Gorfodi
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cydweithio'n agos â swyddogion gorfodi cyfraith bwyd mewn awdurdodau lleol i sicrhau y cydymffurfir â chyfraith bwyd o'r fferm i'r fforc.
Mae'n cynnig cyngor ar amrywiaeth o faterion gorfodi, gan amlinellu hawliau a chyfrifoldebau awdurdodau gorfodi a busnesau bwyd. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod diogelwch bwyd a gofynion cyfreithiol yn cael eu cynnal a'u monitro
Mae rhagor o fanylion am waith Gorfodi'r Asiantaeth i'w gael isod.
Find out more
Adnoddau Hylendid
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd am i bob busnes bwyd gael safonau hylendid da. Rydym yn darparu amrywiaeth o adnoddau, gan gynnwys Bwyd mwy diogel, busnes gwell, i helpu busnesau bwyd – gan gynnwys y rhai sy'n dechrau o'r newydd – i gydymffurfio â deddfwriaeth hylendid bwyd. Mae detholiad o'r adnoddau hyn ar gael isod.
Adroddiadau Archwilio Awdurdodau Lleol
Archwiliad o reolaethau swyddogol awdurdodau lleol a rheolaethau gweithredwyr busnesau bwyd mewn sefydliadau cymeradwy yng Nghymru.
Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Cymru
Mae'r Cod Ymarfer yn amlinellu'r rheolau a'r meini prawf sydd angen i awdurdodau iechyd lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd gydymffurfio â nhw wrth orfodi'r gyfraith. Mae'n rhaid i awdurdodau bwyd ddilyn a gweithredu'r darpariaethau hynny o fewn y cod sy'n gymwys iddynt hwy.
Cynllun 'Scores on the Doors'
Mae’n bwysig iawn bod pob busnes bwyd yn cydymffurfio â’r gyfraith ac yn cyflenwi bwyd sydd yn ddiogel i’w fwyta. Mae defnyddwyr mewn rhai ardaloedd eisoes yn gallu gweld pa mor dda y mae busnes bwyd yn cydymffurfio â rheoliadau hylendid bwyd, a hynny drwy gyfrwng cynlluniau ‘Scores on the Doors’ sy’n cael eu cynnal gan eu hawdurdod lleol.
Llythyrau at awdurdodau lleol
Er mwyn helpu awdurdodau lleol i gael gafael ar yr wybodaeth a’r canllawiau diweddaraf a gyhoeddir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, rydym wedi sefydlu system gyfeirio ganolog.
