Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn darparu ystod eang o wybodaeth a gwasanaethau, fel budd-daliadau, benthyciadau a grantiau a chymorth i ddod o hyd i swydd. Dewch i gael gwybod sut i gysylltu â'r Canolfan Byd Gwaith a ffyrdd eraill o ddod o hyd i'r wybodaeth neu wasanaeth ar-lein rydych yn chwilio amdano.
Os hoffech wneud cais am fudd-dal ffoniwch 0800 012 1888. Os cewch anawsterau’n siarad neu glywed yn glir, mae gwasanaeth ffôn testun ar 0800 023 4888. Mae’r llinellau ar agor o 8.00 am i 8.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Hawlio ar-lein
Gallwch hefyd wneud cais am y budd-daliadau canlynol:
Newidiadau yn eich amgylchiadau
Mae’n rhaid i chi hysbysu’r Ganolfan Byd Gwaith cyn gynted â phosibl am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau, gan y gallai effeithio ar eich budd-dal.
Defnyddiwch y cysylltiadau canlynol os oes gennych gwestiwn am eich cais am fudd-dal, neu am gael gwybod mwy am gymorth ariannol.
Benthyciadau Argyfwng
Os bydd angen cymorth arnoch mewn argyfwng neu drychineb, gallech gael Fenthyciad Argyfwng.
Grant Gofal yn y Gymuned
Os bydd angen cymorth arnoch os ydych yn ddigartref, yn gadael carchar yn gofalu am rywun neu’n wynebu chwaliad teuluol, gallech gael Grant Gofal Cymunedol.
Benthyciadau Cyllidebu
Os bydd angen help arnoch i dalu am bethau fel dodrefn, dillad a theithio, gallech gael Benthyciad Cyllidebu.
Taliad Tywydd Oer
Os bydd angen cymorth arnoch o ganlyniad i dywydd oer, gallech fod yn gymwys i gael Taliad Tywydd Oer.
Gallwch chwilio am swydd ar-lein drwy ddefnyddio’r chwiliad Swyddi a Sgiliau.
Gallwch chwilio am swydd dros y ffôn. I ddefnyddio gwasanaeth ffôn y Ganolfan Byd Gwaith ffoniwch 0845 6067 890. Os cewch anawsterau’n siarad neu glywed yn glir, mae ffôn testun ar gael ar 0800 6044 022.
Mae’r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 9.00 am ac 1.00 pm ar ddydd Sadwrn.
Defnyddiwch y cyswllt canlynol am wybodaeth i ddod o hyd i waith. Gallwch hefyd gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith am gyngor.
Os rydych angen rhif Yswiriant Gwladol i wneud cais am fudd-daliadau caiff hyn ei wneud fel rhan o’r broses gwneud cais pan fyddwch chi a’ch partner yn gwneud cais am fudd-dal.
Os ydych chi wedi colli eich cerdyn Yswiriant Gwladol neu os oes rhywun wedi’i ddwyn, ffoniwch Linell Gymorth Cofrestru Yswiriant Gwladol ar 0845 915 7006.
Mae’r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Os bydd angen i chi aildrefnu neu ganslo cyfweliad gydag un o'ch ymgynghorwyr, ffoniwch y Ganolfan Byd Gwaith ar 0845 604 4248. Os ydych yn ei chael yn anodd i siarad neu glywed yn glir, mae ffôn testun ar gael ar 0845 608 8551.
Gallwch hefyd gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith i gael gwybod mwy am raglen neu wasanaeth gan y Ganolfan Byd Gwaith.
Gallwch gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith os nad oes gennych gwestiwn sydd wedi rhestru yma.
Darllenwch 'Dywedwch eich barn wrth y Ganolfan Byd Gwaith' os oes gennych gŵyn, sylw neu awgrymiad i'w wneud i'r Ganolfan Byd Gwaith.