Gallwch dalu'ch Dirwy Llys gan y GLlEM ar-lein os defnyddiwch gerdyn credyd neu gerdyn debyd. Gwnewch yn siŵr bod gennych eich Hysbysiad Dirwy wrth law a dilynwch y ddolen isod er mwyn talu'n awr gan ddefnyddio'ch cerdyn. Ceir rhagor o wybodaeth isod am sut i dalu dros y ffôn.
Gallwch hefyd dalu costau, iawndal a gorchmynion cynhaliaeth.
Ni chewch dalu dirwyon cosbau penodedig, na dirwyon parcio, gan ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.
Gallwch dalu'ch dirwy drwy ffonio 0300 790 9980 (yng Nghymru) neu 0300 790 9901 (yn Lloegr). Bydd arnoch angen cael y wybodaeth ganlynol wrth law -
a
Gallwch ddod o hyd i'r ddau ar gornel uchaf ochr dde eich llythyr Hysbysiad Dirwy. Os nad ydych wedi cael eich llythyr Hysbysiad Dirwy eto, fyddwch chi ddim yn gallu defnyddio'r dull hwn o dalu.
Ni chewch dalu dirwyon cosbau penodedig na dirwyon parcio gan ddefnyddio'r gwasanaeth ffôn hwn.
Rhaid i daliadau ddod i law ar y dyddiad a orchymynnwyd neu cyn hynny. Does dim rhaid i chi aros am eich Hysbysiad Dirwy cyn talu neu wneud trefniadau i dalu. Os byddwch yn talu ar ôl y dyddiad pan mae’n ddyledus, a bod camau gorfodi wedi’u rhoi ar waith, mae’n bosibl y bydd y llys yn gwrthod eich taliad.
I weld ffeiliau PDF, mae angen Adobe Reader arnoch. Mae'r rhaglen ar gael am ddim os nad yw gennych chi eisoes.