Ceir tair system farnwrol yn y Deyrnas Unedig – un ar gyfer Cymru a Lloegr, un arall ar gyfer yr Alban, ac un arall ar gyfer Gogledd Iwerddon. Dyma wybodaeth sylfaenol am bob system a sut mae’n effeithio arnoch chi.
Cyfraith droseddol
Mae cyfraith droseddol yn ymdrin â’r troseddau mwyaf difrifol, megis llofruddiaeth, lladrad ac ymosodiad. Mae’r cyfreithiau hyn yn cael eu gorfodi gan y llysoedd, a gellir mynd i’r llys i erlyn unrhyw un sy’n eu torri. Os cânt eu dyfarnu’n euog, mae’n bosib y cânt ddirwy, dedfrydau cymunedol, neu eu hanfon i’r carchar.
Mewn cyfraith droseddol, mae pawb yn ddieuog nes profir eu bod yn euog. Cyn y gellir cael rhywun yn euog o dorri’r gyfraith, rhaid i’r dystiolaeth ddangos bod eu heuogrwydd ‘y tu hwnt i amheuaeth resymol’.
Cyfraith sifil
Gan amlaf, mae cyfraith sifil yn ymwneud ag anghydfodau ymhlith pobl, cwmnïau neu sefydliadau eraill. Mewn cyfraith sifil, mae’n rhaid i achosion gael eu profi ‘yn ôl yr hyn sy’n debygol’, fel y’i gelwir gan y gyfraith.
Mewn geiriau eraill, mae’n rhaid i’r tebygolrwydd bod diffynnydd yn gyfrifol fod yn uwch na 50 y cant.
Penderfyniadau a wneir yn y llys
Mewn achosion troseddol a sifil, bydd yr erlyniad a’r amddiffyniad yn ceisio profi i’r llys mai nhw sy'n iawn a bod yr ochr arall yn anghywir.
Mewn achosion troseddol, bydd rheithgor yn penderfynu a ydynt yn euog, a bydd y barnwr yn pennu eu dedfryd.
Mewn achosion sifil a theulu, y barnwr fydd yn penderfynu pwy sy’n iawn ar sail yr wybodaeth a gyflwynir.
Mae system gyfreithiol Gogledd Iwerddon yn debyg i system Cymru a Lloegr. Yr Arglwydd Ganghellor sy'n gyfrifol am weinyddiaeth y llysoedd drwy Wasanaeth Llys Gogledd Iwerddon. Swyddfa Gogledd Iwerddon sy’n ymdrin â pholisïau a deddfwriaeth sy’n ymwneud â chyfraith droseddol, yr heddlu a’r system carchardai.
Dilynwch y dolenni isod i gael mwy o wybodaeth am system farnwrol Gogledd Iwerddon.
Adran Cyfiawnder Gweithrediaeth yr Alban sy’n goruchwylio materion yn ymwneud â chyfraith droseddol a sifil.
Bydd Senedd yr Alban yn gwneud deddfau ar faterion lle mae ganddi hawl i weithredu’n annibynnol. O ran y materion hynny, gall newid neu wrthod deddfau Senedd y DU, a phasio deddfwriaeth newydd ar wahân ar gyfer yr Alban.
Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhan o gyfraith y DU erbyn hyn. Mae’n diogelu eich hawl i dreial teg, i ryddid meddwl a mynegiant ac i barch at eich bywyd preifat a’ch bywyd teuluol.
Rhaid i bob awdurdod cyhoeddus, gan gynnwys y llysoedd, gydymffurfio â'r hawliau hyn. Fodd bynnag, os ydynt yn gwrthdaro â deddf Seneddol, gall y llysoedd wneud datganiad anghymarusrwydd a rhaid i'r Senedd wedyn benderfynu beth i'w wneud.