This snapshot, taken on
04/02/2011
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.
English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Ynglŷn â GLIEM
 
Chwiliad manwl

Gwybodaeth ychwanegol

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Adroddiadau blynyddol Cynlluniau busnes Swyddi Gwag

Telerau ac Amodau


Ymwadiad | Hawlfraint y Goron | Datganiad Preifatrwydd | Creu hyperddolen atom ni yn GLlEM | Datganiad Diogelu rhag Firysau |  Gwasanaethau Iaith Gymraeg | Datganiad Polisi Iaith Gymraeg

Telerau ac Amodau

Caiff gwefan Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi (GLlEM) ei chynnal er mwyn i chi edrych arni a'i defnyddio at ddibenion personol. Mae agor a defnyddio'r safle hwn yn golygu eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn, a ddaw i rym ar y dyddiad pan fyddwch yn defnyddio'r safle am y tro cyntaf.

Ymwadiad

Canllaw gwybodaeth yn unig ydy cynnwys y tudalennau hyn. Ni dderbynnir unrhyw gyfrifoldeb gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol a'r Arglwydd Ganghellor nac ar eu rhan am unrhyw wallau, unrhyw beth sydd wedi'i hepgor, na datganiadau camarweiniol ar y tudalennau hyn nac unrhyw safle sydd â dolen at y tudalennau hyn, gan gynnwys unrhyw nodwedd neu agwedd o safle neu dudalennau o'r fath, boed y rheini wedi'u darparu gan Wasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi, Adrannau neu Asiantaethau eraill neu unrhyw sefydliad, cwmni neu unigolyn. Os enwir sefydliad, cwmni neu unigolyn ar y tudalennau hyn, neu unrhyw safleoedd eraill sydd â dolen at y tudalennau hyn, nid yw hynny'n golygu bod yr Asiantaeth yn cymeradwyo nac yn gwarantu safle na gallu sefydliad, cwmni neu unigolyn o'r fath.

^ Brig

Hawlfraint y Goron

Caiff y deunydd ar y safle hwn ei warchod gan hawlfraint y Goron oni nodir yn wahanol. Gellir atgynhyrchu deunydd a warchodir gan hawlfraint y Goron (ac eithrio'r Arfbais Frenhinol a logos adrannau neu asiantaethau) yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng cyn belled â'i fod yn cael ei atgynhyrchu'n gywir heb gael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Pan fydd unrhyw eitemau ar y safle hwn a warchodir gan hawlfraint y Goron yn cael eu hail gyhoeddi neu eu copïo i safleoedd eraill, rhaid nodi ffynhonnell y deunydd a chydnabod statws yr hawlfraint.

Nid yw caniatâd i atgynhyrchu deunydd a warchodir gan y Goron yn cynnwys unrhyw ddeunydd ar y safle hwn sy'n cael ei nodi fel hawlfraint trydydd parti. Rhaid cael caniatâd i atgynhyrchu deunydd o'r fath gan berchnogion yr hawlfraint dan sylw.

Mae GLlEM yn annog defnyddwyr i greu dolenni hypertestun i'r safle hwn.

Am fwy o wybodaeth am bolisi Hawlfraint y Goron a threfniadau trwyddedu, gweler yr arweiniad ar wefan Llyfrfa Ei Mawrhydi.

^ Brig

Datganiad Preifatrwydd

Nid yw gwefan GLlEM yn cipio na'n storio gwybodaeth bersonol yn awtomatig, heblaw am logio cyfeiriad IP y defnyddiwr a gwybodaeth am y sesiwn, er enghraifft, hyd yr ymweliad a'r math o borwr a ddefnyddiwyd. Gweinydd y we sy'n adnabod y wybodaeth hon ac fe'i defnyddir ddim ond at ddibenion gweinyddu'r system a darparu ystadegau y mae GLlEM yn eu defnyddio i werthuso'r defnydd a wneir o'r safle.

Nid ydym yn defnyddio briwsion (cookies) ar gyfer casglu gwybodaeth am ddefnyddwyr y safle.

Efallai y byddwn yn gofyn am wybodaeth bersonol er mwyn i chi allu manteisio ar y gwasanaethau arbennig a gynigwn. Mewn unrhyw achos, fyddwn ni ddim ond yn defnyddio'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei rhoi er mwyn darparu'r gwasanaethau rydych chi wedi holi amdanynt.

Mae'r datganiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i'r wybodaeth sydd ar y wefan GLlEM hon yn unig. Nid yw'r polisi hwn yn berthnasol i ddolenni eraill yn y safle hwn at wefannau eraill.

^ Brig

Creu hyperddolen atom ni yn GLlEM

Nid oes yn rhaid i chi ofyn am ganiatâd i greu dolen uniongyrchol at y tudalennau sydd ar y safle hwn. Nid ydym yn gwrthwynebu i chi greu dolen uniongyrchol at y wybodaeth sydd ar ein safle. Serch hynny, nid ydym yn fodlon i chi lwytho ein tudalennau i fframiau ar eich safle. Rhaid i dudalennau GLlEM lwytho i ffenestr gyfan ar sgrin y defnyddiwr.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau y ceir dolenni atynt. Nid yw'r ffaith eu bod wedi'u rhestru yma yn unrhyw fath o gymeradwyaeth. Ni allwn sicrhau y bydd y dolenni hyn yn gweithio trwy'r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros y tudalennau y ceir dolenni atynt.

^ Brig


Datganiad Diogelu rhag Firysau

Rydym yn gwneud ein gorau glas i wirio a phrofi deunyddiau ym mhob cam o'r broses greu. Mae'n syniad da i chi redeg rhaglen gwrth-firws ar yr holl ddeunydd sy'n cael ei lwytho i lawr o'r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddata sy'n mynd ar goll, yn cael ei amharu arno neu'n cael ei ddifrodi, nac am unrhyw ddifrod i system eich cyfrifiadur, wrth ddefnyddio deunydd ar y wefan

^ Brig

Gwasanaethau Iaith Gymraeg

Mae tudalennau y safwe yma ar gael yn y Gymraeg a’n polisi ni yw bydd y mwyafrif o’r wefan ar gael yn y Gymraeg. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’r tudalennau Cymraeg at Uned Iaith Gymraeg GLlEM ar 01286 669 800 neu drwy ebost.

Datganiad Polisi Iaith Gymraeg

Mae Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd, wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, yn trin yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg yn gydradd.

Nod y polisi yw galluogi pawb sy’n derbyn gwasanaeth gan Wasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi yng Nghymru, neu’n cyfathrebu ag ef, i wneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, yn ôl eu dewis personol.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau mewn perthynas â gwasanaethau iaith Gymraeg at Margaret Davies ar 029 2067 8340 neu drwy ebost.

Cliciwch yma ar gyfer y Cynllun Iaith Gymraeg (PDF 723Kb)


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 12 May 2009 11:10. Uned Iaith Gymraeg Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .