This snapshot, taken on
06/01/2011
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ysgrifennu CV

Rhestr fer o ffeithiau amdanoch chi a’ch hanes gwaith, eich sgiliau a’ch profiadau yw CV. Mae CV da yn hanfodol wrth chwilio am waith ac mae’n werth treulio amser i’w gael yn iawn fel ei fod yn eich gwerthu i gyflogwr.

Beth yw eich CV?

Dylai eich CV:

  • fod yn daclus, wedi'i deipio os yn bosibl ac i'r safon orau o ran cynnwys a chynllun
  • bod yn gryno, mae dwy ochr o bapur A4 yn ddigon fel arfer
  • bod yn gadarnhaol, dylai bwysleisio eich cyflawniadau, cryfderau, llwyddiannau a sut rydych wedi cyfrannu at eich cyflogwyr i wneud elw (ychwanegwch ffigurau i ategu ffeithiau ble bynnag y gallwch a defnyddiwch eiriau gweithredu cadarnhaol, er enghraifft 'ymgynghori', 'cyd-drafod', 'rheoli' ac ati),
  • creu argraff dda, mae hyn yn golygu cyflwyno'r ffeithiau amdanoch chi mewn ffordd eglur a chadarnhaol

Sut i ddefnyddio’ch CV

I wneud cais i gwmnïau i weld a oes swydd ar gael ganddynt

Gallwch anfon eich CV gyda llythyr neu e-bost eglurhaol yn gofyn a oes ganddynt unrhyw swyddi gwag ar hyn o bryd neu yn y dyfodol yn eich maes. Gallwch ddod o hyd i enwau a chyfeiriadau cwmnïau mewn papurau newydd neu mewn cyfeirlyfrau masnach neu ffôn.

I'ch atgoffa o'r hyn rydych wedi'i wneud

Gallwch ddefnyddio eich CV i'ch helpu i gofio'r holl ddyddiadau a'r wybodaeth bob tro y bydd yn rhaid i chi gwblhau ffurflen gais wahanol.

I'ch helpu gyda cheisiadau dros y ffôn

Gall cael eich CV wrth law wrth wneud cais am swyddi dros y ffôn eich helpu os gofynnir i chi roi rhagor o wybodaeth am unrhyw swyddi blaenorol. Os oes gennych nam ar eich clyw neu leferydd a'ch bod yn defnyddio ffôn testun neu Typetalk, gall cael copi o'ch CV leihau faint o amser y byddwch yn ei dreulio wrth wneud galwad.

Mewn cyfweliadau

Gall cael CV gyda chi tra'n aros i gael eich galw i mewn eich helpu i'ch atgoffa o'r hyn rydych wedi'i wneud. Mae hefyd yn ddefnyddiol gadael copi gyda'r cyfwelydd os nad oes un ganddynt eisoes.

Cofrestru gydag asiantaethau recriwtio

Efallai y bydd asiantaethau yn gofyn am gael gweld eich CV cyn y gallwch gofrestru gyda nhw.

Beth i’w gynnwys

Nid oes unrhyw fformat penodol. Chi sydd i benderfynu sut i gyflwyno eich CV. Fodd bynnag, dylech gynnwys y canlynol o leiaf:

  • eich enw
  • eich cyfeiriad
  • eich rhif ffôn
  • eich cyfeiriad e-bost (os oes gennych un)
  • hanes eich gyrfa

Rhowch eich swydd fwyaf diweddar yn gyntaf a chofiwch gynnwys dyddiadau. Bydd gan gyflogwyr fwy o ddiddordeb yn yr hyn rydych wedi'i wneud fwyaf diweddar. Peidiwch â gadael unrhyw fylchau rhwng dyddiadau, oherwydd bydd cyflogwyr am wybod beth a wnaethoch yn ystod y cyfnodau hynny. Os nad oes gennych lawer o brofiad gwaith, gallech gynnwys swyddi dros dro, swyddi yn ystod gwyliau, swyddi rhan amser a swyddi gwirfoddol hefyd. Os ydych wedi cael llawer o swyddi gwahanol, pwysleisiwch y sgiliau a'r profiad a gawsoch o'r holl swyddi hynny (er enghraifft, sgiliau yn delio â chwsmeriaid, neu sgiliau cyfathrebu).

Nid oes angen i chi gynnwys eich dyddiad geni

Mae cyfreithiau newydd ar wahaniaethu ar sail oedran yn golygu nad oes angen i chi roi eich oedran na'ch dyddiad geni ar eich CV.

Dyma rai enghreifftiau y gallech eu cynnwys:

Proffil personol

Sef datganiad cryno ar ddechrau eich CV i werthu eich hun, eich sgiliau, profiad a rhinweddau personol. Gallech gynnwys geiriau cadarnhaol fel 'cymwys', 'hyblyg' a 'chydwybodol'. Dylech hefyd deilwra'r datganiad i ofynion pob un o'r swyddi rydych yn gwneud cais amdanynt, fel eich bod yn ei gwneud yn glir i'r cyflogwr mai chi yw'r person cywir ar gyfer y swydd.

Cyflawniadau

Soniwch am bethau a wnaethoch yn dda yn ystod eich swyddi blaenorol a allai fod yn berthnasol i'r swydd rydych yn gwneud cais amdani.

Cymwysterau a hyfforddiant

Dylech gynnwys unrhyw gymwysterau a hyfforddiant o swyddi blaenorol (er enghraifft, hyfforddiant mewn iechyd a diogelwch neu dystysgrif mewn hylendid bwyd). Unwaith eto, rhowch y rhai mwyaf diweddar yn gyntaf. Gallwch gynnwys cymwysterau a gawsoch o'r ysgol neu'r coleg hefyd.

Diddordebau

Gall y rhain ategu eich cais os yw eich hobïau a'ch gweithgareddau hamdden yn dangos cyfrifoldebau a sgiliau sy'n berthnasol i'r swydd rydych yn gwneud cais amdani. Efallai eich bod yn perthyn i glwb neu gymdeithas rydych yn trefnu gweithgareddau ar eu cyfer, neu'n defnyddio sgiliau arwain neu waith tîm fel rhan o'r gweithgaredd.

Gwybodaeth arall

Chi sydd i benderfynu p'un a ydych am gynnwys hyn, ond gall fod yn ddefnyddiol os oes unrhyw fylchau yn eich CV. Os cawsoch seibiant gyrfa oherwydd eich bod wedi gofalu am blant neu berthnasau oedrannus, gwnewch hyn yn beth cadarnhaol a meddyliwch am y sgiliau y gwnaethoch eu defnyddio i wneud hyn. Os yw'r swydd rydych yn gwneud cais amdani yn wahanol i'r hyn rydych wedi'i wneud yn y gorffennol, eglurwch pam bod gennych ddiddordeb yn y math newydd o waith.

Geirda

Efallai nad ydych am gynnwys y manylion hyn ar eich CV ond mae'n syniad da cael 2 berson neu fwy a all roi geirda gwaith neu bersonol. Yn ddelfrydol, un ohonynt fydd eich cyflogwr mwyaf diweddar ond os nad ydych wedi bod yn gweithio ers tro gallai fod yn rhywun sy'n eich adnabod ers amser hir a all roi sylwadau ar eich rhinweddau o ran y swydd. Dylech ofyn i'r person gytuno ar hyn ymlaen llaw.

Gofynnwch i ffrind neu berthynas ddarllen drwy eich CV i wneud yn siŵr ei fod yn gywir ac yn dangos eich sgiliau mewn ffordd gadarnhaol.

Yma mae dwy enghraifft o CV fel canllaw ac mae templed i’r helpu i ysgrifennu eich CV eich hun.

Darparwyd gan Jobcentre Plus

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Wrth feddwl am beth yr ydych newydd ei ddarllen, pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth i chi?
Wrth feddwl am beth yr ydych newydd ei ddarllen, pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth i chi?
Terfyn o 500 nod

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU