This snapshot, taken on
08/04/2010
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ynglŷn â Directgov

Gwasanaeth digidol llywodraeth y DU ar gyfer pobl Cymru a Lloegr yw Directgov. Mae’n rhoi gwybodaeth a chyngor ymarferol am wasanaethau cyhoeddus, gan ddod â’r cyfan at ei gilydd mewn un lle. Gallwch weld Directgov ar y we, ar eich ffôn symudol neu ar eich teledu.

Methu gweld y fideo?

I chwarae’r fideo hwn, mae arnoch angen Adobe Flash Player fersiwn 9 neu uwch ar eich cyfrifiadur ac mae’n rhaid i chi fod wedi galluogi JavaScript ar eich porwr. Mae ein tudalen Help gyda ffeiliau fideo yn cynnig cyngor os nad ydych yn siŵr sut mae gwneud hyn. Mae’r meddalwedd Flash yn rhad ac am ddim.

Beth yw Directgov

Mae Directgov yn rhoi mynediad hwylus i chi at wybodaeth a gwasanaethau'r llywodraeth. Mae’n defnyddio iaith a chyflwyniadau syml drwy gyfrwng y we, y teledu a ffonau symudol. Mae’r cynnwys i gyd wedi cael ei ysgrifennu mewn Saesneg clir, a gallwch ddarllen y rhan fwyaf ohono yn Gymraeg. Mae Directgov yn gweithio’n agos gydag adrannau’r llywodraeth er mwyn dod â gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd at ei gilydd mewn un lle.

Gall Directgov fod o gymorth i chi gyda sawl peth, er enghraifft:

  • trefnu eich prawf gyrru
  • dod o hyd i swydd
  • talu eich treth ffordd
  • dod o hyd i wasanaethau lleol megis clinigau'r GIG, twrneiod a meithrinfeydd

Mae’r llywodraeth yn defnyddio Directgov i roi gwybodaeth i’r cyhoedd mewn cyfnodau o argyfwng, er enghraifft adeg achosion y ffliw moch.

Sut i ddefnyddio Directgov

Gallwch ddod o hyd i wasanaethau a gwybodaeth benodol drwy ddefnyddio'r peiriant chwilio, neu gallwch bori yn ôl pynciau, er enghraifft:

  • moduro
  • arian
  • cyflogaeth
  • addysg

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth sy’n berthnasol i chi drwy edrych ar yr adrannau ar gyfer cynulleidfaoedd penodol, er enghraifft:

  • pobl anabl
  • pobl ifanc
  • rhieni

Ei wneud ar-lein – gwasanaethau’r llywodraeth

Gallwch gyflawni amryw o wasanaethau’r llywodraeth ar-lein, megis:

  • gwneud cais am basbort neu adnewyddu eich pasbort
  • gwneud cais am drwydded yrru dros dro
  • gwneud cais am lwfans ceisio gwaith
  • cael cyngor ar eich budd-daliadau
  • defnyddio’r gyfrifiannell benthyciadau myfyrwyr
  • trethu eich car

Bydd mwy o declynnau a gwasanaethau ar gael yn 2010.

Swyddi Directgov

Mae Directgov yn tyfu ac mae swyddi cyffrous ar gael mewn gwahanol feysydd, er enghraifft cyfathrebu, TG a chefnogi busnes. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio i Directgov, chwiliwch am swyddi gwag drwy ddilyn y ddolen isod.

Dolenni i Directgov

Mae Directgov yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i gael dolen at dudalennau gwybodaeth Directgov. Nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd i greu dolen i Directgov, ond gallwn ni ddarparu'r geiriau a'r graffigau ar eu cyfer.

Defnyddio cynnwys Directgov

Caiff yr holl wybodaeth ar wefan Directgov ei gwarchod gan Hawlfraint y Goron. Golyga hyn y cewch ei defnyddio am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, cyhyd â’ch bod yn gwneud y canlynol:

  • ei hailgynhyrchu yn gywir
  • peidio â’i defnyddio mewn ffordd sy’n gamarweiniol

Faint o bobl sy'n defnyddio Directgov

Mae dros 20 miliwn o ymweliadau i wefan Directgov bob mis.

Mae Directgov yn monitro ymweliadau, ymwelwyr a cheisiadau am dudalennau i weld:

  • faint o bobl sy’n ymweld â’r wefan
  • beth yw’r tudalennau sy’n fwyaf poblogaidd
  • sut mae helpu pobl i ddod o hyd i’r wybodaeth maent yn chwilio amdani

Ymholiadau gan y wasg a'r cyfryngau

Gallwch gysylltu â thîm ymroddgar Directgov yng nghyswllt ymholiadau’n ymwneud â’r cyfryngau a'r wasg.

Directgov ar y teledu ac ar eich ffôn symudol

Gallwch weld gwybodaeth a gwasanaethau Directgov ar eich teledu ac ar eich ffôn symudol (os ydyw’n gallu cysylltu â’r rhyngrwyd).

Directgov ar eich ffôn symudol

Gallwch gael Directgov ar eich ffôn symudol os gallwch ei ddefnyddio i gysylltu â'r rhyngrwyd. Os ydych chi’n symud o le i le neu os nad oes cyfrifiadur wrth law, gallwch ddefnyddio eich ffôn symudol i wneud y canlynol:

  • cael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch teithio
  • dod o hyd i feddyg lleol
  • dod o hyd i swydd
  • cael gwybod am gymorth gyda chostau gofal plant

Mae dwy ffordd o fynd ar Directgov symudol:

  • teipiwch m.direct.gov.uk ar borwr rhyngrwyd eich ffôn
  • anfonwch y gair MOBILE mewn neges destun i 83377 – cewch neges destun yn ôl ac ynddi ddolen i weld Directgov symudol (codir tâl ar y gyfradd safonol)

Directgov ar eich teledu

Os ydych chi'n un o gwsmeriaid Sky, Virgin Media, Freeview neu Teletestun, gallwch gael gwybodaeth gyhoeddus ar eich teledu gyda gwasanaeth teledu rhyngweithiol Directgov, sydd wedi'i ddylunio'n arbennig.

Dyma enghreifftiau o'r gwasanaethau y gallwch eu cael ar eich teledu:

  • chwilio am swydd
  • cael cyngor gyrfa
  • defnyddio gwasanaeth chwilio yn ôl cod post i ddod o hyd i wasanaethau lleol fel twrneiod, cynghorau a swyddfeydd pasbort

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Wrth feddwl am beth yr ydych newydd ei ddarllen, pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth i chi?
Wrth feddwl am beth yr ydych newydd ei ddarllen, pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth i chi?
Terfyn o 500 nod

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU