This snapshot, taken on
04/07/2011
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

Access key links:

Y cynllun iaith Gymraeg


Ein hymrwymiad ni i sicrhau bod y Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal yn y gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu i’r cyhoedd yng Nghymru.

(English)

Yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, rydyn ni wedi sefydlu cynllun iaith i gyhoeddi gwybodaeth yn Gymraeg lle bynnag y bo’n “briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol”.

Cafodd Cynllun Iaith Gymraeg yr Adran ei ategu gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 28 Mai 2009 ac mae’n disodli’r cynllun iaith blaenorol a gymeradwywyd ar 30 Awst 2000. Yn unol â’r cynllun iaith ei hun, gweler isod i lawrlwytho testun llawn y cynllun iaith yn Gymraeg ac yn Saesneg ac i gael disgrifiad o’r Adran yn Gymraeg.

Mae’r cynllun iaith yn nodi ymrwymiadau’r Adran sy’n sicrhau y bydd ‘wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal’, megis defnyddio’r Gymraeg mewn ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd ac ymgyrchoedd hysbysebu. Hefyd, bydd pobl sy’n dod i gyfarfodydd cyhoeddus a fydd yn cael eu trefnu gan BIS yng Nghymru yn cael cyfrannu yn Gymraeg os byddan nhw’n dymuno, a bydd gohebiaeth Gymraeg yn cael ei hateb yn Gymraeg yn awtomatig.

Lawrlwytho’r cynllun iaith

Disgrifiad o BIS yn Gymraeg

Cyhoeddiadau Cymraeg

Gall deunyddiau sydd wedi’u cyfieithu i’r Gymraeg ac sydd ar gael ar ffurf copi caled gael eu harchebu dwy’r adran cyhoeddiadau ar y wefan hon.

Mae’r Cynllun Iaith Gymraeg yn cynnwys amserlen ar gyfer gweithredu o dipyn i beth. Disgwylir y bydd yr holl ddeunyddiau cyhoeddedig sy’n dod o fewn telerau’r cynllun iaith yn bodloni anghenion y cyhoedd sy’n siarad Cymraeg o fewn blwyddyn ar ôl i’r Bwrdd ategu’r cynllun iaith.

Sylwadau

Os oes gennych chi sylwadau am y cynllun iaith, neu am y deunyddiau a allai gael eu cadw ar y wefan hon yn unol â’r cynllun iaith, cysylltwch â’r:

Information Rights Unit
Department for Business, Innovation and Skills
1 Victoria Street
London
SW1H 0ET

Ffacs: 020 7215 5713
E-bost: Information Rights Unit