Gan amlaf, mae cyfraith sifil yn ymwneud ag anghydfodau rhwng pobl, cwmnïau neu fudiadau eraill. Os byddwch yn siwio corfforaeth neu unigolyn arall, neu os bydd rhywun yn ffeilio achos cyfreithiol yn eich erbyn, bydd eich achos yn cyrraedd llys sifil.
Fel arfer, y llysoedd sirol a’r Uchel Lys fydd yn delio â chyfiawnder sifil yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r Uchel Lys yn delio ag achosion mwy o faint ac achosion sy’n fwy cymhleth, tra bo’r rhan fwyaf o achosion y llysoedd sirol rhwng pobl neu gwmnïau sy’n credu bod arian yn ddyledus iddynt gan rywun.
Mae llysoedd sirol hefyd yn delio ag achosion sy’n cynnwys materion teuluol, megis ysgariad, gwarchodaeth dros blant a mabwysiadu.
Nid yw’r rhan fwyaf o anghydfodau sifil byth yn cyrraedd y llys, ac nid yw'r rhan fwyaf o'r rhai sydd yn cyrraedd y llys byth yn arwain at dreial. Mae hyn oherwydd bod nifer o achosion yn cael eu datrys y tu allan i’r llys, wrth i bawb sy’n rhan ohonynt gyfaddawdu.
Mynd i’r llys ddylai fod y dewis olaf un bob tro. Nawr, ceir nifer o ffyrdd eraill o ddatrys problemau heb orfod cael achos llys. Mae’r rhain yn cynnwys y cynllun cyflafareddu (arbitration), y cynllun cyfryngu (mediation) a chynllun yr ombwdsmyn.
Gelwir y rhain yn aml yn ‘ddulliau amgen o ddatrys anghydfod’.
Mae rheolau’r llys yn gofyn eich bod yn ystyried a fyddai dull amgen o ddatrys anghydfod yn ffordd well o ddelio ag anghydfod na mynd i’r llys.
Y Llysoedd Siryf sy’n delio â’r rhan fwyaf o achosion sifil yn yr Alban. Gall yr achosion hyn gynnwys dyledion, hawliadau am iawndal, ysgariad, troi allan ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Llys y Sesiwn yw'r uchaf lys sifil yn yr Alban, a hwn yw'r llys apêl ar gyfer y rhan fwyaf o faterion sifil.
Bydd tribiwnlysoedd yn yr Alban yn ymdrin ag ystod o faterion, gan gynnwys cyflogaeth, mewnfudo, nawdd cymdeithasol a threth.
Gwasanaeth Llysoedd Gogledd Iwerddon sy'n gyfrifol am y Goruchel Lys, llysoedd sirol, llysoedd ynadon, llysoedd crwneriaid a rhai tribiwnlysoedd yng Ngogledd Iwerddon.
Mae’r llysoedd sirol a’r llysoedd ynadon yn wahanol i’r rheini sydd yng Nghymru a Lloegr, gan eu bod hefyd yn delio ag apeliadau o'r llysoedd ynadon mewn achosion troseddol ac achosion sifil.
Cewch wybod mwy am lysoedd Gogledd Iwerddon drwy ddilyn y ddolen isod.