Mae dyletswydd gyfreithiol ar gyflogwyr i ddarparu gweithle iach a diogel. Fel gweithiwr/wraig, mae gennych chi hawliau ond hefyd mae gennych chi gyfrifoldeb am eich lles chi'ch hun a lles eich cydweithwyr. Cael gwybod beth yw'r cyfrifoldebau hyn, a sut mae cyflawni'r gofynion.
Fel gweithiwr/wraig, mae gennych hawliau dan y gyfraith i weithio mewn amgylchedd diogel ac iach, ac yn gyffredinol, ni all eich cyflogwyr newid na dileu'r hawliau hynny. Dyma'r hawliau pwysicaf:
Eich cyfrifoldebau pwysicaf fel gweithiwr/wraig yw:
Rhaid i'ch cyflogwyr ddarparu offer gwarchod personol ar eich cyfer am ddim. Rhaid i chi ddefnyddio'r offer yn gywir a dilyn yr hyfforddiant a'r cyfarwyddyd a gawsoch.
Mewn rhai swyddi, gall peidio â defnyddio Offer Gwarchod Personol yn iawn fod yn sail dros gamau disgyblu neu hyd yn oed ddiswyddo. Fodd bynnag, cewch wrthod gwisgo Offer Gwarchod Personol os yw hynny'n peryglu'ch diogelwch (ee gallai offer o'r maint anghywir beryglu'ch diogelwch). Gofynnwch i'ch cyflogwyr neu i gynrychiolydd diogelwch y cwmni am y maint iawn (a rhaid ei ddarparu am ddim).
Os ydych chi’n Sikh sy’n gweithio ar safleoedd adeiladu ac yn gwisgo tyrban gallwch wrthod gwisgo offer gwarchod y pen ar sail grefyddol. Nid yw hwn yn gymwys os ydych chi’n gweithio ar safleoedd ar wahân i safleoedd adeiladu, lle er enghraifft y byddai’r defnydd o offer gwarchod y pen dal yn angenrheidiol.
Os ydych chi’n Sikh sydd ddim yn gwisgo tyrban mae’n rhaid i chi wisgo’r offer gwarchod y pen addas.
Yn y lle cyntaf, dylech drafod eich pryderon gyda'ch cyflogwyr neu gyda'r bos sydd uwch eich pen. Mae'n bosib bod gan eich cwmni gynrychiolydd diogelwch, a'r person hwnnw fydd eich man cyswllt cyntaf. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith e.e. swyddog undeb llafur, mae'n bosib y gall eich helpu.
Rhaid i'ch cyflogwyr beidio â'ch gadael yn agored i unrhyw risg yn y gwaith y gellir ei hosgoi, ac os ydych chi wedi tynnu sylw at risgiau heb gael ateb, mae gwybodaeth gyfrinachol ar gael gan Linell Wybodaeth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Os bydd pethau'n mynd i'r pen, gallwch gysylltu â'r awdurdod sy'n gyfrifol am orfodi iechyd a diogelwch yn eich gweithle (naill ai'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu'ch awdurdod lleol).
Mae gan arolygwyr iechyd a diogelwch bwerau i orfodi'r gyfraith. Os dilynwch chi'r drefn hon, ni chaiff eich cyflogwyr eich disgyblu na'ch rhoi dan anfantais yn eich swydd (ee trwy wrthod talu i chi am yr amser pan wrthodoch chi weithio oherwydd y perygl, eich anwybyddu wrth ddyrchafu pobl ayb).
Gallwch gael gwybodaeth a chyngor ar faterion iechyd a diogelwch gan y Llinell Wybodaeth Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Os oes angen cyngor ychwanegol arnoch ynghylch eich oriau gwaith mae’r llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith yn cynnig cyngor diduedd am ddim ar oriau gweithio.