Ers 1998, mae'n rhaid i blant o dan 16 gael eu pasport eu hunain. Yn 16 oed, gall plant gael pasport deng mlynedd safonol.
Nid yw wedi bod yn bosib ychwanegu plentyn i basbort oedolyn ers ôl 6 Hydref 1998. Er hynny, gall plant sydd wedi'u cynnwys eisoes ar basbortau eu rhieni barhau i deithio ar y pasbortau hyn tan eu bod yn 16 oed neu tan fydd y pasbort yn dod i ben.
Os ceir pasbort newydd yn lle'r pasbort a oedd yn cynnwys y plentyn, bydd yn rhaid gwneud cais ar wahân am basbort i'r plentyn.
Cost am gais safonol am basbort plentyn yw £46.
Mae’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau yn argymell gwneud eich cais drwy'r Swyddfa Bost agosaf sy’n cynnig y gwasanaeth Gwirio & Anfon. Fe allan nhw sicrhau eich bod wedi llenwi eich ffurflen gais yn gywir a bod y dogfennau cywir gennych - gall hyn arbed amser i chi. Fel rheol, fe fyddwch chi'n cael y pasport o fewn pythefnos.
Os byddwch chi'n gwneud cais drwy'r post, mae’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau yn ceisio ymdrin â cheisiadau uniongyrchol sydd wedi'u llenwi'n gywir o fewn tair wythnos. Nid yw hyn yn cynnwys ceisiadau am basportau newydd yn lle rhai sydd ar goll, wedi'u dwyn neu eu difrodi.
Os ydych yn dod i swyddfa Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau i wneud cais mewn person, mae’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau yn darparu gwasanaeth gyda gwarant o un diwrnod (premiwm) a gwarant o un wythnos (llwybr cyflym). Os hoffech chi ddefnyddio'r gwasanaethau gwarantu newydd hyn, rhaid i chi wneud apwyntiad drwy ffonio'r Llinell Gyngor Pasportau ar 0870 521 0410. Nid yw'r gwasanaeth un diwrnod (premiwm) ar gael i gwsmeriaid sy'n gwneud cais am y tro cyntaf nac i'r rheiny sy'n gwneud cais i gael pasport newydd yn lle un sydd ar goll, wedi'i ddwyn neu ei ddifrodi.
Sut bynnag y dewiswch wneud cais, fe'ch cynghorir i beidio â gwneud trefniadau teithio hyd nes bydd y pasport wedi cyrraedd
I gael pasport i'ch plentyn bydd angen tystysgrif geni lawn eich plentyn arnoch; efallai nad y dystysgrif a roddwyd i chi wrth gofrestru genedigaeth eich plentyn fydd hon. Mae tystysgrif lawn yn cynnwys manylion y fam a'r tad. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r cofrestrydd yn yr ardal lle cafodd eich plentyn ei eni.
Ceir mwy o fanylion am basportau drwy ffonio'r Llinell Gyngor Pasportau ar 0870 521 0410.