Mynd i'r prif gynnwys
Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n byw mewn eiddo preswyl mae'r gyfraith yn eich amddiffyn rhag harasio a chael eich troi allan yn anghyfreithlon. Mae'n gwneud hyn trwy wneud harasio a throi allan anghyfreithlon yn droseddau a thrwy alluogi dioddefwr i hawlio iawndal yn y llys sifil.
Dan y gyfraith, mae'n drosedd i landlord:
Efallai y bydd yn rhaid i berson a geir yn euog gan ynadon o drosedd dan Ddeddf Gwarchod rhag Troi Allan 1977 orfod talu dirwy neu fynd i garchar am chwe mis, neu'r ddau. Os aiff yr achos i Lys y Goron, gellir carcharu am hyd at ddwy flynedd, neu ddirwy, neu'r ddau.
Os teimlwch fod eich landlord yn ceisio'ch taflu chi allan o'ch cartref, dylech siarad â'ch cyngor lleol. Efallai fod ganddynt swyddog cysylltiadau tenantiaeth a fydd yn gallu helpu neu rywun yn yr adrannau tai neu iechyd yr amgylchedd sy'n arbenigo ym maes harasio.
Neu gallech ofyn am gyngor gan ganolfan cyfraith, canolfan cymorth tai, Canolfan Cyngor Ar Bopeth neu gyfreithiwr.
Fel arfer rhestrir cyfeiriadau sefydliadau cynghori yn y llyfr ffôn neu yn y llyfrgell leol, neu gellir eu cael gan eich cyngor lleol. Os oes trais corfforol ynghlwm wrth yr achos, dylech gysylltu â'r heddlu.
Mae gan gynghorau lleol rym i gychwyn achos cyfreithiol gyda throseddau harasio a throi allan yn anghyfreithlon dan y Ddeddf. Os yw'r dystiolaeth yn cyfiawnhau hynny, gallant ymchwilio i'r achos ac erlyn os credant fod trosedd wedi'i gyflawni. Mae gan gyngor lleol bwerau prynu gorfodol hefyd, y gall eu defnyddio dan rhai amgylchiadau os oes harasio difrifol yn digwydd.