Os cewch eich arestio, byddwch yn colli eich hawl i ryddid dros dro, ond mae gennych nifer o hawliau eraill sy’n eich gwarchod tra byddwch yn y ddalfa. Dylech wybod ambell beth am beth i’w ddisgwyl ac am y deddfau sy’n eich gwarchod.
Os bydd yr heddlu’n amau i chi fod yn gysylltiedig â throsedd, mae ganddynt hawl i'ch arestio lle bynnag yr ydych pan fyddant yn dod o hyd i chi. Does dim ots lle yr ydych chi – ar y stryd, gartref neu yn y gwaith.
Beth mae’n rhaid i’r heddlu ei wneud
Os yw’r heddlu’n bwriadu eich arestio, rhaid iddynt wneud y canlynol:
Caiff yr heddlu ddefnyddio grym rhesymol i’ch arestio os byddwch yn gwrthwynebu neu’n ceisio dianc.
Mae’n bur debyg y rhoddir eich dwylo mewn cyffion ac yr eir â chi i swyddfa’r ddalfa yng ngorsaf yr heddlu.
Ar ôl i chi gyrraedd gorsaf yr heddlu, rhaid i swyddog y ddalfa benderfynu a oes unrhyw resymau cyfreithiol dros eich cadw yn y ddalfa. Rhaid iddynt eich rhyddhau os nad oes rhesymau.
Os cewch eich cadw yn y carchar
Os cewch eich cadw yn y ddalfa, bydd swyddog y ddalfa yn dweud wrthych pam ac yn sôn wrthych am yr hawliau sydd gennych tra byddwch yn cael eich cadw yn y ddalfa.
Rhaid i swyddog y ddalfa sicrhau hefyd nad yw rheolau cod ymarfer Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (sy’n nodi sut y dylech gael eich trin yn y ddalfa) yn cael eu torri.
Mae’r rhain yn cynnwys yr hawl i’r canlynol:
Os ydych chi dan 17 oed
Os ydych chi dan 17 oed, rhaid i’r heddlu ddod o hyd i riant neu warcheidwad i ddod i’r orsaf i’ch cynorthwyo.
Bydd yr unigolyn hwnnw’n bresennol os bydd yr heddlu’n eich cyfweld
Fel rheol, ni ellir eich cadw yn y ddalfa am fwy na 24 awr heb i chi gael eich cyhuddo o drosedd. Fodd bynnag, ar gyfer troseddau mwy difrifol, caiff uwch-arolygydd o’r heddlu ymestyn y cyfnod hwnnw i 36 awr. Caiff llys ei ymestyn i 96 awr.
Pan fydd yr heddlu wedi cwblhau eu hymchwiliad ac wedi penderfynu peidio â gwneud mwy o ymholiadau, byddant yn penderfynu a oes ganddynt ddigon o dystiolaeth ai peidio i'ch cyhuddo o drosedd.
Os nad oes ganddynt ddigon o dystiolaeth, cewch eich rhyddhau.
Ond os bydd yr heddlu’n penderfynu bod ganddynt ddigon o dystiolaeth, rhaid iddynt eich cyhuddo o drosedd.
Os byddwch yn cael eich cyhuddo o drosedd, mae’n golygu bod yr heddlu’n eich cyhuddo’n ffurfiol ac yn gyfreithiol. Byddwch yn cael taflen gyhuddiadau ac arni fanylion y trosedd.
Pan fyddwch wedi eich cyhuddo, rhaid i chi gael gwrandawiad mewn Llys Ynadon.
Bydd yr heddlu’n penderfynu, ar sail y cyhuddiadau yn eich erbyn a’r hyn a wyddant amdanoch, a ddylid eich rhyddhau ar fechnïaeth tan y gwrandawiad hwnnw ynteu eich cadw yn y ddalfa.
Cewch eich rhyddhau ar fechnïaeth oni bai, er enghraifft, fod swyddog y ddalfa yn credu:
Nid ydych yn debygol o gael eich rhyddhau ar fechnïaeth os ydych wedi’ch cyhuddo o drosedd difrifol megis llofruddiaeth, neu os oes gennych euogfarnau blaenorol am droseddau difrifol.