This snapshot, taken on
18/01/2011
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Yswiriant Gwladol

Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gronni eich hawl i dderbyn rhai budd-daliadau nawdd cymdeithasol, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth. Mae'r math a'r lefel o gyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ydych yn eu talu'n dibynnu ar faint yr ydych yn ei ennill ac a ydych yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig. Byddwch yn stopio talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y flwyddyn y byddwch yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth.

Pwy sy'n talu Yswiriant Gwladol?

Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol os ydych yn gweithio, yn hunangyflogedig ac yn 16 oed a throsodd, gyhyd â bod eich enillion dros lefel arbennig. Byddwch yn stopio talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol pan gyrhaeddwch oed Ymddeol y Wladwriaeth. Ar hyn o bryd yr oed ymddeol yw 65 i ddynion a 60 i ferched, ond bydd yn codi'n raddol i 65 i ferched dros y cyfnod 2010 i 2020.

Eich Rhif Yswiriant Gwladol

Eich rhif cyfrif personol chi yw eich rhif Yswiriant Gwladol . Mae'r rhif yn sicrhau bod y cyfraniadau Yswiriant Gwladol a'r dreth a dalwch yn cael eu cofnodi'n gywir ar eich cyfrif. Mae hefyd yn gweithredu fel rhif cyfeirnod ar gyfer y system nawdd cymdeithasol gyfan.

Pwy sy'n defnyddio eich rhif Yswiriant Gwladol?

Rhaid i chi roi eich rhif Yswiriant Gwladol i’r canlynol:

  • Cyllid a Thollau EM (HMRC)
  • eich cyflogwyr
  • Canolfan Byd Gwaith, os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith
  • eich cyngor lleol, os ydych yn hawlio Budd-dal Tai
  • y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr os ydych yn gwneud cais am fenthyciad myfyrwyr

Bydd rhaid i chi hefyd darparu eich rhif Yswiriant Gwladol os ydych yn agor Cyfrif Cynilo Cenedlaethol (ISA).

Mae hawl i nifer o fudd-daliadau'n dibynnu ar y cofnod o'ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol, (gweler 'Budd-daliadau sy'n dibynnu ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol ' isod) felly mae'n bwysig iawn eich bod chi’n cadw’ch rhif yn ddiogel ac nad ydych yn ei ddangos i neb sydd ddim ei angen. Bydd hyn yn atal twyll hunaniaeth.

Sut i gael rhif  Yswiriant Gwladol

Os nad oes gennych rif Yswiriant Gwladol eisoes, rhaid i chi wneud cais am un:

  • cyn gynted ag y dechreuwch weithio
  • cyn gynted ag y byddwch chi neu eich partner yn hawlio budd-dal

I allu gwneud cais rhaid i chi fod:

  • ei fod dros 16 oed
  • yn byw yn y Deyrnas Unedig

Os ydych yn rhiant neu'n warcheidwad ac yn derbyn Budd-dal Plant, bydd unrhyw blant yr ydych yn gofalu amdanynt yn cael cerdyn yn dangos eu rhif Yswiriant Gwladol ychydig cyn iddynt gyrraedd 16 oed.

I wneud cais am rif Yswiriant Gwladol, bydd rhaid i chi ffonio llinell gymorth gwasanaeth dyrannu Yswiriant Gwladol y Ganolfan Byd Gwaith ar 0845 600 0643. Byddan nhw'n gweld a oes rhaid i chi gael rhif ac yn trefnu i chi gael cyfweliad 'profi pwy ydych chi'.

Cyfweliad 'profi pwy ydych chi'

Fel arfer, cyfweliad un-ac-un fydd hwn (oni bai fod angen cyfieithydd arnoch, er enghraifft). Bydd y cyfwelydd yn gofyn cwestiynau i chi am eich cefndir a'ch amgylchiadau.

Mae'n bosib y bydd y cyfwelydd hefyd yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais.

Os nad oes gennych unrhyw ddogfennau swyddogol

Os nad oes gennych unrhyw ddogfennau swyddogol, bydd dal rhaid i chi fynd i'r cyfweliad. mae'n bosib y gallwch chi brofi pwy ydych chi gyda'r wybodaeth rowch chi yn y cyfweliad.

Cyfraddau Yswiriant Gwladol

Mae'r symiau a ganlyn yn berthnasol i'r flwyddyn dreth 2010-2011:

Os ydych yn gyflogedig

  • os ydych yn ennill dros £110 yr wythnos (y 'trothwy enillion') a hyd at £844 yr wythnos byddwch yn talu 11 y cant o'r swm hwn fel cyfraniadau Yswiriant Gwladol 'Dosbarth 1'
  • rydych hefyd yn talu un y cant o'ch enillion dros £844 yr wythnos fel cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1
  • byddwch yn talu swm is fel gweithiwr os ydych yn aelod o gynllun pensiwn 'contractio-allan' eich cyflogwr

Os ydych chi’n hunangyflogedig

  • rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol 'Dosbarth 2' ar gyfraniad cyfradd wastad wythnosol o £2.40
  • rydych hefyd yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol 'Dosbarth 4' fel canran o'ch elw trethadwy - rydych yn talu wyth y cant ar elw trethadwy blynyddol rhwng £5,715 £43,875 ac un y cant ar unrhyw elw trethadwy uwchlaw'r swm hwnnw
  • os disgwylir i'ch enillion ym mlwyddyn dreth 2010-2011 fod yn llai na £5,075 efallai y bydd gennych hawl i'r Eithriad Enillion Isel (EEI), sy'n golygu nad oes raid i chi dalu unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 - gallwch wneud cais am yr EEI ar gyfer blwyddyn dreth 2010-2011 ar ffurflen CF10

Budd-daliadau sy'n dibynnu ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol

Bydd eich hawl i'r budd-daliadau canlynol a/neu'r swm y gallwch ei gael yn dibynnu ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol chi (neu gyfraniadau eich priod neu bartner sifil mewn rhai amgylchiadau):

  • Lwfans Ceisio Gwaith ar sail cyfraniadau (cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 yn unig)
  • Budd-dal Analluogrwydd (os na allwch weithio am gyfnodau hir oherwydd salwch neu anaf)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail cyfraniadau
  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth (Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 yn unig)
  • Lwfans Rhiant Gweddw
  • Lwfans Profedigaeth
  • Taliad Profedigaeth

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Wrth feddwl am beth yr ydych newydd ei ddarllen, pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth i chi?
Wrth feddwl am beth yr ydych newydd ei ddarllen, pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth i chi?
Terfyn o 500 nod

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU