Cynllun Iaith yr Asiantaeth
Mae’r Asiantaeth wedi ymrwymo i ddarparu ei gwasanaethau yn ddwyieithog. Cliciwch yma i wybod mwy…
Cymru
Cafodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ei lansio yng Nghymru, fel gweddill gwledydd y Deyrnas Unedig, ar 3 Ebrill 2000. Rydym yn ymrwymo i wella diogelwch a safonau bwyd yng Nghymru ac i warchod iechyd y boblogaeth yng Nghymru mewn perthynas â bwyd.
O dan arweinyddiaeth ein Cyfarwyddwr, Steave Wearne, mae gan staff ASB Cymru ystod eang o arbenigedd polisi a phroffesiynol.
Ein gobaith ni yw bod pobl yng Nghymru yn troi atom ni er mwyn cael cyngor a gwybodaeth dibynadwy am fwyd. Mae ein dylanwad yn ymestyn 'o'r fferm i'r fforc' - mewn geiriau eraill, o'r adeg y mae'r bwyd yn cael ei dyfu neu ei weithgynhyrchu nes iddo gyrraedd eich plât. Rydym yn eich rhoi chi, ddefnyddwyr Cymru, yn gyntaf.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar ASB Cymru - Y Cefndir isod.
Newyddion Cymru
Newidiadau i'r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru
Wednesday 15 September 2010
Y diweddaraf am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Monday 23 August 2010
