Diben Pecyn y Cyflogwr yw eich cynorthwyo i baratoi a chyflwyno eich Datganiad Blynyddol y Cyflogwr (P35 a P14au) a dechrau'r flwyddyn dreth newydd ar 6 Ebrill.
Defnyddiwch y P9X i sicrhau bod eich codau treth yn gywir ac, os ydych chi yn defnyddio'r Tablau Treth, er mwyn cael gwybod pa fersiynau y dylech eu defnyddio. Mae'r cyfraddau a'r terfynau newydd yn y llyfr cymorth E12 Cyfraddau a therfynau TWE a CYG. Er mwyn gosod archeb, defnyddiwch ffurflen archebu E3.
Mae'r ffurflenni a'r llyfrynnau cymorth hyn i gyd ar ffurf PDF.
Maent wedi'u dylunio ar gyfer eu hargraffu a, lle mae'n berthnasol, eu llenwi.