Cyfleoedd ar gyfer Gyrfa
Ceir manylion byr isod am y prif raddfeydd yr ydym yn recriwtio iddynt. Os ydym yn recriwtio ar gyfer graddfa benodol ar hyn o bryd rhoddir manylion. Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o’r swyddi gweigion hyn, cysylltwch â’r sawl a enwir ac anfonir pecyn cais a manylion llawn am y swydd atoch. Neu gallwch ofyn am becyn drwy ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a roddir.
Swyddog Gweinyddol Rhychwant 3
Pwrpas y Swydd
Gweithio fel rhan o dîm er mwyn sicrhau bod y llys, y tribiwnlys neu’r swyddfa yn cyflawni ei nodau a’i hamcanion, drwy gwblhau pob proses yn unol â’r safonau angenrheidiol ac o fewn yr amser penodedig. Mae gwasanaeth i gwsmeriaid yn bwysig iawn. Mae Swyddogion Gweinyddol yn cyflawni amrediad eang o ddyletswyddau gweinyddol a swyddogion gweinyddol yw’r rhan fwyaf o’r staff sydd mewn swyddfa.
Cyswllt ag Eraill
Adrodd i Reolwr Adran a gweithio gyda chydweithwyr fel rhan o dîm, er y disgwylir i ddeiliad y swydd weithio heb oruchwyliaeth ar ôl cael ei hyfforddi. Cwrdd â’r cyhoedd, y proffesiwn cyfreithiol a’r farnwriaeth.
Swyddi Sydd Ar Gael Ar Hyn O Bryd (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
Beili Rhychwant 3
Pwrpas y Swydd
Gweithio yn annibynnol ac fel rhan o dîm gan ymweld â safleoedd i gyflwyno dogfennau a gorfodi dyfarniadau’r Llys Sirol drwy adennill arian ac ymgymryd â’r gwaith o atafaelu a gwerthu nwyddau.
Cyswllt ag Eraill
Gweithio gyda thîm o feilïaid gan adrodd i Reolwr y Beilïaid, er y disgwylir i ddeiliad y swydd weithio heb oruchwyliaeth ar ôl cael ei hyfforddi. Cwrdd â’r cyhoedd a sefydliadau allanol, aelodau o’r proffesiwn cyfreithiol a chyrff eraill sy’n gorfodi’r gyfraith.
Swyddi Sydd Ar Gael Ar Hyn O Bryd (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
Tywysydd Llys Rhychwant 2
Pwrpas y Swydd
Gweithio fel rhan o dîm yn y Llysoedd Sirol ac yn Llys y Goron er mwyn sicrhau bod y llysoedd yn gweithredu’n effeithlon, dan gyfarwyddyd Clercod y Llysoedd, gan roi pwyslais ar gwrdd â gofynion cwsmeriaid. Mae tywyswyr llys yn paratoi ystafelloedd y llys, yn helpu i gadw trefn yn y llys ac yn cynorthwyo i weinyddu llwon tystion a rheithwyr. Gweithredu fel Beili’r Rheithgor pan fo’r rheithgor yn ymneilltuo i ystyried rheithfarn yn Llys y Goron. Gall hyn ambell waith olygu bod angen aros dros nos mewn gwestai. Cynhwysir rhai dyletswyddau y tu allan i’r llys hefyd (fel trin y post).
Cyswllt ag Eraill
Adrodd i Dywysydd Goruchwylio neu Reolwr Adran a gweithio gyda chydweithwyr, gan gynnwys Clercod Llys, fel rhan o dîm. Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio heb oruchwyliaeth ar ôl cael ei hyfforddi. Cwrdd â’r cyhoedd, y proffesiwn cyfreithiol a’r farnwriaeth.
Swyddi Sydd Ar Gael Ar Hyn O Bryd (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
Cynorthwy-ydd Gweinyddol Rhychwant 2
Pwrpas y Swydd
Gweithio fel rhan o dîm er mwyn sicrhau bod y llys, y tribiwnlys neu’r swyddfa’n cyflawni ei nodau a’i hamcanion, drwy gwblhau pob proses yn unol â’r safon angenrheidiol ac o fewn yr amser penodedig, gan roi blaenoriaeth i gwrdd â gofynion cwsmeriaid. Mae cynorthwywyr gweinyddol yn cyflawni dyletswyddau amrywiol gan gynnwys estyn ffeiliau, ffeilio, mewnbynnu data ar gyfrifiaduron, drafftio llythyrau arferol, llungopïo dogfennau a defnyddio peiriannau ffacs.
Cyswllt ag Eraill
Adrodd i Reolwr Adran a gweithio gyda chydweithwyr fel rhan o dîm, er y disgwylir i ddeiliad y swydd weithio heb oruchwyliaeth ar ôl cael ei hyfforddi. Cwrdd â’r cyhoedd, y proffesiwn cyfreithiol a’r farnwriaeth.
Swyddi Sydd Ar Gael Ar Hyn O Bryd (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
