub a’u partneriaid, fel Awdurdodau Lleol, Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau a’r RNLI i ddatblygu strategaeth achub mewn llifogydd i Gymru. Bydd y £500,000 hwn yn rhoi hwb pwysig i’r broses drwy ddarparu badau ac offer ychwanegol i’r gwasanaethau tân ac achub.”

Meddai Paul Bates, Prif Swyddog Cynorthwyol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ac arweinydd Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân yng Nghymru ar gyfer achub o ddŵr:

“Mae’r gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru yn amlwg yn hynod o falch bod Llywodraeth Cynulliad Cymru’n buddsoddi yn ein gallu i achub o ddŵr. Bydd yr arian ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i gryfhau gallu’r gwasanaeth i ymateb i sefyllfaoedd peryglus iawn, gan wella diogelwch ein staff a’r cyhoedd fel ei gilydd.”

26 Tachwedd 2009

 

Cyfran

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Tân ac achub

Tagiau

Cyfiawnder cymdeithasol 26 Tachwedd 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Ebrill 2012
Ll M M I G S S
<< Maw    
            1
2 3 4 5 6 7 8
9 10 11 12 13 14 15
16 17 18 19 20 21 22
23 24 25 26 27 28 29
30            
I'n dilyn ni trowch i