This snapshot, taken on
15/03/2010
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Budd-dal Treth Cyngor

Os oes angen cymorth ariannol arnoch i'ch helpu i dalu bil y dreth gyngor, efallai y cewch Fudd-dal Treth Cyngor. Mae hefyd yn bosib y bydd modd i chi gael Ad-daliad Ail Oedolyn os ydych yn rhannu'ch cartref gydag oedolyn arall (nid eich partner na'ch partner sifil) sy'n methu â chyfrannu tuag at y Dreth Cyngor.

Pwy sy'n gymwys?

Budd-dal Treth Cyngor

Efallai y cewch Fudd-dal Treth Cyngor os ydych chi'n talu Treth Cyngor a bod eich incwm a'ch cyfalaf (eich cynilion a'ch buddsoddiadau) o dan lefel benodol.

Ad-daliad Ail Oedolyn

Efallai y cewch yr Ad-daliad Ail Oedolyn os yw'r canlynol yn wir am y sawl sy'n rhannu eich cartref:

  • nid yw'n bartner nac yn bartner sifil i chi
  • yn 18 oed neu'n hŷn
  • nid yw'n talu rhent i chi
  • nid yw'n talu Treth Cyngor ei hun
  • ar incwm isel

Mae'n bosibl y gallwch chi gael Ad-daliad Ail Oedolyn hyd yn oed os nad ydych chi'n cael Budd-dal Treth Cyngor.

Os yw un o'r ddau hyn yn berthnasol i chi:

  • nid oes gennych hawl i gael Budd-dal Treth Cyngor
  • nid yw'r hawl sydd gennych i fudd-dal ond yn cyfateb i 25 y cant neu lai o'ch Treth Cyngor

Dylai eich awdurdod lleol edrych i weld a oes gennych hawl i gael Ad-daliad Ail Oedolyn fel mater o drefn.

Pwy sydd ddim yn gymwys?

Os oes gennych gynilion gwerth dros £16,000 fel arfer ni fyddwch yn gallu cael Treth Cyngor, oni bai eich bod yn 60 oed neu'n hŷn a'ch bod yn cael 'gwarant credyd' y Credyd Pensiwn.

Ni fydd eich incwm a'ch cynilion yn effeithio ar yr Ad-daliad Ail Oedolyn. Seilir yr Ad-daliad Ail Oedolyn ar amgylchiadau'r person arall.

Ni chaiff y rhan fwyaf o geiswyr lloches a phobl sy'n derbyn nawdd i fod yn y DU Budd-dal Treth Cyngor.

Sut mae gweld a ydych yn gymwys

Os ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys i gael budd-dal Treth Cyngor, bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble cewch fwy o wybodaeth.

Faint fyddwch chi'n ei gael?

I weld faint o Fudd-dal Treth Cyngor gewch chi, bydd eich cyngor lleol yn edrych ar y canlynol:

  • yr arian sy'n dod i mewn gennych chi a'ch partner neu'ch partner sifil, gan gynnwys enillion, rhai budd-daliadau a chredydau treth a phethau fel pensiynau galwedigaethol
  • eich cynilion a chynilion eich partner neu'ch partner sifil
  • eich amgylchiadau: er enghraifft eich oedran, maint eich teulu a'u hoedrannau, a ydych chi neu unrhyw un yn eich teulu'n anabl, ac a oes rhywun sy'n byw gyda chi a allai helpu gyda'r rhent

Gostyngiad o 100 y cant ar eich bil yw'r swm mwyaf gewch chi o ran Budd-dal Treth Cyngor.

Os oes gennych hawl i gael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu 'warant credyd' y Credyd Pensiwn, mae'n bosibl y cewch chi'r swm mwyaf posibl i helpu gyda'ch Treth Cyngor.

Ad-daliad Ail Oedolyn

Rheswm dros ostwng y Dreth Gyngor - Canran y gostyngiad Canran y gostyngiad
Ad-daliad ail oedolyn sy'n derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Gredyd Pensiwn 25%

Os yw incwm wythnosol gros yr ail oedolyn yn llai na £175.00

15%

Os yw incwm wythnosol gros yr ail oedolyn rhwng £175.00 a £227.99

7.5%

Os oes gennych hawl i Fudd-dal Treth Cyngor ac Ad-daliad Ail Oedolyn, fe gewch chi ba un bynnag sy'n rhoi'r swm mwyaf i chi.

