Gwybodaeth, cymorth a thelerau ac amodau ar gyfer creu dolen i wefan Directgov. Mae Directgov yn croesawu a chefnogi gwefannau eraill i gysylltu iddo fel prif gwefan llywodraeth ganolog y DU. Trwy greu dolen i Directgov, cymerir eich bod wedi derbyn y telerau a'r amodau.
Os byddwch chi'n dymuno defnyddio testun fel dolen i Directgov, dylech ddisgrifio Directgov fel hyn:
Directgov - gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle
Fe allwch chi ddefnyddio'r cod tarddu canlynol ar gyfer y ddolen hon:
<a href="http://webarchive.nationalarchives.gov.uk/20110509101621/http://www.direct.gov.uk?CID=LA/" title="Link to Directgov - public services all in one place"></a>
teitl="Directgov - gwasanaethau...": caiff y testun hwn ei ddarllen gan borwyr sy'n siarad ac mae modd i ddefnyddwyr ei weld wrth i'w llygoden hofran dros y ddolen. Bydd hefyd yn gymorth i chwilotwyr ddod o hyd i dudalennau drwy gysylltu geiriau â Directgov
Yn ogystal â'r testun uchod, fe allwch chi ddefnyddio un o'r graffigau canlynol fel dolen weledol i Directgov. Fe allwch chi lwytho'r graffigyn (ar gyfer cyfrifiaduron Windows) drwy glicio botwm dde y llygoden a dewis 'Cadw'r Llun dan yr enw...' neu (ar gyfer cyfrifiaduron Mac) drwy glicio ar y botwm Control a botwm y llygoden, a dewis 'Download Image to Disk'.
Cod tarddu
Dylai'r cod tarddu ar gyfer y ddolen edrych yn debyg i hyn:
<a href="http://webarchive.nationalarchives.gov.uk/20110509101621/http://www.direct.gov.uk?CID=LA/"><img width="[***]" height="[***]" src="http://webarchive.nationalarchives.gov.uk/20110509101621/http://www.direct.gov.uk/cy/SiteInformation/[file_path/file_name.gif]" alt="Link to Directgov - public services all in one place"></a>
Peidiwch â lleihau maint y graffigau hyn gan na fydd modd darllen y testun os gwneir hynny.
Ni ddylech geisio cysylltu Directgov â'ch safle neu gydag unrhyw gynnwys nad yw'n perthyn i Directgov. Ni ddylech chwaith honni bod Directgov yn rhoi sêl bendith i chi nac yn eich cymeradwyo chi, eich gwefan nac unrhyw gynnyrch neu gynnwys nad yw'n perthyn i Directgov.
Nid ydym yn caniatáu i'n tudalennau gael eu llwytho i fframiau ar eich safle. Rhaid llwytho tudalennau i ffenestr lawn y defnyddiwr. Ni ddylech chi osod unrhyw graffigau, na chwarae deunydd sain, dros gynnwys Directgov, na chaniatáu i ffenestr bowld ymddangos ar yr un pryd â chynnwys Directgov.
Nid ydym yn caniatáu i wefan gael dolen i Directgov os yw'n cynnwys deunydd sy'n enllibus, yn ddifrïol, yn bornograffig, yn anweddus, neu sydd mewn unrhyw ffordd yn torri cyfreithiau Cymru a Lloegr neu'n torri hawliau eiddo deallusol unrhyw drydydd parti.
Os byddwn ni'n cysylltu â chi i ddileu eich dolenni i Directgov, rhaid i chi wneud hynny ar unwaith.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am greu dolen i Directgov, cysylltwch â ni drwy ddilyn y ddolen isod.