This snapshot, taken on
08/04/2010
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ceisiadau brys am basbort

Os bydd angen eich pasbort arnoch o fewn pythefnos, mae hyn yn cyfrif fel cais brys a bydd angen i chi ymweld â Swyddfa Basbort Ranbarthol. Mae'n rhaid i chi wneud apwyntiad bob tro. Dewch o hyd i'r gwasanaeth gorau i ddiwallu'ch anghenion a beth i'w wneud os na allwch gyrraedd swyddfa.

Y pethau sylfaenol

Dylech ganiatáu chwe wythnos i'ch pasbort oedolyn cyntaf gyrraedd

Bydd angen i chi fynd i gyfweliad am basbort, felly ni fydd y gwasanaeth Trac Cyflym a'r gwasanaeth Premiwm yn berthnasol. Mae'r amseroedd yn yr adran hon ar gyfer ceisiadau eraill.

Os nad ydych angen teithio o fewn pythefnos, nid oes angen i chi ymweld â Swyddfa Basbort Ranbarthol i wneud cais brys. Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn argymell i chi ddefnyddio gwasanaeth Gwirio ac Anfon Swyddfa'r Post neu ddefnyddio'r gwasanaeth safonol a gwneud cais drwy'r post.

Mae'r adran 'Amserlen ar gyfer ceisiadau am basbortau' yn egluro'r gwahanol wasanaethau a'r amserlenni yn fanwl. Gallwch ddysgu mwy am wasanaeth Gwirio ac Anfon Swyddfa'r Post a dod o hyd i'ch Swyddfa'r Post Gwirio ac Anfon agosaf drwy ddilyn y ddolen isod.

Gwneud cais brys - teithio mewn llai na phythefnos

I gael eich pasbort o fewn pythefnos, bydd angen i chi wneud cais personol yn un o Swyddfeydd Pasbort Rhanbarthol y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Gallwch ddefnyddio’r canlynol:

  • y gwasanaeth wythnos Trac Cyflym
  • y gwasanaeth undydd Premiwm

Mae'n rhaid i chi wneud apwyntiad i ddechrau er mwyn defnyddio unrhyw un o'r gwasanaethau hyn. Gallwch wneud hyn drwy ffonio Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn argymell i chi beidio â threfnu i fynd i deithio cyn i chi gael eich pasbort.

Trefnu apwyntiadau ar gyfer ymweliad personol

Fel arfer mae'r galw am apwyntiadau yn holl ranbarthau'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn uchel iawn. Felly dylech ganiatáu hyd at bythefnos ar gyfer dyddiad eich apwyntiad. Ni chewch drefnu apwyntiadau fwy na phythefnos ymlaen llaw.

Os byddwch yn trefnu apwyntiad, peidiwch â chyrraedd fwy na 10 munud cyn eich apwyntiad er mwyn i chi osgoi ciwio diangen.

Gwasanaeth wythnos Trac Cyflym

Mae'r gwasanaeth hwn yn sicrhau y caiff eich pasbort ei ddosbarthu gyda'r gwasanaeth Cludiant Diogel (Secure Delivery) o fewn wythnos (ac eithrio gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus) ers i chi wneud cais.

Mae'n rhaid i chi wneud y canlynol er mwyn sicrhau y bydd y pasbort yn eich cyrraedd:

  • darparu eich ffurflen wedi'i llenwi a'r holl ddogfennau ategol i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar gyfer yr apwyntiad a drefnwyd
  • bod gartref i lofnodi er mwyn profi eich bod wedi cael eich pasbort os bydd angen

Nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael ar gyfer pasbort oedolyn cyntaf.

Gwasanaeth undydd Premiwm

Mae'r gwasanaeth Premiwm yn wasanaeth gwarantedig lle rydych yn dosbarthu eich cais ac yn casglu eich pasbort ar yr un diwrnod. Mae ar gael yn ystod yr wythnos ar gyfer apwyntiadau cyn:

  • 4.00 pm yn Llundain
  • 1.30 pm yn Lerpwl
  • 1.00 pm yn Peterborough
  • 12.30 pm yn Glasgow a Chasnewydd
  • 12.00 yn Belffast a Durham

A chyn 11.00 am ar gyfer apwyntiadau ar ddydd Sadwrn.

