Budd-dal a delir i bobl sy'n rhoi gofal anffurfiol i bobl ag anabledd difrifol yw'r Lwfans Gofalwr. Does dim rhaid i chi fod yn perthyn i'r person y byddwch yn gofalu amdano, na byw gydag ef neu hi.
Popeth sydd angen i chi wybod ynghylch Lwfans Gofalwr
Cewch hawlio Lwfans Gofalwr os ydych chi'n 16 oed neu drosodd a'ch bod yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am berson sy’n naill ai’n derbyn:
Chewch chi ddim hawlio'r Lwfans Gofalwr os ydych chi mewn addysg amser llawn sy'n golygu 21 awr yr wythnos neu fwy o astudio dan oruchwyliaeth neu os ydych chi'n ennill mwy nag £95 yr wythnos ar ôl gwneud didyniadau penodol – er enghraifft Treth Incwm.
Y gyfradd wythnosol yw £53.10. Tynnir gwerth rhai o'ch budd-daliadau eraill, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth, o'r swm hwn. Os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol eraill sy'n £53.10 neu fwy yr wythnos, ni chewch dderbyn Lwfans Gofalwr hefyd.
Mae’n bosib bydd angen i chi dalu treth ar y swm yr ydych yn derbyn.
Mae'n bosibl y gallwch chi gael swm ychwanegol ar gyfer eich g ŵ r, eich gwraig, eich partner sifil neu rywun arall sy'n byw gyda chi sy'n gofalu am unrhyw blant sy'n ddibynnol arnoch.
Fel arfer mae'r Lwfans Gofalwr yn cael ei dalu'n uniongyrchol i unrhyw gyfrif o'ch dewis chi sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol ar gyfer budd-daliadau. Gall hwn fod yn gyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu ddarparwr cyfrif arall.
Efallai y gallwch drefnu i rywun arall gasglu'r Lwfans Gofalwr ar eich rhan. I gael cymorth ar gyfer hyn, cysylltwch â'ch banc, eich cymdeithas adeiladu neu'r darparwr cyfrif arall.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gael eich talu drwy ffyrdd eraill, cysylltwch â'r Uned Lwfans Gofalwr.
Gall hawlio Lwfans Gofalwr effeithio ar unrhyw fudd-daliadau, lwfansau, pensiynau a hawliadau eraill rydych chi, neu’r person yr ydych yn gofalu amdano/i, yn eu derbyn.
Fe allwch chi ofyn am ffurflen hawlio dros y ffôn, drwy gysylltu â’ch swyddfa budd-daliadau leol neu fe allwch chi lwytho'r ffurflen oddi ar y wefan hon. Neu fe gewch wneud cais ar-lein.
Os bydd eich amgylchiadau'n newid - neu amgylchiadau'r sawl rydych chi'n gofalu amdano/i - fe all hynny effeithio ar eich hawl i gael y Lwfans Gofalwr neu effeithio ar y swm a gewch chi. Er enghraifft, os bydd eich incwm neu'ch amgylchiadau gwaith yn newid, os byddwch chi'n mynd i fyd addysg amser llawn neu'n cymryd hoe o'ch gwaith gofalu.
Mae’r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr yn rhan o’r Adran Gwaith a Phensiynau ac mae’n darparu cymorth ariannol i bobl anabl a gofalwyr. Mae’n delio gyda hawliadau am Lwfans Gofalwr yn ogystal ag amryw fudd-daliadau anabledd.
Os ydych chi’n anhapus â’r gwasanaeth a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Anabledd a Phensiynau, gallwch wneud cwyn.
Gellir llwytho ffilm fer am Lwfans Gofalwyr - sy'n cael ei chyflwyno yn Iaith Arwyddion Prydain, ac sy'n cynnwys sylwebaeth ac is-deitlau - oddi ar wefan Directgov. Gallwch hefyd wylio ffilmiau am Lwfans Byw i'r Anabl a Lwfans Gweini.
Mae'r wybodaeth ar gael ar DVD hefyd, a gallwch ofyn am gael copi trwy'r post.