Deddfwriaeth
Mae deddfwriaeth yn offeryn allweddol ar gyfer Gweinidogion Cymru er mwyn iddynt roi polisïau ar waith yng Nghymru er budd y bobl. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn galluogi Llywodraeth Cymru i gyflwyno ei rhaglen ei hun o ddeddfwriaeth.
Yn sgil y bleidlais Ie ar 3 Mawrth 2011 yn y refferendwm ar roi mwy o bwerau deddfu i’r Cynulliad Cenedlaethol a chychwyn Rhan 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru bydd y rhaglen ddeddfwriaethol yn cynnwys Biliau’r Cynulliad.
Mae gennym hefyd fathau eraill ac ychwanegol o ddeddfwriaeth i’n galluogi ni i gyflwyno polisïau sef:
- Is-ddeddfwriaeth
- Gorchmynion Trosglwyddo Swyddogaethau
- Biliau Seneddol y DU.
Mae’n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio ymestyn y pynciau hynny y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru basio Biliau’r Cynulliad yn eu cylch fel y rhestrwyd yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Mae’r ddeddfwriaeth a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru yn ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol ac mae’n bosibl y bydd angen i Gynulliad Cenedlaethol Cymru graffu arni a’i chymeradwyo.
Dolenni perthnasol
Mae Adroddiadau am Benderfyniadau yn cynnwys y ffeithiau a'r dadansoddiadau y mae Weinidogion wedi seilio ei benderfyniadau.