Bydd amser aros o bedair awr rhwng amser derbyn eich cais a'r amser y bydd yr ariannwr yn rhoi derbynneb i chi.

Nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael ar gyfer:

  • pasbort oedolyn cyntaf neu basbort plentyn cyntaf
  • gwneud nifer o newidiadau neu newidiadau cymhleth i'ch pasbort presennol (fel arfer gall newid eich enw gael ei wneud drwy ddefnyddio’r gwasanaeth Premiwm – os ydych chi’n ansicr dylech ffonio’r Llinell Gymorth Pasbortau ar 0300 222 0000 ac esbonio’r newidiadau sydd eu hangen arnoch)
  • ymestyn pasbort cyfyngedig
  • cael pasbort newydd yn lle un sydd ar goll, wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi

Os na allwch fod yn bresennol yn eich apwyntiad neu gasglu eich pasbort

Os na allwch fod yn bresennol yn eich apwyntiad neu gasglu eich pasbort eich hun, gallwch ofyn i rywun arall wneud hyn ar eich rhan. Fodd bynnag, ni all y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau roi pasbort i chi os nad ydych yn y DU ar y pryd.

Os na allwch fod yn bresennol yn yr apwyntiad eich hun, caiff rhywun arall gyflwyno'r ffurflen gais wedi'i llenwi a'r dogfennau ategol ar eich rhan. Rhaid iddynt hefyd ddod â:

  • phrawf o bwy ydynt, megis eu pasbort neu drwydded yrru (os nad oes ganddynt un o'r rhain, dylech ffonio'r Llinell Gymorth Pasbortau i gael cyngor ar 0300 222 000)
  • llythyr wedi'i lofnodi gennych yn rhoi'r hawl iddynt gyflwyno'r cais ar eich rhan

Fodd bynnag, os bydd y ffurflen gais wedi'i llenwi'n anghywir neu os na fydd y dogfennau ategol cywir ganddynt, ni all y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau brosesu'r cais. Gall hyn olygu y bydd yn rhaid i chi drefnu apwyntiad arall.

Os ydych am i rywun arall gasglu eich pasbort ar eich rhan, mae'n rhaid iddynt ddod â:

  • phrawf o bwy ydynt, fel uchod
  • llythyr wedi'i lofnodi gennych yn rhoi'r hawl iddynt gasglu eich pasbort

Os yw'r cais ar gyfer plentyn, mae'n rhaid i bwy bynnag sydd wedi llofnodi adran 9 y ffurflen lofnodi'r llythyr hefyd.

Amodau'r gwasanaeth Trac Cyflym a'r gwasanaeth Premiwm

Dim ond os bodlonir y canlynol y gellir sicrhau y bydd y gwasanaeth hwn yn cyrraedd yn brydlon:

  • bod eich cais yn syml
  • eich bod wedi llenwi'r ffurflen gais yn gywir ac wedi darparu'r holl ddogfennau ategol angenrheidiol

Os byddwch yn darparu gwybodaeth anghyflawn neu os na all y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau gadarnhau eich bod yn gymwys o'r dogfennau rydych yn eu darparu, mae'n bosib y caiff eich pasbort ei ohirio.

Ad-daliad o ffi'r gwasanaeth Trac Cyflym neu'r gwasanaeth Premiwm

Cewch hawlio ad-daliad o'r ffioedd hyn oni fydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn cyrraedd ei warant gwasanaeth. Mae'n bosib y gallwch hefyd hawlio ad-daliad ar sail tosturi, er enghraifft os oes yn rhaid i chi deithio ar frys gan fod perthynas i chi'n sâl iawn. I gael rhagor o fanylion a chyfarwyddiadau ar sut i hawlio ewch i 'Tabl o ffioedd pasbort, sut mae talu ac ad-daliadau'.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Wrth feddwl am beth yr ydych newydd ei ddarllen, pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth i chi?
Wrth feddwl am beth yr ydych newydd ei ddarllen, pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth i chi?
Terfyn o 500 nod

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Additional links

Llinell Gymorth Pasbortau

I gael cymorth cysylltwch â Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar:

- 0300 222 0000
- ffôn testun 0300 222 0222
- Typetalk 18001 0300 222 0000

Allweddumynediad llywodraeth y DU