This snapshot, taken on
15/03/2010
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cael rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth

Mae’r rhagolwg hwn yn rhoi gwybod i chi faint o Bensiwn y Wladwriaeth rydych chi’n debygol o’i gael pan fyddwch yn cyrraedd yr oedran y cewch Bensiwn gan y Wladwriaeth. Yma, cewch wybod sut y gallwch chi gael rhagolwg a pha wybodaeth y bydd arnoch ei hangen cyn i chi wneud cais. Gallwch chi hefyd gael cymorth os oes gennych chi gwestiynau ynghylch y rhagolwg rydych chi wedi’i gael.

Beth mae rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth yn ei gynnwys?

Mae rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth yn rhoi amcangyfrif o’r:

  • Pensiwn sylfaenol a gewch gan y Wladwriaeth
  • Pensiwn ychwanegol a gewch gan y Wladwriaeth (a elwir hefyd yn Ail Bensiwn y Wladwriaeth ac a elwid yn flaenorol yn Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion (SERPS))

Yn benodol, bydd eich rhagolwg yn rhoi:

  • nifer y blynyddoedd cymwys sydd gennych ar hyn o bryd (nifer y blynyddoedd rydych wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol neu wedi'ch credydu â nhw)
  • amcangyfrif o werth presennol y Pensiwn a gewch gan y Wladwriaeth, sydd wedi’i seilio ar yr wybodaeth sydd ar eich cofnod Yswiriant Gwladol
  • amcangyfrif o faint o Bensiwn y Wladwriaeth rydych chi’n debygol o’i gael pan fyddwch yn cyrraedd yr oedran y cewch Bensiwn gan y Wladwriaeth, sydd wedi’i seilio ar dybiaethau a wnaed am fwy o gyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych chi’n debygol o’u gwneud, neu gael eich credydu â nhw, rhwng amser cyhoeddi'r rhagolwg a phan fyddwch yn cyrraedd yr oedran y cewch Bensiwn gan y Wladwriaeth
  • rhagolwg o faint y gallech ei gael drwy ohirio gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth, os ydych chi wedi gofyn amdano
  • gwybodaeth am sut y gallech wella'r Pensiwn sylfaenol a gewch gan y Wladwriaeth
  • yr effaith ar y Pensiwn ychwanegol a gewch gan y Wladwriaeth os ydych wedi'ch contractio allan, naill ai drwy gynllun pensiwn cwmni neu bensiwn personol
  • gwybodaeth ynghylch a fedrwch chi gynyddu'r Pensiwn a gewch gan y Wladwriaeth drwy ddefnyddio cyfraniadau Yswiriant Gwladol eich diweddar briod neu bartner sifil (os yw hyn yn briodol)

Pwy all gael rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth?

I gael rhagolwg ar-lein, mae’n rhaid i’r canlynol i gyd fod yn berthnasol:

  • rydych chi’n byw yn y DU
  • rydych chi bedwar mis neu ragor i ffwrdd o’r oedran y cewch Bensiwn gan y Wladwriaeth
  • nid ydych chi’n weddw/nid yw eich partner sifil wedi marw

I gael rhagolwg drwy’r post neu dros y ffôn, mae’n rhaid i’r canlynol i gyd fod yn berthnasol:

  • rydych chi’n byw yn y DU
  • rydych chi 30 diwrnod neu ragor i ffwrdd o’r oedran y cewch Bensiwn gan y Wladwriaeth

Mae’n bosib na chewch ragolwg o Bensiwn y Wladwriaeth oherwydd naill ai:

  • rydych chi’n rhy agos at yr oedran y cewch Bensiwn gan y Wladwriaeth
  • rydych chi eisoes wedi cyrraedd yr oedran y cewch Bensiwn gan y Wladwriaeth

Gallwch chi dal gysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn i drafod beth y gallech ei gael, gan gynnwys effeithiau gohirio eich hawliad.

Gwybodaeth y bydd arnoch ei hangen er mwyn gwneud cais am ragolwg o Bensiwn y Wladwriaeth

Bydd arnoch angen yr wybodaeth ganlynol er mwyn gwneud cais am ragolwg:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol (a rhif eich priod neu eich partner sifil, os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil)
  • y cyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych yn eu talu (mae hyn yn dibynnu, er enghraifft, ar a ydych yn gyflogedig ynteu'n hunangyflogedig)
  • manylion unrhyw briodasau, partneriaethau sifil neu ddirymiadau
  • manylion unrhyw gyfnodau rydych wedi'u treulio'n gweithio dramor
  • manylion eich cyflog presennol os cewch eich talu gan gyflogwr (yn hytrach na'ch bod yn hunangyflogedig)

Os nad ydych chi’n sicr ynghylch eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol, cewch wybod mwy ynglŷn ag Yswiriant Gwladol ar y dudalen ganlynol:

Gwneud cais am ragolwg o Bensiwn y Wladwriaeth ar-lein

Os ydych chi eisoes wedi creu cyfrif gydag un o wasanaethau ar-lein y llywodraeth (fel unigolyn) yna gallwch gofrestru ar gyfer gwasanaeth rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth yn syth.

Gallwch ddefnyddio eich cyfrinair ac ID Defnyddiwr Porth y Llywodraeth, ond bydd angen i chi aros nes y cewch god ysgogi drwy'r post.

Os nad oes gennych chi gyfrif Porth y Llywodraeth, yna bydd un yn cael ei greu i chi pan fyddwch yn gwneud eich cais cyntaf am ragolwg o Bensiwn y Wladwriaeth ar-lein.

I sicrhau diogelwch, anfonir eich ‘ID Defnyddiwr’ drwy'r post gan Borth y Llywodraeth gyda chod ysgogi.

Bydd angen i chi ysgogi’r gwasanaeth o fewn 28 diwrnod o gael y cod. Dim ond unwaith y bydd angen i chi ddefnyddio’r cod ysgogi.

I wneud cais am ragolwg o Bensiwn y Wladwriaeth, neu i ymholi ynghylch rhagolwg, cysylltwch â Thîm Rhagolygon Pensiwn y Wladwriaeth. Mae’r tîm yn rhan o Ganolfan Pensiynau’r Dyfodol.

Gwneud cais am ragolwg o Bensiwn y Wladwriaeth dros y ffôn

Gallwch ofyn am ragolwg drwy ffonio tîm rhagolygon Pensiwn y Wladwriaeth. Bydd y tîm yn cwblhau'r ffurflen ar eich rhan ac yna’n anfon rhagolwg atoch yn y post mewn oddeutu 15 diwrnod gwaith.

Gwneud cais am ragolwg o Bensiwn y Wladwriaeth drwy’r post

Os yw'n well gennych, gallwch gwblhau a dychwelyd ffurflen gais (BR19). Mae dwy ffordd o wneud hyn:

  • llwytho ffurflen gais oddi ar y we, ei hargraffu, ei chwblhau â llaw a’i dychwelyd drwy’r post
  • llwytho ffurflen gais oddi ar y we, ei chwblhau ar eich cyfrifiadur, ei hargraffu a'i dychwelyd drwy’r post

Gall gymryd oddeutu 15 diwrnod gwaith i baratoi eich rhagolwg o'r adeg pan gyrhaeddir eich cais.

Deall eich rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth

Os ydych chi wedi cael eich rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth a bod arnoch angen cymorth i ddeall beth mae’n ei olygu, darllenwch y dudalen ganlynol:

Yswiriant Gwladol a'ch rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth

Os ydych chi wedi cael eich rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth a bod arnoch angen cymorth i ddeall yr effaith y mae Yswiriant Gwladol yn ei gael ar eich rhagolwg, yna darllenwch y canlynol:

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU