This snapshot, taken on
18/01/2011
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut mae llysoedd yn gweithio

Mae’r ffordd y mae llys yn gweithio yn dibynnu ar y mathau o achosion y mae’n gwrando arnynt. Mae gan rai llysoedd farnwr a rheithgor, tra bod gan eraill banel o ynadon. Mae rhai llysoedd yn fwy ffurfiol nag eraill. Gall gwybod sut mae llys yn gweithio fod o gymorth i chi baratoi ar gyfer eich achos.

Y Llys Ynadon

Wrth ddelio gyda materion sifil ac achosion troseddol llai difrifol, mae rôl y Llys Ynadon yn cynnwys:

  • penderfynu a yw diffynnydd yn euog ai peidio a phasio’r ddedfryd briodol
  • penderfynu ar geisiadau am gadw rhywun ar remand yn y ddalfa
  • penderfynu ar geisiadau am fechnïaeth
  • gyrru achosion difrifol i Lys y Goron

Nid yw Llysoedd Ynadon yn defnyddio rheithgor, ond yn hytrach tri ynad yn eistedd fel ‘mainc’. Gyda chymorth cynghorydd cyfreithiol hyfforddedig, maent yn dyfarnu a yw rhywun sy'n cael ei gyhuddo o drosedd yn euog ai peidio, ac yna’n pasio'r dyfarniad.

Y Llys Ieuenctid

Os yw’r person sy’n cael ei gyhuddo o drosedd o dan 18, mae’n bosib i’w achos gael ei gynnal mewn Llys Ieuenctid.

Mae Llysoedd Ieuenctid yn llai ffurfiol na Llysoedd Ynadon. Maent yn fwy agored ac yn ymwneud yn fwy â’r person ifanc sy’n ymddangos yn y llys a’i deulu. Nid yw barnwr Llys Ieuenctid yn gwisgo gŵn, ac mae’r ffordd y delir ag achosion wedi’i gynllunio i beidio a brawychu plant.

Ond, os yw’r achos yn un difrifol, caiff ei wrando yn Llys y Goron ni waeth beth yw oedran y diffynnydd.

Y Llys Sirol

Mae’r rhan fwyaf o achosion y Llys Sirol rhwng pobl neu gwmnïau sy’n credu fod ar rywun arian iddynt. Mae’r materion mwyaf cyffredin y delir gyda hwy mewn Llys Sirol yn cynnwys:

  • hawliadau am ad-dalu dyledion
  • anaf personol
  • materion teuluol megis ysgaru neu fabwysiadu
  • Anghydfodau yn ymwneud â thai, gan gynnwys peidio â thalu morgais neu rent, ac ailfeddiannu.

At ei gilydd, mae hawliadau am symiau bychain yn syml ac fel arfer does dim rhaid i'r rhai cysylltiedig ddefnyddio twrneiod.

Caiff achosion mewn Llys Sirol eu gwrando gan farnwr, ond nid gan reithgor.

Ar ôl y gwrandawiad, anfonir gorchymyn at y rhai cysylltiedig, a elwir weithiau yn ddyfarniad, sy’n esbonio penderfyniad y barnwr. Mae'r cyfan bron o ddyfarniadau sy'n ymwneud â thalu arian yn cael eu cofnodi ar Gofrestr Dyfarniadau'r Llys Sirol. Caiff yr wybodaeth hynny ei defnyddio gan fanciau, cymdeithasau adeiladu a chwmnïau credyd er mwyn archwilio eich statws credyd.

Os nad ydych chi’n talu’r ddyled sydd wedi ei gorchymyn gan y barnwr, gall y person y mae arnoch chi arian iddo ofyn i’r llys geisio adennill yr arian yn gyfreithlon.

Llys y Goron

Mae’r llysoedd hyn yn delio ag achosion troseddol mwy difrifol, megis llofruddiaeth, trais neu ladrad. Mae hefyd yn delio ag achosion ar apêl a’r rheini'r atgyfeiriwyd atynt gan Lysoedd Ynadon.

Gwrandewir treialon gan farnwr a rheithgor 12-aelod. Caiff aelodau o’r cyhoedd eu dewis ar gyfer gwasanaeth rheithgor.

Fel arfer, mewn llys agored y cynhelir treialon troseddol. Mae hyn yn golygu bod gan aelodau o'r wasg a'r cyhoedd hawl i glywed ac i weld beth sy’n digwydd.

Ar ôl i'r holl dystiolaeth gael ei chyflwyno, mae'r rheithgor yn penderfynu a yw'r unigolyn yn euog ynteu'n ddieuog. Mae’r barnwr yna’n dewis y ddedfryd, yn seiliedig ar ganllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth.

Yr Uchel Lys

Mae’r Uchel Lys, a reolir gan Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, yn delio â’r achosion troseddol a sifil uchaf eu proffil, ac yn goruchwylio llysoedd a thribiwnlysoedd eraill.

Mae’r llys wedi’i leoli yn y Llysoedd Barn Brenhinol yn Llundain, a cheir llysoedd rhanbarthol yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r rhan fwyaf o achosion yr Uchel Lys yn cael eu cynnal o flaen barnwr unigol, ond neilltuir rhai achosion penodol i lys adrannol (sy’n cynnwys mainc o ddau farnwr neu fwy).

Y Llys Apêl

Mae Llys Apêl Cymru a Lloegr yn gwrando achosion lle mae llysoedd is wedi gwneud penderfyniadau, ond fod y rheini sy’n gysylltiedig â’r achosion nawr yn anghytuno â’r penderfyniadau. Mae’n bosib y gallant hefyd fod yn anghytuno â’r ffyrdd y gwnaed y penderfyniadau.

Mae’r llys wedi’i rannu yn adrannau troseddol a sifil. Pennaeth adran sifil y llys yw Meistr y Rholiau, a phennaeth yr adran droseddol yw’r Arglwydd Brif Ustus.

Caiff barnwyr parhaol eraill y Llys Apêl eu hadnabod fel Arglwydd Ustusiaid Apêl.

Mae’r llys yn gwrando apeliadau o’r Uchel Lys. Mae hefyd yn gwrando apeliadau o achosion troseddol a gafwyd eu penderfynu yn Llys y Goron.

Yn y Llys Apêl, tri barnwr, sy’n eistedd fel panel, sydd fel arfer yn gwrando pob achos.

Y Llys teulu

Pan fo achosion yn cynnwys plant, maent yn aml yn cael eu gwrando mewn Llys Teulu.

Mae’r llysoedd hyn yn delio ag achosion megis:

  • ceisiadau i fabwysiadu
  • cyswllt â phlant a gwarchodaeth drostynt mewn achosion ysgaru
  • achosion diogelwch plant

Cynhelir y rhan fwyaf o achosion y llys teulu yn breifat. Ni chaniateir mynediad i'r cyfryngau ac ni fydd y penderfyniadau'n cael eu gwneud yn gyhoeddus fel arfer.

Tribiwnlysoedd

Gall tribiwnlysoedd ddelio ag amrywiaeth o achosion, megis mewnfudo, nawdd cymdeithasol, cynnal plant, pensiynau, trethi a chyflogaeth.

Mae pob tribiwnlys yn cael ei redeg yn wahanol, ond mae pob un yn llai ffurfiol na rhai o’r llysoedd eraill.

Mae’n rhaid i’r rheini sy’n rhoi tystiolaeth gerbron tribiwnlys roi tystiolaeth ar lw neu drwy gadarnhau, fel mewn llysoedd eraill. Maent yn dal i allu cael eu cyhuddo o anudoniaeth (perjury) os nad ydynt yn dweud y gwir.

Mwy o ddolenni defnyddiol

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Wrth feddwl am beth yr ydych newydd ei ddarllen, pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth i chi?
Wrth feddwl am beth yr ydych newydd ei ddarllen, pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth i chi?
Terfyn o 500 nod

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Additional links

Gwybodaeth i gyflogwyr

Cael gwybod eich cyfrifoldebau cyfreithiol wrth ichi roi amser o’r gwaith ar gyfer dyletswyddau a gwasanaeth cyhoeddus

Allweddumynediad llywodraeth y DU