Sut mae'n cael ei dalu

Tynnir swm y Budd-dal Treth Cyngor a'r Ad-daliad Ail Oedolyn oddi ar eich bil Treth Cyngor.

Fe gewch fil newydd yn dangos faint o Dreth Cyngor mae'n rhaid i chi ei dalu ar ôl tynnu'r gostyngiad hwn.

Yr effaith ar fathau eraill o gymorth ariannol

Ni fydd y Budd-dal Treth Cyngor a'r Ad-daliad Ail Oedolyn yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill a gewch chi.

Sut i hawlio

Os ydych chi eisoes yn hawlio budd-daliadau eraill

Fe gewch ffurflen i hawlio Budd-dal Treth Cyngor, (gan gynnwys yr Ad-daliad Ail Oedolyn) a'r Budd-dal Tai os ydych chi'n hawlio unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol:

  • Credyd Pensiwn
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith

Dylech lenwi a dychwelyd y ffurflenni i'ch cyngor lleol.

Os nad ydych chi'n hawlio budd-daliadau eraill

Os nad ydych chi'n hawlio Credyd Pensiwn, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith, gallwch gael ffurflen gan eich cyngor lleol i hawlio Budd-dal Treth Cyngor, Ad-daliad Ail Oedolyn a Budd-dal Tai.

Llwytho ffurflen hawlio

Neu fe allwch lwytho'r ffurflen hawlio oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Hawlio ymlaen llaw

Cewch hawlio hyd at 13 wythnos (17 wythnos os ydych chi'n 60 neu'n hŷn) cyn i chi fod â'r hawl i gael Budd-dal Treth Cyngor.

Felly os ydych chi'n gwybod eich bod am symud i gyfeiriad newydd cyn bo hir, gallwch hawlio Budd-dal Treth Cyngor cyn i chi symud. Fel arfer, chewch chi ddim arian cyn i chi symud i mewn.

Hawlio cais am gyfnod sydd wedi mynd heibio

Mae'n bosib y bydd modd i chi hawlio Treth Cyngor sydd wedi mynd heibio os oes rheswm dilys pam nad oeddech yn gallu ei hawlio'n gynt.

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.

Beth i'w wneud os bydd eich amgylchiadau'n newid

Rhaid i chi roi gwybod i'ch cyngor lleol, er enghraifft:

  • os bydd unrhyw rai o'ch plant yn gadael yr ysgol neu'n gadael cartref
  • os bydd unrhyw un yn symud i'ch cartref neu allan ohono
  • os bydd eich incwm, neu incwm unrhyw un sy'n byw gyda chi, yn newid
  • os bydd eich cyfalaf neu'ch cynilion yn newid
  • os bydd eich rhent yn newid
  • os byddwch yn symud
  • os ydych chi neu'ch partner neu bartner sifil yn bwriadu bod oddi cartref am fwy na mis
  • os ydych chi neu rywun sy’n byw gyda chi yn mynd i’r ysbyty
  • os ydych chi neu rywun sy’n byw gyda chi yn dechrau gweithio, hyd yn oed os mai gwaith gwirfoddol ydyw
  • os ydych chi neu rywun sy’n byw gyda chi yn mynd i gartref gofal

Nid yw'r rhestr hon yn un gyflawn. Dilynwch y dolenni isod at wefan eich awdurdod lleol er mwyn cael gwybod rhagor.

Sut i apelio

Os gwrthodir rhoi Budd-dal Treth Cyngor i chi neu os nad ydych chi'n hapus gyda phenderfyniad eich cyngor, gallwch ofyn iddyn nhw ailystyried.

Dilynwch y dolenni isod at wefan eich awdurdod lleol er mwyn cael gwybod rhagor.

Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus gyda'r canlyniad, gallwch apelio i Dribiwnlys Apêl Unedig annibynnol.

Gostyngiad ar y Dreth Cyngor i bobl anabl

Efallai y cewch ostyngiad ar y Dreth Cyngor os ydych yn anabl neu os oes person anabl yn byw gyda chi.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU