This snapshot, taken on
18/01/2011
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut i drethu’ch cerbyd gyda ffurflen atgoffa

Oddeutu tair wythnos cyn i'ch disg treth ddod i ben, dylech dderbyn ‘Cais am Drwydded Cerbyd/Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol’ (ffurflen atgoffa V11) gan DVLA. Defnyddiwch y ffurflen atgoffa V11 i adnewyddu eich treth ar-lein, dros y ffôn, drwy'r post neu'n bersonol.

Pryd i wneud cais

Os byddwch yn derbyn ffurflen atgoffa V11 gan DVLA, cewch ddefnyddio hon i adnewyddu eich disg treth neu wneud datganiad HOS. Cewch wneud hyn o bumed diwrnod o’r mis y mae eich disg treth gyfredol neu eich datganiad HOS yn dod i ben.

Os byddwch yn defnyddio eich tystysgrif gofrestru (V5C), cewch wneud cais am ddisg treth neu wneud datganiad HOS o ddiwrnod cyntaf y mis.

Trethu car, beic modur neu gerbyd nwyddau ysgafn

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen atgoffa V11 i drethu:

Ar-lein neu dros y ffôn

I drethu eich cerbyd ar-lein neu dros y ffôn bydd angen i chi ddefnyddio'r rhif cyfeirnod ar eich nodyn atgoffa V11.

Yn un o ganghennau Swyddfa’r Post® neu drwy’r post

Defnyddiwch y ffurflen atgoffa V11 mewn unrhyw gangen Swyddfa'r Post® sy’n rhoi disgiau treth neu drwy'r post i'r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen atgoffa.

Bydd angen i chi fynd â’r canlynol gyda chi neu eu hanfon:

  • y ffurflen atgoffa V11 wedi’i llenwi
  • tystysgrif yswiriant neu nodyn yswiriant dros dro – rhaid iddynt fod yn ddilys ar y dyddiad y mae’r disg treth yn dechrau
  • tystysgrif MOT ddilys – os yw’r car neu’r beic modur dros dair oed – rhaid iddi fod yn ddilys ar y dyddiad y mae’r disg treth yn dechrau
  • y taliad a ddangosir ar y ffurflen atgoffa (does dim angen hwn os yw eich cerbyd wedi'i eithrio rhag talu treth cerbyd)

Dychwelir y ffurflen atgoffa V11 atoch pan gewch chi'r ddisg treth.

Newid enw neu gyfeiriad

Os ydych wedi newid eich enw neu’ch cyfeiriad, ysgrifennwch eich manylion newydd yn adran chwech y dystysgrif cofrestru (V5C). Llofnodwch y dystysgrif a’i chynnwys gyda'ch cais am dreth cerbyd mewn Swyddfa’r Post® neu swyddfa DVLA leol.

Newidiadau i’r dosbarth treth, maint yr injan neu'r math o danwydd

Os mae’ch cerbyd wedi newid, megis maint yr injan, ni fyddwch yn gallu defnyddio’r ffurflen atgoffa V11 i drethu’ch cerbyd yn un o ganghennau’r Swyddfa Post®.

Cerbyd i’w drethu pan fyddwch chi dramor

Os byddwch chi dramor pan fydd eich disg treth yn dod i ben, mae modd i chi drethu ar-lein, trethu ymlaen llaw neu ofyn i rywun drethu’r cerbyd ar eich rhan.

Trethu lori, bws neu fath arall o gerbyd

Gellir trethu’r rhan fwyaf o gerbydau yn un o ganghennau Swyddfa'r Post® sy’n rhoi disgiau treth, gan ddefnyddio’r ffurflen atgoffa V11. Ar gyfer rhai cerbydau nwyddau trwm (HGV), mae DVLA yn darparu V85/1 (ffurflen atgoffa am drwydded HGV) nad oes modd ei defnyddio ond mewn swyddfa DLVA leol.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Wrth feddwl am beth yr ydych newydd ei ddarllen, pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth i chi?
Wrth feddwl am beth yr ydych newydd ei ddarllen, pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth i chi?
Terfyn o 500 nod

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU