This snapshot, taken on
22/09/2010
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Perthynas yn chwalu a'ch plant

Pan fydd ysgaru neu wahanu'n digwydd, mae'n gyfnod anodd i bawb sy'n gysylltiedig, ac mae'n hawdd i'r plant gael eu tynnu i mewn yn emosiynol i'r hyn sy'n digwydd. Fodd bynnag, mae sawl ffordd y gallwch helpu i wneud y broses mor ddi-boen â phosib i'ch plant.

Sut allwch chi helpu'ch plant?

  • bydd plant, yn enwedig plant ifanc, yn aml yn meddwl mai eu bai nhw yw'r ysgariad; gwrandewch yn ofalus ar eich plant a rhowch sicrwydd iddynt - drosodd a throsodd os oes angen - nad eu bai nhw yw'r ysgariad
  • dylai parau sy'n gwahanu neu'n ysgaru geisio osgoi gofyn i'r plentyn â phwy mae'n dymuno byw; gall hyn roi llawer o bwysau ar y plentyn, a gallai deimlo bod ei rieni'n gofyn iddo ddewis pa un y mae'n ei garu fwyaf
  • gall plant hŷn deimlo'n chwerw ac ymddwyn yn ymosodol hyd yn oed tuag at un o'r rhieni mewn achos o wahanu, yn enwedig os oes un rhiant 'ar fai' am y sefyllfa yn eu tyb nhw; ceisiwch ddeall hyn ond peidiwch â gadael iddo gael effaith negyddol ar y berthynas rhwng yr oedolion, neu anogwch y plant i beidio 'ochri' â neb
  • bydd sefydlogrwydd (trefn, ysgolion, amserau clybiau ayb) yn bwysig tra byddwch chi a'ch teulu'n mynd drwy'r newidiadau; byddwch yn arbennig o sensitif os cysylltir gweithgaredd penodol ag un o'r rhieni - anogwch eich plant i gario mlaen i wneud y pethau yr hoffant eu gwneud, ond peidiwch â'u gorfodi
  • hyd yn oed os byddwch yn teimlo'n ddig tuag at eich partner, rhaid i chi beidio gadael i'r sefyllfa ddatblygu i fod yn drais corfforol neu eiriol; gall plant ddioddef ystod eang o niwed seicolegol a chorfforol os gwelant ymladd neu ymddygiad o'r fath, a gallai hyn effeithio arnynt am byth
  • ceisiwch ddatrys gwrthdrawiadau gyda'ch partner yn fuan; ceir elusennau a mudiadau eraill sy'n gallu darparu gwasanaethau cwnsela a chyfryngu er mwyn eich cynorthwyo os na allwch ddatrys y gwrthdrawiadau eich hunain - yr hiraf y byddwch yn gadael problem heb ei datrys, y gwaethaf y gall pethau fod i'ch plant, yn enwedig os yw'r gwrthdaro'n ymwneud â nhw
  • peidiwch â defnyddio'ch plant i negodi neu anfon negeseuon ar eich rhan a pheidiwch â gofyn iddynt gadw cyfrinachau neu roi gwybodaeth i chi am eich partner - nid yw hynny'n deg arnynt a gallai wneud iddynt deimlo'n anhapus
  • gadewch i'ch plant ddangos emosiwn a bod yn ddigalon; dywedwch wrthynt ei bod yn iawn iddynt grio a pheidiwch â gwneud iddynt deimlo'n euog am ddangos eu hoffter o'r rhiant arall neu'u pryder amdanynt
Mae gwefan 'It's not your fault' wedi ei hysgrifennu ar gyfer plant er mwyn eu cynorthwyo i ddeall mwy am ysgaru/gwahanu ac am eu teimladau.

Rhoi gwybod i'r plant

Mae'r rhan fwyaf o arbenigwyr ym maes gofal plant yn cytuno ei bod yn bwysig i chi roi gwybod i'ch plant beth sy'n digwydd ym mhob cyfnod wrth wahanu neu ysgaru. Ni fyddwch yn amddiffyn eich plant drwy gadw pethau oddi wrthynt.

Dywedwch wrth eich plant beth sy'n digwydd i'w teulu, mae'n well iddynt wybod. Nid oes rhaid i chi roi pob manylyn iddynt, ond bydd angen digon o wybodaeth arnynt i wybod beth sy'n digwydd, yn dibynnu ar eu hoedran. Efallai na fyddant yn dymuno cymryd rhan wrth wneud penderfyniadau, ond er hyn, bydd y mwyafrif o blant eisiau teimlo'u bod yn cael eu clywed. Anogwch hwy i ofyn cwestiynau a cheisiwch roi atebion gonest a chalonogol iddynt, ond peidiwch ag addo pethau na allwch gadw atynt. Os nad oes penderfyniad wedi ei wneud ynghylch rhywbeth, dywedwch hynny, a chysurwch hwy y byddwch yn dweud wrthynt cyn gynted ag y gallwch.

Beth fydd yn digwydd i'ch plant?

Os nad oes cwestiwn ynghylch diogelwch y plentyn ac os gallwch gytuno ar gefnogaeth ariannol, eiddo a threfniadau (megis lle fydd y plentyn/plant yn byw) cewch lenwi ffurflen ac ni fydd angen i chi fynd i lys er mwyn cael gwrandawiad. Y ffurflen y bydd ei hangen arnoch yw 'Datganiad Trefniadau ar gyfer Plant', a elwir hefyd yn Ffurflen D8A. Bydd yr holl ffurflenni ysgaru ar gael mewn llys sirol sy'n delio ag ysgariadau yn eich ardal chi, a'r Brif Gofrestrfa yn Llundain. Neu gallwch lwytho'r ffurflenni o ddolen Gwasanaeth Llysoedd EM isod.

Os na allwch gytuno â'r telerau gallai barnwr ymyrryd neu gellid eich cyfeirio at gyfryngwyr. Mewn achosion o'r fath efallai y bydd y barnwr yn dymuno siarad â'ch plant mewn gwrandawiad llys.

Ni fydd y barnwr yn dod â mater eich ysgariad i ben os nad yw'n teimlo bod y trefniadau ar gyfer eich plentyn/plant yn dderbyniol. Byddai'n llawer gwell pe baech yn dod i drefniant ymysg eich gilydd.

Cyrraedd cytundeb

Fel arfer, mae'n well cyrraedd cytundeb am faterion megis gofal eich plant oddi allan i'r llys. Mae'n bosib na fyddwch chi'n gallu cytuno'n llwyr, ond fe all hyn fod yn help i wneud pethau'n haws eu datrys, hyd yn oed os byddwch chi'n mynd i'r llys. Gellir defnyddio cyfryngu pan fyddwch wedi penderfynu bwrw ymlaen i ysgaru, diddymu'ch partneriaeth sifil neu wahanu, a'r nod yw eich helpu i ganfod atebion rhyngoch mewn ffordd sy'n lleihau gwrthdaro. Fe allwch ofyn i gyfryngwr teulu hyfforddedig fod yn drydydd parti di-duedd; byddan nhw'n helpu cyplau i gytuno heb ochri efo neb.

Gallwch ddod o hyd i wasanaethau cyfryngu yn eich ardal chi drwy ffonio'r Llinell Gyfryngu i Deuluoedd ar 0845 60 26 627, neu drwy ymweld â gwefan y Llinell Gyfryngu i Deuluoedd.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Wrth feddwl am beth yr ydych newydd ei ddarllen, pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth i chi?
Wrth feddwl am beth yr ydych newydd ei ddarllen, pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth i chi?
Terfyn o 500 nod

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU