Swyddfa Costau’r Prif Lysoedd
Ein prif swyddogaeth yw darparu asesiad manwl o gostau. Dyma’r broses o archwilio, ac os yw’n angenrheidiol, lleihau bil costau twrnai neu ymgyfreithiwr wyneb yn wyneb. Mae’r costau’n cynnwys nid yn unig ffioedd proffesiynol y twrnai ei hun, ond hefyd treuliau, gan gynnwys ffioedd bargyfreithwyr ac arbenigwyr. Diben asesiad manwl yw –
- pennu faint o gostau y mae gan barti llwyddiannus mewn achos yr hawl i’w hadfer gan ei wrthwynebydd aflwyddiannus
- pennu’r swm y dylai twrnai neu fargyfreithiwr ei gael o gyllid cyhoeddus mewn achosion a ariennir gan y cyhoedd
- pennu faint y dylai cleient ei dalu i’w dwrnai dan y Ddeddf Twrneiod.
Mae pwy sy’n asesu costau yn dibynnu ar y math o achos ac a yw’n cael ei ariannu gan y cyhoedd ai peidio. Rydym yn delio’n bennaf â chostau sy’n berthnasol i’r holl achosion yn:
- Adran Siawnsri, Adran Deulu ac Adran Mainc y Frenhines yr Uchel Lys,
- y Llys Apêl (Civil Division)
- Grwp Llysoedd Sirol Llundain.
Caiff costau eu hasesu gan y Barnwyr Costau (Meistri) neu Swyddogion Awdurdodedig y Llys.
Cyfarwyddyd i lenwi tystysgrif costau diofyn ar gyfer eu codi / selio yn Swyddfa Costau'r Prif Lysoedd
^ Brig
|
