Mae’r Pierhead dal ar gau er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â 0845 010 5500
Un o bwyllgorau’r Cynulliad yn cefnogi cynnig i gael pwerau i wneud cyfreithiau ar roi organau
Y Cynulliad i wynebu San Steffan yn eu gêm rygbi elusennol flynyddol
Mae angen cyfnod “Papur Gwyn” ychwanegol o waith craffu er mwyn gwella proses ddeddfwriaethol Cymru
Mae angen ethos cymorth Cymru gyfan ar rieni, meddai un o bwyllgorau’r Cynulliad
Angen cyfraith gynllunio newydd i ateb anghenion unigryw Cymru
Gweler hefyd:
Dydd Mawrth 08 Chwefror 2011
Dydd Mercher 09 Chwefror 2011
Dydd Iau 10 Chwefror 2011
Dydd Llun 14 Chwefror 2011 - Dydd Gwener 18 Chwefror 2011
Dydd Mawrth I Dydd Mercher I Busnes y Cyfarfod Llawn ar gyfer y dyfodol I Cyfarfodydd Llawn
Yr wythnos hon yn y Siambr
Dydd Mawrth
8 Chwefror 2011
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (1.30yh)
Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl.
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (2.28yh)
Eitem 3: Datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai: Polisi Dwr (2.55yh)
Eitem 4: Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 - TYNNWYD Y CYNNIG YN ÔL
Eitem 5: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Mesur Lleoliaeth (3.24yh)
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Derbyniwyd y cynnig.
Eitem 6: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch darpariaethau sy’n ymwneud â phwerau ymafael, cadw a fforffedu o dan is-ddeddfau rheoli da a llywodraethu yn Rhan 4 o Fesur Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol (3.33yh)
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Derbyniwyd y cynnig.
Eitem 7: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch darpariaethau sy’n ymwneud â Phaneli’r Heddlu a Throseddu yn Rhan 1 o Fesur Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol (3.35yh)
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwrthodwyd y cynnig.
Eitem 8: Dadl ar y Gyllideb Derfynol (4.05yh)
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Derbyniwyd y cynnig.
Eitem 9: Dadl ar rôl y Consortia Rhanbarthol - TYNNWYD Y DDADL YN OL
Cyfnod pleidleisio (5.08yh)
Pwynt o drefn (5.12yh)
Cododd Peter Black bwynt o drefn yn gofyn am eglurhad o’r goblygiadau yn deillio o’r ffaith nad oedd y Cynulliad wedi cytuno i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â’r darpariaethau ynghylch Panelau’r Heddlu a Throseddau yn Rhan 1 o’r Mesur Seneddol ynghylch Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol. Dywedodd y Llywydd mai dyma’r tro cyntaf i’r Cynulliad wrthod Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Esboniodd y Llywydd mai cyfrifoldeb y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yw cyfleu canlyniad y bleidlais i’r Gweinidog yn Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y Mesur Seneddol. Byddai hyn yn rhoi cyfle i Lywodraeth y DU ystyried ei safbwynt ymhellach mewn perthynas â’r darpariaethau perthnasol yn y Mesur Seneddol, yng ngoleuni barn y Cynulliad.
Daeth y cyfarfod i ben am 5.13yh.
Crynodeb o Bleidleisiau (PDF, 123KB)
Pleidleisiau a Thrafodion (PDF, 203KB)
Dydd Mercher
Dydd Mercher
9 Chwefror 2011
Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros y Gyllideb (30 munud)
Eitem 2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth (30 munud)
Cwestiwn Brys
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y diwygiadau addysg a gyhoeddodd yr wythnos ddiwethaf?
Eitem 3: Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
Eitem 4: Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar Rôl Mentrau Cymdeithasol yn Economi Cymru (60 munud)
Eitem 5: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Eitem 6: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
Cyfnod pleidleisio
Eitem 7: Dadl Fer (30 munud)
Busnes y Cyfarfod Llawn ar gyfer y dyfodol
Mesurau Arfaethedig sydd ar waith
Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol Arfaethedig sydd ar waith