We're creating a single website for everything to do with BIS but, while we do that, you'll find information in three places. > Find what you're looking for
1 Mae'r yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio (BERR) wedi mabwysiadu'r egwyddor, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, y bydd yn trin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal.
2 Mae'r Cynllun hwn yn nodi sut y bydd yr Adran yn gweithredu'r egwyddor honno wrth ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru. Wrth lunio'r mesurau a nodir yn y Cynllun, mae'r Adran wedi cadw mewn cof yr hyn sy'n briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol o ymarferol.
3 Gall yr Adran, o bryd i'w gilydd, gyflwyno i'r Bwrdd ddiwygiadau i'r Cynllun.
4 Mae'r Adran yn dilyn gweithgareddau eang, gyda'r cyfrifoldeb am eu gwireddu wedi ei ddatganoli i Unedau Rheoli o fewn yr Adran sydd hwythau'n gyfrifol am gymryd y camau y sonnir amdanynt yn y Cynllun hwn.
5 Mae'r Adran yn gyfrifol am noddi diwydiant, polisi masnach, hybu allforio, cystadleuaeth, ynni, materion corfforaethol a materion defnyddwyr, blaengarwch a thechnoleg, materion cwmnïau bach ac am ddatblygiad rhanbarthol a buddsoddi mewnol. Mae'r Adran hefyd yn gyfrifol am bolisi cysylltiadau diwydiannol, y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd Diwydiannol, y Gwasanaeth Ymgynghorol Cymodi a Chymrodeddu a Swyddfa Economeg y Llafurlu, yn ogystal ag am y Swyddfa Gwyddoniaeth a Thechnoleg sydd hithau'n gyfrifol am y Cynghorau Ymchwil ac am gydgysylltu polisi gwyddoniaeth a thechnoleg ledled y Llywodraeth.
6 Nod yr Adran yw helpu busnes y Deyrnas Unedig i gystadlu'n llwyddiannus gartref, yng ngweddill Ewrop a ledled y byd. Bydd Swyddfeydd Cyfarwyddwyr Noddi yn gweithio mewn partneriaeth â phrif sectorau diwydiant y DU i wella'u cystadleugarwch. Mae hybu allforio a gwella mynediad cwmnïau at dechnoleg a'r arferion gorau yn flaenoriaethau uchel, ac mae'r un peth yn wir am waith yr Adran i gryfhau'r cyswllt rhwng ymchwil gwyddoniaeth a pheirianneg sylfaenol a gwireddu ei photensial masnachol. Trefnir cefnogaeth i ddatblygiad a hyrwyddiad masnach, buddsoddi tramor a buddsoddi mewnol mewn partneriaeth â'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Mae'r Adran hefyd wedi arwain datblygiad y rhwydwaith Cysylltiadau Busnes yn Lloegr, sy'n cyfannu'r drefn ar gyfer rhoi cyngor a gwasanaethau busnes i gwmnïau bach. Felly, mae nifer o gynlluniau a gwasanaethau a wireddid gynt gan yr Adran yn uniongyrchol bellach yn cael eu cynnig i'r gymuned fusnes trwy'r rhwydwaith Cysylltiadau Busnes.
7 Lleolir Pencadlys yr Adran yn Llundain. Mae'r Adran hefyd yn gweithio trwy Swyddfeydd y Llywodraeth ar gyfer y Rhanbarthau yn Lloegr. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi cefnogaeth i ddiwydiant a datblygiad diwydiannol yng Nghymru, gan gynnwys Cyswllt Busnes, y rhwydwaith cynghori a chefnogi ar gyfer cwmnïau bach ledled Cymru. Felly, bydd siaradwyr Cymraeg yng Nghymru fel arfer yn cysylltu â Chynulliad Cenedlaethol Cymru neu Gyswllt Busnes yn hytrach na'r Adran Masnach a Diwydiant i gael cyngor a chefnogaeth mewn meysydd o'r fath.
8 Mae gan yr Adran nifer o Asiantaethau Gweithredol. Y rhain yw'r Gwasanaeth Ansolfedd, y Labordy Cenedlaethol Pwysau a Mesurau, yr Asiantaeth Radiogyfathrebu, y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd Cyflogaeth, y Gwasanaeth Cwmnïau Bach, Ty'r Cwmnïau a'r Swyddfa Batentau, gyda'r ddwy olaf hyn wedi eu lleoli yng Nghymru.
9 Mae Cynllun yr Adran yn gymwys i holl swyddogaethau pencadlys yr Adran ac mae'r Adran yn ymrwymo i gydweithredu'n agos â Chynulliad Cenedlaethol Cymru ar faterion yn ymwneud â Deddf yr Iaith Gymraeg. Cytunwyd ar Goncordat sy'n cadarnhau'r ffiniau rhwng swyddogaethau'r Adran a rhai Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd cyfrifoldebau'r ddau gorff gyda golwg ar ddarpariaeth Gymraeg yn parchu'r ffiniau hyn. Lle bo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu ei bartneriaid gyfrifoldeb am ddatblygiadau yng Nghymru, bydd yr Adran yn sicrhau y caniateir digon o amser i'w gwneud yn bosibl darparu'r dimensiwn Cymraeg angenrheidiol.
10 Tra bo'r Asiantaethau Gweithredol yn gweithio o fewn canllawiau polisi cyffredinol wedi eu gosod gan Weinidogion, mater i Brif Weithredydd pob Asiantaeth yw gweithgarwch beunyddiol, gan gynnwys gweithredu mesurau Deddf yr Iaith Gymraeg. Lle nad oes gan Asiantaethau'r Adran eu Cynlluniau Iaith Gymraeg eu hunain, bydd yr Adran yn trefnu i'w Chynllun hi fod ar gael i'r Asiantaethau hynny ac yn eu hannog i gwrdd ag anghenion y cyhoedd Cymraeg yng Nghymru yn unol ag egwyddorion Deddf yr Iaith Gymraeg.
11 Bydd yr Adran yn defnyddio'i dylanwad i hybu ymwybyddiaeth o anghenion siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Yn y meysydd canlynol lle mae ganddi ddiddordeb arbennig: