ADRODDIAD ar GYNLLUN IAITH GYMRAEG 2006-07

CYNLLUNIO A CHYFLWYNO GWASANAETH

1. Mae pob un o'r staff sy'n gysylltiedig â'r broses o lunio polisi ar gyfer Cymru yn ymwybodol o'r cynllun. Mae defnyddio adrodd, monitro, ac arweiniad ysgrifenedig blynyddol i staff yn sicrhau bod y cynllun yn cael ei weithredu mewn modd cynhwysfawr a chyson ar draws pob maes polisi perthnasol.

2. Mae arweiniad ar y Cynllun Iaith Gymraeg ar gael i staff ar Fewnrwyd yr Adran.

3. Rydym wedi sicrhau bod y cyfrwng Cymraeg yn cael ei ystyried wrth ffurfio polisïau a mentrau newydd, a bod y mesurau a gynhwysir yn y cynllun yn berthnasol i bolisïau a mentrau newydd pan gânt eu gweithredu.

4. I sicrhau bod ymdriniaeth lawn â gofynion y Cynllun Iaith Gymraeg yn ein gwaith, mae'r Adran yn defnyddio contractwyr fel bo'n briodol. Y llynedd, fe wnaethom ddyfarnu contract ar gyfer yr Asesiad Cenedlaethol o Athrawon Uwch-Sgiliau ac Athrawon Rhagorol, lle mae gan y Contractwr rwymedigaeth y Cynllun Iaith Gymraeg wedi'i ysgrifennu yn ei gontract. Mae staff y Contractwr yn cynnwys aseswyr sy'n siarad ac yn ysgrifennu yn Gymraeg.

5. Yn ystod cyfarfodydd rheolaidd â chontractwyr, fel Capita Teachers' Pensions, Prudential a Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol Atos Origin, rydym yn sicrhau bod ein contractwyr yn ystyried materion yr iaith Gymraeg.

6. Mae gan yr Adran naw o gyrff cyhoeddus anadrannol (NDPB) sydd â chyfrifoldebau yng Nghymru:

7. Mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi gweithredu ei gynllun ei hun ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Fwrdd yr Iaith Gymraeg (ByIG).

8. Mae gan yr Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion (TDA) bolisi hygyrchedd. Mae'r polisi hwn yn nodi ymrwymiad yr Asiantaeth i ddiwylliant o fod yn agored ac mae'n datgan y bydd gwybodaeth yn cael ei chyhoeddi yn rhagweithiol ar gyfer ei rhanddeiliaid ac aelodau o'r cyhoedd. Ei nod yw trefnu bod gwybodaeth ar gael a'i bod yn hygyrch lle bynnag y bo'n bosibl. Mae darparu gwybodaeth yn ymwneud â Chymru wedi'i gynnwys fel rhan o'r ddogfen hon.

9. Nid oes gan y TDA ei gynllun iaith Gymraeg ei hun. Fodd bynnag, mae'r polisi hygyrchedd y sonnir amdano yn y paragraff uchod yn amlinellu ymrwymiad yr Asiantaeth i ddarparu'r holl wybodaeth yn gyfartal. Nid yw'r TDA yn adrodd yn uniongyrchol i Fwrdd yr Iaith Gymraeg, ond mae'n adrodd yn chwarterol i Lywodraeth Cynulliad Cymru sy'n monitro cynnydd yr Asiantaeth wrth fodloni ei thargedau perfformiad.

10. Mae Buddsoddwyr mewn Pobl y DU (BmP) wedi datblygu eu Cynllun Iaith Gymraeg eu hunain sydd bellach yn barod ar gyfer ymgynghori.

11. Mae'r Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm (QCA) yn dilyn cynllun yr Adran. Mae cydymffurfio â chynllun yr Adran yn eitem reolaidd ar yr agenda cyfarfod rheoli. Mae Tîm Nawdd yr Adran yn atgoffa'r QCA o'u cyfrifoldebau wrth ddechrau unrhyw bolisïau newydd.

12. Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) wedi datblygu Cynllun Iaith Gymraeg drafft wrth ymgynghori â Llywodraeth Cynulliad Cymru, ond bydd yn parhau i ddilyn Cynllun yr Adran nes bydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi cytuno ar ei gynllun ei hun.

13. Mae'r Asiantaeth Datblygu Sgiliau Sector (SSDA) wedi mabwysiadu'r egwyddor y bydd yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal, wrth gynnal ei busnes yng Nghymru. Mae'r SSDA wedi llunio Cynllun Iaith Gymraeg sy'n nodi sut bydd yr SSDA yn cyfathrebu â siaradwyr Cymraeg.

14. Mae gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (ECITB) ei Gynllun Iaith Gymraeg ei hun, wedi'i gymeradwyo gan ByIG.

15. Ymdrinnir â gwaith Asiantaeth Cyfathrebu a Thechnoleg Addysgol Prydain (Becta) yng Nghymru gan Femorandwm Dealltwriaeth gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru, sy'n darparu fframwaith ar gyfer perthynas waith. Mae meini prawf wedi'u cytuno i bennu pa gyhoeddiadau a deunyddiau ar y we gan Becta ddylai fod ar gael yn Gymraeg. Cynhelir adolygiad o effeithiolrwydd a gwerth y Memorandwm Dealltwriaeth bob blwyddyn.

16. Mae'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llysoedd i Blant a Theuluoedd (CAFCASS) yn gweithio yn y llysoedd teuluol i ddiogelu lles plant a theuluoedd. Mae ei swyddogaethau yng Nghymru wedi'u datganoli i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Cyflwyno gwasanaethau

17. Mae trefniadau bellach ar waith i sicrhau bod holl wasanaethau'r Adran Addysg a Sgiliau yn cael eu cyflwyno yn effeithiol yng Nghymru. I sicrhau cywirdeb a chysondeb o ran ansawdd, mae timau polisi yn defnyddio gwasanaeth cyfieithu a argymhellir. Mae cymorth cof ar gael ar Fewnrwyd yr Adran i atgoffa staff o'u cyfrifoldebau o dan Gynllun Iaith Gymraeg yr Adran Addysg a Sgiliau wrth ystyried contractau.

18. Mae ein rhestr safonol o gymalau contract yn cynnwys cymal ar ddefnyddio'r Gymraeg mewn contractau gwasanaeth. Er enghraifft, mae'n rhaid i gontractwyr sy'n ymdrin â materion Pensiwn Athrawon ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg i siaradwyr Cymraeg sy'n byw yng Nghymru sy'n cynnwys; (a) ymateb i ymholiadau ffôn ac ymholiadau ysgrifenedig yn ôl yr un graddfeydd amser ag yn Saesneg a, (b) darparu llenyddiaeth yn Gymraeg un unol â chyngor gan ByIG.

19. Dyfarnwyd contract newydd ar gyfer darparu gwasanaethau Ymgynghorydd Meddygol i'r Adran ar faterion yn ymwneud ag athrawon yn ymddeol yn sgil salwch (rhan o bolisi pensiynau athrawon). Mae'r contract a arwyddwyd gan y cyflenwr dewisol, Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol Atos Origin, yn amlinellu'r gofyniad i ddarparu gwasanaethau yn unol â'r Cynllun Iaith Gymraeg. Nid yw Atos Origin yn rhyngweithio yn uniongyrchol ag aelodau o'r cyhoedd; fodd bynnag, gellid gofyn iddynt ymgynghori â meddygon unigol yn Gymraeg.

20. Mae'r Contractwr ar gyfer yr Asesiad Cenedlaethol o Athrawon Uwch-Sgiliau ac Athrawon Rhagorol yn ymwybodol o'r angen i gyflwyno hyfforddiant, ac ati, ac arweiniad ar gyfer aseswyr yn Gymraeg fel bydd angen. Pan fydd yn ofynnol, cynhelir asesiadau yn Gymraeg. Mae ceisiadau am achredu aseswyr ar gael yn Gymraeg.

21. Mae gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Peirianneg Adeiladu drefniadau cytundebol â gwasanaeth cyfieithu sefydledig a argymhellir yng Nghaerdydd. O dan strwythur rhanbarthol ECITB, sefydlwyd tîm dynodedig i sicrhau bod holl gynhyrchion a gwasanaethau ECITB yn cael eu cyflwyno yng Nghymru.

Delio â'r cyhoedd sy'n siarad Cymraeg

22. Mae safonau gohebiaeth yr Adran yr un mor berthnasol i bob llythyr, boed yn Gymraeg neu yn Saesneg. Mewn meysydd y mae'r Adran yn gyfrifol amdanynt yng Nghymru, mae'r holl ohebiaeth a geir yn Gymraeg yn cael ei hateb yn Gymraeg. Mae staff yn gwybod sut i ddelio â gohebiaeth cyfrwng Cymraeg, gan fod hyn wedi'i gynnwys yn yr arweiniad ysgrifenedig, ynghyd â rhestr o siaradwyr Cymraeg yn yr Adran y gellir cysylltu â hwy am gyngor.

23. Dros y cyfnod adrodd, ni chafwyd unrhyw eitemau o ohebiaeth yn Gymraeg. Caiff unrhyw ohebiaeth a geir yn Gymraeg ei chofnodi a'i monitro gan reolwyr gohebiaeth er mwyn i ni allu cadarnhau meintiau ac a gymhwyswyd y safon ai peidio. Trwy fonitro'r holl ohebiaeth, gallwn gadarnhau nad yw'r Adran yn cyfathrebu yn Gymraeg yn ddigon rheolaidd i warantu sefydlu cronfa ddata.

24. Mae'r Tîm Polisi Pensiynau Athrawon yn cyhoeddi Llythyrau Pensiynau Athrawon i awdurdodau lleol a chyflogwyr Cynllun Pensiwn Athrawon eraill o bryd i'w gilydd. Nid oes yr un o gyflogwyr TPS yng Nghymru wedi gofyn am fersiwn yn Gymraeg. Byddai'r llythyr yn cael ei ddarparu yn Gymraeg ar gyfer unrhyw gyflogwr TPS a oedd yn gofyn amdano. Mae'r dogfennau canlynol wedi cael eu cyfieithu i'r Gymraeg ar gyfer Pensiynau Athrawon mewn blynyddoedd blaenorol: Ffurflen 14A a Nodiadau (fersiwn Ion 05); Ffurflen 14PR a Nodiadau (fersiwn Maw 05); a Ffurflen 14A a Nodiadau (fersiwn Tach 05), er na chafwyd unrhyw geisiadau am gyfieithu dogfennau i'r Gymraeg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

25. Mae pob dogfen gais ac arweiniad sy'n ymwneud â pholisi Athrawon Uwch Sgiliau ac Athrawon Rhagorol yn ddwyieithog. Ni chafodd y Prosiect Proffesiynoldeb Newydd unrhyw ohebiaeth yn Gymraeg ac ni chawsant unrhyw gwynion ychwaith. Nid oes yna unrhyw Athro/Athrawes Rhagorol/Ragorol yn gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd. Fodd bynnag, hyd yn hyn nid oes yna unrhyw swyddi Athrawon Uwch Sgiliau.

26. I sicrhau cywirdeb a chysondeb yn ansawdd ein dogfennaeth Gymraeg, rydym wedi cynghori ein timau polisi y dylid ymdrin â phob cais am gyfieithiadau byr trwy ddarparwyr cyfieithu a argymhellir gan ein Huned Caffael y Cyfryngau. Mae ein Huned Cyhoeddusrwydd Corfforaethol, sy'n ymwybodol o ofynion ein Cynllun Iaith Gymraeg, yn ymdrin â chyhoeddiadau mawr.

27. Mae gan ECITB aelod o staff sy'n siarad Cymraeg, a gellir cynnal gohebiaeth yn Gymraeg os bydd angen.

28. Ni chafodd Benthyciadau Datblygu Gyrfa unrhyw ohebiaeth na chwynion yn Gymraeg yn ystod 2006-07.

29. Ni chafodd y TDA unrhyw ohebiaeth yn gofyn am ymateb yn Gymraeg, ac ni chyhoeddwyd unrhyw gylchlythyr dwyieithog na llythyrau safonol i'r cyhoedd yn Gymraeg. Parhaodd y TDA i sicrhau ansawdd holl hysbysebion y dyfodol trwy'r Swyddfa Hysbysrwydd Ganolog fel y cytunwyd y llynedd.

Cyfarfodydd cyhoeddus

30. Lle mae'r Adran yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus yng Nghymru, mae darpariaeth i'r cyhoedd gyfrannu naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg. Rhoddir gwybod i gyfranogwyr am y cyfleuster hwn ymlaen llaw mewn llenyddiaeth hyrwyddo. Ni chynhaliwyd unrhyw gyfarfodydd cyhoeddus yng Nghymru yn ystod y cyfnod yr adroddir amdano.

Ein Hwyneb Cyhoeddus

Ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd, arddangosfeydd a hysbysebu

31. Caiff hysbysebion, gan gynnwys y rheiny sy'n ymddangos yn y cyfryngau Cymraeg, eu gosod gan ein Huned Cyfathrebu a Chyhoeddusrwydd Corfforaethol sy'n dilyn polisïau a gweithdrefnau safonol, gan gynnwys y rheiny a amlinellir yn y Cynllun Iaith Gymraeg. Mae hyn yn sicrhau bod fersiynau Cymraeg a Saesneg yn ymddangos gyda'i gilydd a'u bod yn cael eu dangos yn gyfartal o ran fformat, maint, ansawdd, eglurder ac amlygrwydd. Mae sicrhau ansawdd proflenni gan dimau polisi yn sicrhau bod camgymeriadau yn cael eu gweld yn gynnar a'u bod yn cael eu cywiro cyn cyhoeddi.

32. Mae adran farchnata BmP y DU wedi cadarnhau bod y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal. Caiff perfformiad ei fonitro trwy gyfarfodydd rheolaidd gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae tîm nawdd yr Adran Addysg a Sgiliau yn atgoffa BmP y DU o'i gyfrifoldebau yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn.

33. Caiff swyddi gwag cenedlaethol yn yr SSDA eu hysbysebu yn y wasg leol neu genedlaethol yng Nghymru. Mae hysbysebion yr Asiantaeth yn ddwyieithog, gyda fersiynau Cymraeg a Saesneg yn cael eu dangos gyda'i gilydd ac yn gyfartal o ran maint, fformat, eglurder ac amlygrwydd.

Cyhoeddi ac argraffu deunydd sydd wedi'i gyfeirio at y cyhoedd yng Nghymru

34. Dylai bod yr holl ddeunydd perthnasol sy'n cael ei gyhoeddi, ei argraffu a deunydd electronig, ar gael yn gyfan, yn rhannol neu yn gryno yn Gymraeg, gyda rhagdybiaeth o blaid dogfennau dwyieithog. I sicrhau hyn, mae pob un o'r timau yn adolygu cyhoeddiadau a ffurflenni newydd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r cynllun. Mae cynlluniau prosiect yn ffactor wrth lunio amserlenni ar gyfer cyfieithu deunydd Cymraeg. Mae rheolwr polisi yn adolygu pob un o'r cyhoeddiadau, y ffurflenni a'r fersiynau a ailargreffir i sicrhau bod y fersiwn derfynol yn cydymffurfio â'r Cynllun. Penderfynir ystyried deunydd dwyieithog yn y cyfnod cynllunio.

35. Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn sicrhau bod yr holl gyhoeddiadau perthnasol yn cael eu dosbarthu i fyfyrwyr yng Nghymru, ac mae pob cyhoeddiad a gyflwynir i'w defnyddio gan y cyhoedd yn ddwyieithog.

36. Mae'r holl ddeunydd Cyflog Athrawon ar wahân i ddeunydd cyfreithiol yn cael ei gyfieithu i'r Gymraeg. Ar gyfer 2006-07, cyhoeddwyd arweiniad gan y Tîm Polisi Cyflog Athrawon ar y Cynllun Pensiwn Athrawon yn Gymraeg ac yn Saesneg.

37. Gwelwyd llithro o bryd i'w gilydd pan ymddangosai fersiynau Cymraeg o gyhoeddiadau penodol yn ddiweddarach na fersiynau Saesneg, ond mae hwn yn faes yr ydym wedi ymrwymo i'w wella. Mae ymgynghoriadau â thimau polisi perthnasol a'n Huned Cyhoeddusrwydd Corfforaethol yn dangos nad oes modd osgoi rhywfaint o oedi weithiau wrth gyflwyno fersiynau Cymraeg o ddeunydd, oherwydd graddfeydd amser byr sy'n anochel a'r angen i gyflwyno deunydd i gwsmeriaid yn gyflym. Ni ellir dechrau ar y cyfieithiad nes bod y testun Saesneg terfynol wedi'i gytuno. Felly, pan fydd y fersiwn Saesneg yn barod i gael ei hargraffu, mae'r fersiwn Gymraeg yn dechrau cael ei chyfieithu. Dyma'r rheswm dros y (hyd at) 10 niwrnod o oedi cyn bod y fersiwn Gymraeg ar gael.

38. Fodd bynnag, mae'r Adran yn deall pa mor bwysig yw cynllunio ymlaen ac mae wedi gofyn i'n timau polisi roi amser ychwanegol i'w cynlluniau prosiect ar gyfer cyfieithu'r fersiynau Cymraeg, er mwyn sicrhau nad yw oedi wrth gyflwyno dogfennaeth Gymraeg ddim ond yn digwydd mewn argyfwng.

39. Mae BmP y DU wedi cadarnhau bod ei holl ddogfennau craidd ar gael yn Gymraeg. Mae'n cyhoeddi fersiwn Gymraeg o'r trosolwg o'r Safon Buddsoddwyr mewn Pobl i bob sefydliad yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i'r Safon neu wedi'u cydnabod yn unol â hi.

40. Mae'r SSDA yn trefnu bod ei holl ddogfennau allweddol ar gael yn Gymraeg, gan gynnwys Cynllun Blynyddol ac Adroddiad Blynyddol yr SSDA, a Chytundebau Sgiliau Sector.

41. Mae gan yr ECITB nifer o ddogfennau allweddol ar gael yn Gymraeg, sy'n cynnwys eu Hadroddiad Blynyddol diweddaraf a Chanllaw ar Drethi a Grantiau. Mae'r dogfennau hyn ar gael i'w gweld neu'u llwytho i lawr oddi ar y wefan neu ar gais gan yr ECITB ar ffurf copi caled.

42. Mae'r Cyngor Dysgu a Sgiliau yn gyfrifol am weinyddu Benthyciadau Datblygu Gyrfa ym Mhrydain Fawr. Cyhoeddir y cyhoeddiadau canlynol ar wahân yn Gymraeg ac yn Saesneg:

43. Mae dogfennau'r QCA, megis eu hadroddiad blynyddol, ar gael yn Gymraeg, ond nifer fach sy'n manteisio arnynt. Bydd y QCA yn trefnu i ddogfennau gael eu darparu yn Gymraeg os gofynnir amdanynt.

44. Mae Memorandwm Dealltwriaeth TDA yn gwneud amod y dylai ei gyhoeddiadau recriwtio, ei hysbysebion gwefan a TDA fod ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'r polisi hygyrchedd yn datgan y dylid trefnu bod unrhyw wybodaeth arall ar gael yn Gymraeg os bydd ei hangen. Dosbarthwyd y dogfennau canlynol yng Nghymru. Roedd pob un ohonynt yn ddwyieithog:

Trefniadau â thrydydd parti

45. Mae ein cyrff cyhoeddus anadrannol yn ymwybodol fod angen iddynt adrodd yn unigol i FyIG ar y modd y maent yn cydymffurfio â'u cynlluniau eu hunain. Caiff y cyrff cyhoeddus anadrannol hynny sy'n dilyn Cynllun yr Adran eu hatgoffa o'u dyletswyddau o dan Gynllun yr Adran, ar ddechrau polisïau newydd, neu cyn gweithredu rhaglenni newydd.

46. Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn gweithredu Gwasanaeth Cymorth i Gwsmeriaid dwyieithog ym Mae Colwyn, Gogledd Cymru. Mae'r cyfleuster hwn yn rhoi gwybodaeth am gyllid myfyrwyr i fyfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr a'u noddwyr.

47. Menter ledled y DU yw Gwobrau Hyfforddiant Cenedlaethol (NTA) a reolir gan UK Skills ar ran yr Adran. Yng Nghymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n berchen ar yr NTA, sy'n contractio ar wahân gyda UK Skills i gynnal meysydd penodol o'r Gwobrau. Mae hyn yn cynnwys marchnata, cymorth i ddechreuwyr a'r digwyddiad ei hun.

48. Bydd Cynulliad Cymru yn cytuno â UK Skills yn eu contract pa elfennau ar y Gwobrau Hyfforddiant Cenedlaethol ddylai fod ar gael yn Gymraeg. Yn 2007, mae'r postiwr generig, y ffurflenni cydnabod cais cerdyn cais, y llawlyfr, y gwahoddiadau i'r digwyddiad a'r rhaglenni wedi cael eu cyfieithu/byddant yn cael eu cyfieithu i'r Gymraeg. Mae gan Gynulliad Cymru gytundeb â UK Skills y bydd yn trefnu bod unrhyw ffurflenni cais yn cael eu cyfieithu i'r Saesneg os ydynt wedi cael eu llenwi yn Gymraeg, er mwyn gallu eu hasesu a'u barnu. Mae gwefan NTA hefyd yn cynnwys cysylltiadau i bob un o wefannau'r Gweinyddwyr Datganoledig. Mae hyn yn galluogi i'r Cynulliad gynnwys manylion yn y ddwy iaith.

Gwefannau

49. Mae gan yr Adran wefan Gymraeg sy'n darparu cysylltiadau â deunydd Cymraeg ac mae'n ofyniad i dimau polisi sicrhau bod cyhoeddiadau a chysylltiadau perthnasol yn cael eu cynnwys yn Gymraeg ar y safle hwn. Er enghraifft, mae ein Cynllun Iaith Gymraeg a chopi o'r adroddiad hwn wedi'u cynnwys ar y safle hwn. Ceir cysylltiadau â safleoedd perthnasol hefyd; megis gwefannau Benthyciadau Datblygu Gyrfa a Chyllid Myfyrwyr Cymru. Mae gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru, er enghraifft, yn cynnwys detholiad cyflawn o ffurflenni a chanllawiau sy'n cael eu cyhoeddi yn gyfochrog yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'r safle hwn hefyd yn cynnwys ffurflenni cais cymhwyster y gellir eu llwytho i lawr ar gyfer Cyllid Myfyrwyr y gellir eu llenwi yn y ddwy iaith.

50. Mae Grwp Gweithlu Ysgolion yr Adran yn gweithio gyda'r Tîm Rhyngrwyd mewnol i fonitro cynnwys Cymraeg y wefan Teachernet sy'n cynnwys deunydd ar Gyflog ac Amodau Gwasanaeth Athrawon.

51. Yn sgil trafodaethau pellach â rhanddeiliaid am y cynigion i newid y Cynllun Pensiwn Athrawon, lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus yn 2006. Cafodd manylion am yr ymgynghoriad, a gynhaliwyd rhwng 17 Mai 2006 a 9 Awst 2006, eu cyhoeddi ar Wefan Ymgynghori'r Adran Addysg a Sgiliau a threfnwyd eu bod ar gael o wefan TeacherNet. Roedd y wefan yn cynnwys fersiwn Gymraeg o'r ddogfen ymgynghori a ffurflen ymateb. Roedd y ddwy ddogfen ar gael mewn copi caled. Ni chafwyd unrhyw geisiadau am fersiwn Gymraeg mewn copi caled ac ni chafwyd unrhyw ymatebion yn Gymraeg. Cafodd yr ymgynghoriad ei hyrwyddo'n eang gan gynnwys ar wefan Cynulliad Cymru a chan gymdeithasau undeb a chyflogwr ledled Cymru a Lloegr. Cafodd canlyniadau'r ymarfer ymgynghori eu dosbarthu'n uniongyrchol i'r holl randdeiliaid, gan gynnwys swyddogion Cynulliad Cymru. Trwy gydol y broses adolygu, mae TeacherNet wedi cael ei ddiweddaru yn rheolaidd gyda gwybodaeth yn cael ei darparu ar y safle yn Gymraeg ac yn Saesneg.

52. Cyflwynwyd trefniadau diwygiedig y Cynllun Pensiwn Athrawon o 1 Ionawr 2007. I gyd-fynd â hyn, datblygwyd cyfres gwbl newydd o lenyddiaeth gyda Capita Teachers' Pensions, a gweinyddwyr y cynllun, mae fersiynau Cymraeg ar gael ar gais. Nid oes unrhyw geisiadau wedi dod i law hyd yn hyn. Mae Teachers' Pensions hefyd wedi diwygio'r holl lenyddiaeth arall, y ffurflenni a'r wefan i adlewyrchu'r trefniadau diwygiedig. Mae fersiynau Cymraeg o unrhyw un o'r ffurflenni hefyd ar gael ar gais gan Teachers' Pensions.

53. Mae gwefan yr SSDA yn darparu cyfieithiadau Cymraeg o'r holl ddeunydd lle mae copi caled cyfwerth hefyd wedi'i gynhyrchu. Mae'r holl ddeunydd copi caled a gedwir yn cael ei wirio yn rheolaidd i sicrhau ei fod ar y wefan. Mae'r SSDA wedi llunio ‘porth' Cymraeg ar ei wefan sy'n arwain at ddeunydd a luniwyd yn Gymraeg.

54. Gwefan ECITB yw'r prif gyfrwng ar gyfer cyfleu gwybodaeth ac mae'n cynnwys adran Gymraeg sydd â chysylltiadau â dogfennau allweddol sydd wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg. Gellir llwytho dogfennau allweddol i lawr yn Gymraeg. Bydd ECITB, ar gais, yn darparu fersiwn Gymraeg o unrhyw un o'u dogfennau neu'u cyhoeddiadau.

55. Nid oes gan y QCA fersiwn Gymraeg o'u gwefan. Penderfynwyd peidio â chael fersiwn Gymraeg yng ngoleuni'r galw isel iawn/diffyg galw am ddogfennau Cymraeg. Fodd bynnag, byddai'r QCA yn adolygu eu penderfyniad os yw'r Adran yn ystyried bod hyn yn briodol.

56. Mae Learndirect yn gyfrifol am y Llinell Gymorth Benthyciadau Datblygu Gyrfa, ac maent yn gallu darparu siaradwyr Cymraeg i ateb pobl sy'n ffonio sy'n siarad Cymraeg. Fodd bynnag, nid oedd llinell Gymraeg ddynodedig oherwydd nad oedd y llinell gymorth yn rhan o ymgyrch. Mae'r gweithgareddau hysbysebu a gynhelir gan CDl ar raddfa fach a threfnir eu bod ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Gweithredu'r Cynllun

Trefniadau allanol

57. Mae gwybodaeth gyhoeddus am ein gwasanaethau yn Gymraeg bellach ar gael ar wefan yr Adran, sydd hefyd yn cynnwys y Cynllun Iaith Gymraeg. Mae copïau o'r Cynllun hefyd ar gael ar gais gan Adran yr Uned Ymchwilio Cyhoeddus ( PO Box 12 , Runcorn, Cheshire , WA7 2GJ ).

58. Lle mae llinell gymorth ffôn yn rhan o ymgyrch sy'n berthnasol i gynulleidfa sy'n siarad Cymraeg, cynigir gwasanaeth Cymraeg. Mae a yw'r gwasanaeth ar gael ai peidio yn cael ei wneud yn glir mewn unrhyw gyhoeddusrwydd cysylltiedig. Mae'r llinell gymorth Ffôn ar gyfer Gwobrau Hyfforddiant Cenedlaethol yn cael ei rhedeg gan UK Skills ac mae siaradwyr Cymraeg ar gael, os bydd angen, trwy Gynulliad Cymru.

59. Roedd siaradwyr Cymraeg hefyd ar gael ar linell gymorth ffôn y Benthyciad Datblygu Gyrfa (CDL). Caiff y llinell gymorth hon ei rhedeg gan learndirect. Pe bai rhywun yn ffonio ac eisiau siarad â siaradwr Cymraeg, byddai siaradwr Cymraeg yn cael ei ddarparu. Fodd bynnag, nid oedd yna linell Gymraeg ddynodedig oherwydd nad oedd y llinell gymorth hon yn rhan o ymgyrch.

Trefniadau mewnol

60. Mae timau polisi wedi cael eu hatgoffa am fodolaeth y Cynllun trwy fewnrwyd yr Adran ac maent wedi cael eu hatgoffa yn unigol gan y tîm cydlynu canolog yn yr Adran Materion Cyhoeddus o'u cyfrifoldebau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r Cynllun.

61. Nid ydym yn cyhoeddi ystadegau perfformiad oherwydd ein bod yn cael cyn lleied o ohebiaeth yn Gymraeg.

Monitro

62. Mae ein Tîm Cysylltiadau Whitehall yn y Gyfarwyddiaeth Fasnachol yn monitro cydymffurfio â'r Cynllun yn ganolog ar gyfer yr Adran ac mae'n gyfrifol am fonitro o ddydd i ddydd. Dirprwy Bennaeth y Gyfarwyddiaeth Fasnachol, Darron Cox (Gradd 5) oedd â chyfrifoldeb cyffredinol am y Cynllun yn ystod y cyfnod yr adroddir amdano.

63. Mae safonau gwasanaeth cwsmeriaid yr Adran yn darparu gweithdrefn gwynion, sy'n hawdd ei defnyddio ac yn cael cyhoeddusrwydd da. Gwyddom fod un gwyn wedi dod i law yn ystod y cyfnod adrodd hwn ynghylch benthyciadau myfyrwyr. Ymdriniwyd yn foddhaol â phob ymholiad.