Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Cymru
Mae'r Cod Ymarfer yn amlinellu'r rheolau a'r meini prawf sydd angen i awdurdodau iechyd lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd gydymffurfio â nhw wrth orfodi'r gyfraith. Mae'n rhaid i awdurdodau bwyd ddilyn a gweithredu'r darpariaethau hynny o fewn y cod sy'n gymwys iddynt hwy.
Mae'r Canllawiau Ymarfer yn darparu cyngor i swyddogion gorfodi ar sut orau i gymhwyso darpariaethau'r cod.
Mae Codau Ymarfer (cyfochrog) ar wahân ar gyfer pob un o bedair gwlad y DU: Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd i Gymru wedi’i ddiwygio er mwyn adlewyrchu egwyddorion gwell rheoleiddio ac er mwyn lleihau’r baich gweinyddol ar fusnesau ac awdurdodau lleol, ac ar yr un pryd, cynnal safonau iechyd y cyhoedd a diogelu defnyddwyr. Gellir gweld crynodeb o’r prif newidiadau yn y llythyr a anfonwyd at awdurdodau bwyd yng Nghymru ar 26 Medi 2008.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y Cod Ymarfer a/neu’r Canllaw Ymarfer, cysylltwch ag:
Andrew Morris
Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
Gorfodi Cyffredinol
Llawr 11
Tŷ Southgate
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW
ffôn: 029 2067 8960
ffacs: 029 2067 8918
e-bost: andrew.morris@foodstandards.gsi.gov.uk
Lawrlwytho
Mae'r Cod Ymarfer a'r Canllawiau ar gael i'w lawrlwytho isod, yn ogystal â dolen at ddogfennau perthnasol eraill.
Find out more
Cod Ymarfer Cymru: Dogfennau Perthnasol
Mae'r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd a'r Canllawiau Ymarfer cysylltiedig yn cyfeirio at nifer o ddogfennau a darnau o ddeddfwriaeth. Isod ceir dolenni at y dogfennau hyn ac i'r ddeddfwriaeth berthnasol (Saesneg yn unig).
