Cynllun Iaith Gymraeg DfT
Pennod 5 Cyhoeddusrwydd a deunydd printiedig
5.1 HUNANIAETH GORFFORAETHOL
Mae logor Adran syn cynnwys y llythrennau DTLR ar geiriau Trafnidiaeth, Llywodraeth Leol, Rhanbarthau yn rhan hanfodol on hunaniaeth, a byddwn yn parhau iw ddefnyddio ar yr holl ddeunydd cyhoeddedig ar llythyron. Byddwn hefyd yn darparur cyfieithiad Cymraeg o Adran dros Drafnidiaeth, Llywodraeth Leol ar Rhanbarthau iw ddefnyddio ar lythyrau a anfonwn yn Gymraeg, ac ar gyhoeddiadau Cymraeg/dwyieithog.
Bydd y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu (Y Gyfarwyddiaeth) yn darparu cyfieithiad/gwaith celf iw defnyddio gan yr Adran (G): bydd hefyd ar gael i gyhoeddwyr, asiantau, contractwyr ac eraill syn atgynhyrchu ein delwedd gorfforaethol.
5.2 CYHOEDDIADAU
Rydym yn cynhyrchu amrywiaeth eang o ddeunydd cyhoeddedig gan gynnwys deddfwriaeth, dogfennau ymgynghori, cyhoeddiadau corfforaethol, datganiadau ir wasg, pamffledi a thaflenni, ffurflenni a deunydd esboniadol cysylltiedig, sticeri a deunydd arall a fwriadwyd ar gyfer eu harddangos yn gyhoeddus.
Lle bydd dogfennaun rhan o gylch gwaith y cynllun hwn (gweler 5.3) byddwn yn sicrhau bod cyfieithiadau ar gael yn Gymraeg yn gyfan, yn rhannol neu ar ffurf crynodeb, gan ddibynnu ar ddiben y cyhoeddiad. Bydd deunydd a anelwyd at y cyhoedd, megis taflenni, ffurflenni, a deunydd arddangos cyhoeddus yn cael ei gyfieithun llawn, ond maen bosibl y bydd cyhoeddiadau sydd â chylchrediad mwy cyfyng, megis y rheini a anelir at fusnes, yn cael eu cyfieithun rhannol neu ar ffurf crynodeb.
Pan fyddwn yn darparu cyfieithiad Cymraeg o ddogfen byddwn yn gwneud hynnyn ddwyieithog lle y bon bosibl. Ar gyfer cyhoeddiadau a ddosberthir yn fwy eang yn y DG, maen bosibl y byddain well cyhoeddi fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân (neu grynodebau yn Gymraeg) ar sail ymarferoldeb. Yn yr achosion hyn, byddwn yn sicrhau bod y fersiwn Saesneg yn nodin glir bod cyfieithiad neu grynodeb Cymraeg ar gael. Bydd y ddwy ddogfen or un safon, a bydd yr un mor hawdd cael gafael ar y ddwy. Ni fydd pris y fersiwn dwyieithog neu Gymraeg yn fwy na phris y fersiwn Saesneg.
Pan fyddwn yn cyhoeddi dogfennau yn gyfochrog âr Cynulliad Cenedlaethol, byddwn yn cydweithio i geisio sicrhau y cyhoeddir fersiynau Saesneg a fersiynau/crynodebau Cymraeg ar yr un pryd. Pan fydd yr Adran yn cyhoeddi fersiynau dwyieithog neu Gymraeg o ddogfennau, ein nod fydd cynhyrchur rhain ar yr un pryd âr fersiwn Saesneg cyfatebol. Yn eithriadol, efallai na fydd hyn yn bosibl, ac mewn amgylchiadau or fath, bydd y fersiwn Cymraeg neu ddwyieithog ar gael mor fuan â phosibl ar ôl hynny.
Bydd yr Adran yn ceisioi wneud yn glir ir darllenydd pan fydd cyhoeddiad yn berthnasol i Loegr yn unig, er mwyn osgoi unrhyw gamddealltwriaeth ynghylch cyfieithiadau Cymraeg posibl pe bydd y ddogfen yn cyrraedd pobl yng Nghymru.
5.3 MEINI PRAWF Y CYHOEDDIADAU
Y cyhoeddiadau a gynhyrchir yn Gymraeg (gan gynnwys y rhai dwyieithog) fydd y rheini lle byddem yn disgwyl y byddair diddordeb mwyaf oherwydd eu perthnasedd penodol ir cyhoedd neu fusnesau yng Nghymru. Er enghraifft, cynhyrchir taflenni, ffurflenni a dogfennau eraill syn berthnasol i Gymru ac a gaiff eu dosbarthun eang ac y sicrheir eu bod ar gael ir cyhoedd yn Gymraeg; ond ni wneir hynny yn achos cyhoeddiadau technegol ac ymchwil ar rheini a fwriadwyd ar gyfer marchnad arbenigol.
Yn arferol, ni chaiff y categorïau canlynol o ddogfennau eu cyfieithu ir Gymraeg:
- deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth;
- cyhoeddiadau ymchwil a thechnegol;
- dogfennau syn berthnasol i Loegr yn unig;
- dogfennau a anelir at gr wp penodol lle na fydd cyfanswm y copïau a argreffir yn debygol o fod yn fwy na 100,000;
- dogfennau mawr iawn (yn gyffredinol, yn fwy na 100 o dudalennau), er y byddant ar gael ir cyhoedd, na fyddant yn debygol o ennyn diddordeb ac ymateb eang;
- cyhoeddiadau a bennir gan reoliadau rhyngwladol na ellir eu hargraffu ond mewn ieithoedd penodedig
- cyhoeddiadau a fwriedir ar gyfer cyrff eraill syn cynrychiolir Goron, y llywodraeth neur Wladwriaeth (megis awdurdodau lleol) nas bwriedir iw dosbarthu ymysg aelodaur cyhoedd;
- dogfennau a fwriadwyd at ddefnydd mewnol yr Adran.
Bydd yr ymrwymiadau hyn yn berthnasol i gyhoeddiadau newydd ac i rifynnau newydd o ddogfennau presennol.
Byddwn yn sicrhau:
- bod staff a chontractwyr yr Adran syn gysylltiedig â gweithgareddau cyhoeddi a marchnata yn ymwybodol or gofynion a nodir yn y cynllun hwn;
- y bydd y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu yn adolygu arweiniad y Gyfarwyddiaeth ai nodiadau canllaw allweddol i gynnwys cyfeiriadau penodol at ofynion y Gymraeg;
- y bydd y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu yn darparu cyngor i Isadrannaur Adran ar yr amgylchiadau pan ddylid sicrhau bod fersiynau Cymraeg o gyhoeddiadau ar gael;
- y bydd yr Isadran Rheoli Gwybodaeth yn diwygioi chanllaw i arfer da syn cwmpasu cynllun y ffurflenni a ddefnyddir y tu allan ir Adran (Good Forms Make Sense) i gynnwys cyfeiriadau at ofynion y Gymraeg.
5.4 DATGANIADAU IR WASG
Sicrheir y bydd datganiadau or wasg o ddiddordeb arbennig ir cyhoedd syn siarad Cymraeg ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Cynhyrchir datganiadau ir wasg a anfonir yn benodol ir cyfryngau Cymraeg neu ddwyieithog yng Nghymru yn ddwyieithog. Bydd y cyfrifoldeb a rennir gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru fel a nodir ym Mhennod 2. Y nod fydd anfon datganiadau ar yr un pryd yn y ddwy iaith, ond, pan na fydd amser yn caniatáu hyn, cynhyrchir fersiwn Cymraeg mor fuan â phosibl ar ôl hynny.
5.5 GWEITHGAREDDAU HYSBYSEBU A CHYHOEDDUSRWYDD
Rydym yn defnyddio hysbysebu i roi gwybod ir cyhoedd am amrywiaeth eang o bynciau cyfoes. Maer cyfryngau a ddefnyddiwn yn dibynnu ar natur yr ymgyrch, y gynulleidfa darged, yr amseru, y neges, a gwerth am arian.
Teledu/fideo/radio
Pan gaiff hysbysebion teledu a radio eu cyfeirio at y cyhoedd yng Nghymru, byddwn yn hysbysebu yn Gymraeg yn ystod rhaglenni radio a theledu Cymraeg.
Pan fyddwn yn cynhyrchu fideos gyda phynciau syn berthnasol ir cyhoedd yng Nghymru, byddwn yn sicrhau bod y rhain ar gael naill ai yn Gymraeg neu gydag is-deitlau. Ni fydd hyn yn cynnwys fideos o natur dechnegol neu lle bydd y galw am fersiwn Cymraeg yn debygol o fod yn llai na 1000.
Hysbysebu yn yr awyr agored
Pan fyddwn yn hysbysebu yng Nghymru gan ddefnyddio hysbysfyrddau, posteri neu negeseuon electronig, byddwn yn sicrhau bod yr hysbysebion yn cael eu harddangos yn ddwyieithog neu mewn achosion eithriadol, yn Gymraeg a Saesneg ar wahân, gan drin y ddwy iaith yn gyfartal.
Papurau newydd
Pan fyddwn yn rhoi hysbysebion mewn papurau newydd neu gyhoeddiadau eraill fel rhan o ymgyrch hysbysebu yn y wasg yng Nghymru, bydd y rhain yn Gymraeg a Saesneg a byddant yn ymddangos gydai gilydd; bydd yr hysbysebion a roddir mewn cyhoeddiadau Cymraeg yn uniaith Gymraeg.
Arddangosfeydd a sioeau teithiol
Pan fyddwn yn cymryd rhan mewn unrhyw arddangosfa neu ddigwyddiad yng Nghymru, byddwn yn sicrhau y bydd y deunydd arddangos yn Gymraeg a Saesneg neu mewn fformat dwyieithog. Os caiff y deunydd ei arddangos yn Gymraeg bydd maint, ansawdd, eglurder ac amlygrwydd y testun neur deunydd arddangos yn parchur egwyddor o gydraddoldeb.
Arolygon cyhoeddus
Pan fydd gan ymatebwyr yng Nghymru gyfraniad nodedig iw wneud, byddwn yn sicrhau darpariaeth ar gyfer anghenion y Gymraeg. Byddwn yn cyfieithu llythyron a holiaduron ir Gymraeg, ac yn cynnal cyfweliadau dros y ffôn ac wyneb yn wyneb yn Gymraeg.
Bydd Cyfarwyddiadau Desg y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu yn cael eu diwygio i wneud cyfeiriad at anghenion yr Iaith Gymraeg. Gall y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu helpu isadrannau i benderfynu pa gyfrwng iw ddefnyddio i drosglwyddo neges a phryd y dylid sicrhau bod fersiynau Cymraeg ar gael.
5.6 HYSBYSIADAU SWYDDOGOL A HYSBYSIADAU CYHOEDDUS
Pan fyddwn yn arddangos hysbysiadau swyddogol neu hysbysiadau cyhoeddus eraill yng Nghymru, gan gynnwys hysbysebion am benodiadau cyhoeddus, byddwn yn sicrhau bod y fersiynau Cymraeg a Saesneg yn ymddangos gydai gilydd. Byddant yn gyfartal o ran maint, cynnwys, ansawdd ac amlygrwydd.

External website
Pop-up window
Rich text format file
Adobe PDF file
Word file
Excel file
WinZip file