This snapshot, taken on
06/01/2011
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gweithgareddau’r ysgol – costau

Er nad oes angen talu i anfon eich plentyn i ysgol a gynhelir fel arfer, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am un neu ddau o weithgareddau. Yma, cewch wybod pryd y mae ysgolion yn debygol o godi tâl arnoch am weithgareddau sy’n gysylltiedig ag addysg eich plentyn.

Gweithgareddau yn ystod oriau ysgol

Pan fydd gweithgaredd yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn ystod oriau ysgol, dylai fod am ddim. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau y bydd yn rhaid i’r ysgol dalu amdanynt efallai, megis gwersi nofio mewn pwll nofio lleol neu ymweliad ag amgueddfa.

Cyfraniadau gwirfoddol

Mae’n bosib y bydd penaethiaid neu gyrff llywodraethu’n gofyn i rieni am gyfraniad gwirfoddol:

  • tuag at gostau unrhyw weithgaredd sy’n cael ei gynnal yn ystod oriau ysgol
  • tuag at gostau offer ar gyfer yr ysgol
  • tuag at gronfa’r ysgol yn gyffredinol

Rhaid i’r cyfraniad fod yn wirioneddol wirfoddol, ac ni ellir eithrio disgyblion rhag cymryd rhan yn y gweithgaredd am nad yw eu rhieni’n gallu neu’n dymuno cyfrannu.

Os nad oes digon o gyfraniadau gwirfoddol i allu cynnal y gweithgaredd, ac os nad oes ffordd arall o gael yr arian, rhaid canslo’r gweithgaredd.

Ymweliadau dros nos gyda’r ysgol

Gall ysgol godi tâl am gost llety ar gyfer trip ysgol pan fydd angen aros dros nos, ond efallai na fydd yr ysgol yn codi mwy na chost wirioneddol y llety.

Pan fydd yr ymweliad yn digwydd i raddau helaeth neu’n gyfan gwbl yn ystod oriau ysgol, ni fydd gofyn i ddisgyblion dalu dim os yw eu rhieni’n cael y budd-daliadau canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Cymorth yn unol â rhan VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Credyd Treth Plant ar yr amod nad oes gan y rhiant hawl i Gredyd Treth Gwaith ac nad yw ei incwm yn fwy na £16,040
  • Credyd Gwarantedig Pensiwn y Wladwriaeth

Mae hyn yn ychwanegol at yr hawl i gael cinio ysgol am ddim.

Mae’r un math o hawl yn berthnasol:

  • pan fydd yr ymweliad yn digwydd y tu allan i oriau ysgol ond ei fod yn rhan anhepgor o’r Cwricwlwm Cenedlaethol
  • pan fydd yr ymweliad yn rhan o’r maes llafur ar gyfer arholiad y mae’r ysgol yn paratoi'r disgybl ar ei gyfer
  • pan fydd yr ymweliad yn rhan o addysg grefyddol

Hyfforddiant cerdd offerynnol

Mae’n bosib y codir tâl am hyfforddiant cerdd offerynnol:

  • oni bai fod yr hyfforddiant yn rhan o’r maes llafur ar gyfer arholiad y mae’r ysgol yn paratoi'r disgybl ar ei gyfer, er enghraifft TGAU
  • oni bai fod y gwersi’n rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol neu’r maes llafur ar gyfer addysg grefyddol

Arholiadau cyhoeddus

Ni cheir codi tâl am gofrestru disgyblion ar gyfer arholiadau cyhoeddus sy'n rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol. Fodd bynnag, mae’n bosib y bydd yn rhaid i’r rhieni dalu i gofrestru disgybl ar gyfer arholiad:

  • os nad yw’r plentyn wedi cael ei baratoi ar gyfer yr arholiad yn yr ysgol
  • os nad yw’r arholiad yn rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol, ond fod yr ysgol yn trefnu i’r disgybl ei sefyll
  • os yw'r disgybl, heb reswm da, yn methu bodloni gofynion unrhyw arholiad cyhoeddus lle mae'r corff llywodraethu neu'r awdurdod lleol wedi talu’r ffi ar gyfer sefyll yr arholiad neu wedi cytuno i wneud hynny’n wreiddiol

Mae’n bosib na chodir tâl am unrhyw gost sy’n gysylltiedig â pharatoi’r disgybl ar gyfer arholiad. Fodd bynnag, caniateir codi tâl ar gyfer hyfforddiant a chostau eraill os bydd disgybl yn cael ei baratoi y tu allan i oriau ysgol ar gyfer arholiad nad yw’n rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol.

Cael gwybodaeth am daliadau ysgol

Nid oes gan yr Awdurdod Lleol na’r corff llywodraethu hawl i godi tâl am ddim oni bai fod ganddynt ddatganiad polisi ar godi tâl. Mae gan rieni hawl i wybodaeth am bolisi codi tâl a dileu ffioedd ysgol, ac mae'n rhaid i gyrff llywodraethu sicrhau bod hwn ar gael ar gais yn ystod oriau ysgol.

Gellir cael mwy o wybodaeth ynghylch sut y dylai ysgolion lunio eu polisïau codi tâl ar wefan Teachernet.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Wrth feddwl am beth yr ydych newydd ei ddarllen, pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth i chi?
Wrth feddwl am beth yr ydych newydd ei ddarllen, pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth i chi?
Terfyn o 500 nod

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU